Tudalen 1 o 2

Ffasiwn

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 11:40 am
gan Leusa
Helo 'na, 'dan ni isho gofyn yn neis am gylchffasiwn os gwelch yn dda!

Be 'di'ch barn chi? 8)

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 12:56 pm
gan Llefenni
Rwyf newydd wibio draw yma i ddatgan fy ngobaith am gylch ffasiwn hefyd... pliiiis? :(

Bydde fo'n gallu cwmpasu ffasiwn, bod yn trendi a pethe merched yn gyffredinol... neu alle fod yn hollol ffasiwn orientiedig i pob un o'n Huw Ffashs bach allan yn y byd mawr creulon...

Be amdani?! :winc:

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 1:44 pm
gan tafod_bach
syniad da. *gwneud twyrl*

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 1:59 pm
gan brenin alltud
Ategaf.

Eisie gwybod lle mae cael gafael ar ddillad neis, gwahanol ar y we...

Be' fydd enw'r seiat?

Stafell newid? Cwpwrdd dillad? Seiat steil (na)? Seiat Ffasiwn? Bocs dillad? Y Gist Ddillad? Hongian yn Llac? Trwsus Tynn (a Minnau un Gwyn)?
Aaa, stoppit...

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 2:14 pm
gan finch*
Y Wardrob?

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 2:17 pm
gan Fatbob
Ategaf hefyd.

Ma'r wedjen yn gynllunydd felly dwi'n gwbod gormod am Fendi baguets, sgidie Jimmy Choo a bias cut skirts. A ma un o'm ffrindie gore i'n ffotograffydd i'r cylchgronne glosi.

Ond wedi dweud hynny, dos dim steil gen i a dim diddordeb o gwbwl yn ffasiwn dynion, ond dwi'n ffan o wylie menywod porcyn ar y gath-gerdded-fwrdd (?) (catwalk)

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 3:23 pm
gan Llefenni
Mae angen wejen Fatbob arnaf (dim felna siwr!) - a chymorth steil yn y seiat a elwir...

:!: Off y Peg :!:

Na? Enw crap? Oce, sori :wps:

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 3:24 pm
gan Dr Gwion Larsen
Wel pob lwc ddweda i. Os di nic heb roi wbath mor gall a chylch clefydde i Macsen pam bydda fo yn rhoi Cylch Ffasiwn i fyny? :rolio:
Sori :wps:

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 3:47 pm
gan Barbarella
Ydych chi'n gofyn am fforwm drafod newydd (h.y. agored i holl aelodau'r maes) neu fforwm mewn cylch (h.y. dim ond aelodau'r cylch sy'n gallu gweld e).

Mae Nic wedi dweud o'r blaen ei fod yn fodlon creu unrhyw gylch (o fewn rheswm) mae galw amdano. Falle byddai fforwm gyhoeddus yn fater gwahanol.

Beth bynnag, pwy sydd am fod yn gymedrolwr y fforwm? Ac/neu arweinydd y cylch? (i dderbyn aelodau newydd ayyb)

Ac enw i'r cylch? A'r fforwm? (ddim o reidrwydd yr un peth -- e.e. "Pobl y Tywod" ydi'r cylch, "Y Blwch Tywod" ydi'r fforwm ar gyfer aelodau y cylch yna)

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 4:22 pm
gan Llefenni
Ymm... :?
Bydd angen meddwl yn ddwys am hyn... *brĂȘn yn brifo*:(