Cwpan y Byd - rygbi

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwpan y Byd - rygbi

Postiogan ceribethlem » Llun 12 Hyd 2015 9:13 am

Ma hon wedi bod yn Gwpan arbennig hyd yma. Bydde sawl un o'r farn mai Lloegr yn colli mas yw'r peth gorau amdani, ond rwy'n anghytuno gyda hyn. Sai'n aelod o'r ABE club, ac yn teimlo fod agwedd o'r fath yn dangos yr elfen waethaf ohonom ni fel Cymry.

Ta waeth, nol at y rygbi. Mae hon wedi bod yn Gwpan arbennig oherwydd perfformiad rhai o'r timoedd "bychain". Jorja a Siapan, yn arbennig, wedi gwneud argraff mawr ar y gystadleuaeth. Siapan gyda'r fuddugoliaeth hynod yna yn erbyn De'r Affrig. cawrion y Byd rygbi.
Mae'r drueni mowr fod y gemau wedi'u trefnu yn y fath modd bod anfanteision anheg i'r gwleydd "bychain". Cymerwch Siapan fel enghraifft, ar ol eu buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn De'r Affrig dim ond rhyw 4 diwrnod oedd tan fod rhaid iddynt wynebu yr Alban. Gyda chyfnod teg i gael eu ffitrwydd yn ol bydden i wedi bod yn hyderus y byddai Siapan wedi rhoi diawl o gem i'r Alban, ac efallai eu curo gan gyrraedd y chwarteri yn eu lle.

Drwy guro Cymru mae Awstralia nawr yn wynebu yr Alban yn y chwareteri, sydd yn golygu fod ganddynt gem yn y rownd gyn-derfynol heb os nac oni bai. Yr Alban yw'r tim gwannaf yn y chwarteri o beth wmbreth, ac y bydd Awstralia yn eu concro yn hawdd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron