Be dduwcs sy'n bod efo Cyngor Gwynedd d'wch? Ym mhob tre ewch chi, fedrwch chi'm troi rownd heb weld arwyddion am glybiau dilyn yn wy. Mae'r cyngor di sdicio arwyddion am glybiau Rygbi i fyny yn Blaenau Ffestiniog, Bethesda, Caernarfon, Bangor, Pwllheli. Ond os ewch chi i chwilio am gaeau pel-droed does gan y Cyngor ddim diddordeb i'ch helpu i'w cyraedd. Does dim arwyddion wedi'u gosod i ddweud lle mae'r caeau pel-droed yn yr un o'r trefi uchod na mewn unrhyw dref/pentref arall yng Ngwynedd 'ran hynny. Sut goblyn ma'r cyngor di dod i'r penderfyniad hwn. Mae tri o glybiau pel-droed y sir yn Uwch Gynghrair Cymru, yn wahanol i'r clybiau rygbi sy'n crafu eu tinau yn adran 5 ac is.
Does dim dwywaith pa un yw gem fwyaf Gwynedd - dim ond 8 clwb rygbi sy' yn y sir tra bod 27 clwb pel-droed alla i feddwl amdanyn nw. Sortiwch hi'r basdads.
Ys dywed bobl y de "Dyw gogs ff'ili whare rygbi"
Too right pal - dos i ddeud huna wrth Gyngor Gwynedd.