Bydd rhaid i'r syniad yma fownsio nol a mlaen rhwng y commons a'r Lords am ychydig fisoed, cyn i'r llywodraeth ryddhau papur gwyn fydd yn eistedd ar walod peil am flwyddyn neu ddwy, cyn cael ei fwyta gan afr Nicdafis. Sori, Gwion, fel popeth yn y byd cyfraith, mi fydd dod a'r cylch yma i fodolaeth yn broses hir a costus.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Dwi bron yn sicir mai ym Materion Prydain neu Materion Cymru fyddai rafodaethau am y gyfraith yn ffitio orau,
Fel mae krustysnacks yn ddweud - mae cylch cyfan am y gyfraith yn hurt bost - sawl trafodaeth t'n credu fyddai'n bodoli?
Gwion os oes gen ti gymaint o ddiddordeb yn y peth, be am gychwyn ambell i edefyn ar y gyfraith a gweld sut hwyl mae nhw'n gael? Os oes na dipyn o bobl sy'n gwbod am be ma nhw'n son yn ymateb ac yn awyddus i gael cylch, yna ella sa Nic yn medru creu un i ti. Ond dwi'm yn siwr os oes angen creu trafferth i Nic heb wbod os di'r peth yn mynd i lwyddo
Diolch cwl cymro, o leiaf ma ambell berson yn siarad sens! Byddai'n ffordd i bobl Cymdeithas beidio ei herlyn ir "extent" llawn! Gawn ni oleiaf ei drio plis, i weld os mae'n gweithio!?
Ia ond felna mae cael bobl i ddysgu 'chydig am y gyfraith, dwi'n darllen llawer o lyfrau cyfraith Prydain! Gellid wastad dileu y cylch os nad oes digon o ddiddordeb