Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 4:26 pm
gan tafod_bach
allwn ni jest defnyddio'r edefyn yma i drafod y peth, a wedyn rhoi cais am gylch/negesfwrdd/gweinyddwyr etc etc pan da ni di penderfynu? dwi'n ama y byddai na lot fawr fawr o drafod (fel yn y fforymau srg etc), felly fyddai gwaith gweinyddwr/wraig ddim yn anodd, dwi'n credu.

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 4:29 pm
gan Llefenni
Gwd - achos dwi ar wefan vollers yn y gwaith ar hyn o bryd - yn cysidro'n ddwys pwrcasu un - ond fydd corset rhywiol satin ddu *rili* y peth gore i wisgo i briodas? *rili*?! :wps:

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 6:05 pm
gan tafod_bach
hmm.alle ti wisgo fe efo siaced neu un o'r clogynne bach sequinned 'na os ti'n ofn gormod o sylw gan 'yncls' pawennog. dwi'n teimlo fel bo fi di arwain ti ar gyfeiliorn nawr, tydw!

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 8:02 pm
gan Leusa
1. 'dw i'n cynnig ei wneud yn gylch gyda aelodau yn unig, lle bod o o ffordd pobol sydd hen ddiddordeb fel Gwion !
2. pleidlais am enw!

Be amdani! Toc mi fydd Cymru'n llawn pobol ffasiynol yr olwg, a pobol yn sibrwd dan eu gwynt wrth iddyn nhw basio ...."och, criw maes-e 'na eto..."

8)

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2004 8:34 pm
gan Dr Gwion Larsen
Ei neshim deud bod doedd geni ddim diddordeb, geni lot o ddiddordeb dwi'n top y ffasiwn efo fy scidia reebok :winc: deud bod dwnim os neith Nic ei roi i chi neshi de :x

PostioPostiwyd: Iau 16 Medi 2004 12:07 am
gan Siffrwd Helyg
On i di meddwl cynnig hyn o'r blaen! Syniad da! :D

PostioPostiwyd: Iau 16 Medi 2004 8:48 am
gan Llefenni
Bonza! Ww, edrych mlaen rwan... :D

Hoffwn gynnig diolch unwaith eto am y cymorth ffasiwn dwi wedi cel o'r edefnyn bychan hwn - os ni'n manijo achub un, fe fydd werth y drafferth (fade up strings) Ac i'r holl drueiniaid di-steil yn Nghymru, dywedaf - mae gobaith am fywyd gwell! *sniff* *emosiwn* :crio:

PostioPostiwyd: Iau 16 Medi 2004 12:43 pm
gan Gwestai
Barbarella a ddywedodd:Ac enw i'r cylch? A'r fforwm? (ddim o reidrwydd yr un peth -- e.e. "Pobl y Tywod" ydi'r cylch, "Y Blwch Tywod" ydi'r fforwm ar gyfer aelodau y cylch yna)


'Pobol Deniadol' fel enw'r cylch, a 'Lol Deniadol' fel enw'r fforwm?
Naa...

Y Ffasiwn Le? Tu Ol y Llenni?

PostioPostiwyd: Iau 16 Medi 2004 12:47 pm
gan Llefenni
:syniad: Y Ffasiwn Le... ie fyd, reit glyfar fana... :)