Cyngor G-WY-nedd

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyngor G-WY-nedd

Postiogan Dewyrth Jo » Gwe 28 Ion 2005 4:23 pm

Be dduwcs sy'n bod efo Cyngor Gwynedd d'wch? Ym mhob tre ewch chi, fedrwch chi'm troi rownd heb weld arwyddion am glybiau dilyn yn wy. Mae'r cyngor di sdicio arwyddion am glybiau Rygbi i fyny yn Blaenau Ffestiniog, Bethesda, Caernarfon, Bangor, Pwllheli. Ond os ewch chi i chwilio am gaeau pel-droed does gan y Cyngor ddim diddordeb i'ch helpu i'w cyraedd. Does dim arwyddion wedi'u gosod i ddweud lle mae'r caeau pel-droed yn yr un o'r trefi uchod na mewn unrhyw dref/pentref arall yng Ngwynedd 'ran hynny. Sut goblyn ma'r cyngor di dod i'r penderfyniad hwn. Mae tri o glybiau pel-droed y sir yn Uwch Gynghrair Cymru, yn wahanol i'r clybiau rygbi sy'n crafu eu tinau yn adran 5 ac is.

Does dim dwywaith pa un yw gem fwyaf Gwynedd - dim ond 8 clwb rygbi sy' yn y sir tra bod 27 clwb pel-droed alla i feddwl amdanyn nw. Sortiwch hi'r basdads.

Ys dywed bobl y de "Dyw gogs ff'ili whare rygbi"
Too right pal - dos i ddeud huna wrth Gyngor Gwynedd.
Dewyrth Jo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 290
Ymunwyd: Iau 15 Gor 2004 10:11 am

Postiogan Dewyrth Jo » Gwe 28 Ion 2005 4:37 pm

'Cofn bo gena chi ddiddordeb dyma'r timau allai feddwl am:

Chase The Egg ( 8 ) :
Bangor
Bethesda
Caernarfon
Pwllheli
Porthmadog
Bro Ffestiniog
Bala
Dolgellau

Gem y Bobl (27) :
Bangor
Bethesda
Mynydd Llandygai
Rhiwlas (dechra blwyddyn nesa)
Y Felinheli
Deiniolen
Bethel
Llanrug
Llanberis
Caernarfon
Caernarfon Borough
Dyffryn Nantlle
Celtiaid Talysarn
Trefor
Nefyn
Pwllheli
Llanystumdwy
Porthmadog
Penrhyndeudraeth
Blaenau Ffestiniog
Harlech
Bermo a Dyffryn
Dolgellau
Llanuwchllyn
Bala
Tywyn Bryncrug
Aberdyfi
Corris
Dewyrth Jo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 290
Ymunwyd: Iau 15 Gor 2004 10:11 am

Postiogan eusebio » Gwe 28 Ion 2005 4:51 pm

Mae Prifysgol Bangor yn chwarae yng Nghynghrair Môn hefyd
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan garynysmon » Gwe 28 Ion 2005 5:04 pm

Mae 'na wastad rhyw lol efo Rygbi. Fyswn i'm yn poeni gormod. Rydan ni i gyd yn gwbod be ydi gem y werin beth bynnag. Off a fi i Ffordd Ffarrar heno, fel arfer.

eusebio a ddywedodd:Mae Prifysgol Bangor yn chwarae yng Nghynghrair Môn hefyd

Tim gwael hefyd, os ga'i ychwanegu.


[wedi ei olygu gan y cymredolwr]
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 28 Ion 2005 5:14 pm

garynysmon a ddywedodd:Mae 'na wastad rhyw lol efo Rygbi. Fyswn i'm yn poeni gormod. Rydan ni i gyd yn gwbod be ydi gem y werin beth bynnag. Off a fi i Ffordd Ffarrar heno, fel arfer.


I ddyfynnu Bill Hicks, 'Thank God I'm strapped in here. I think God sent you hear to test my faith, dude.'
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan garynysmon » Gwe 28 Ion 2005 5:16 pm

Wel, os fyswn i'n datgan fy nghariad tuag at y bel hirgron ar y maes, fysa fy ffrindiau oll yn fy ngyrru'n syth i Ddinbych.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 28 Ion 2005 7:19 pm

garynysmon a ddywedodd:Wel, os fyswn i'n datgan fy nghariad tuag at y bel hirgron ar y maes, fysa fy ffrindiau oll yn fy ngyrru'n syth i Ddinbych.


Coventry ti'n feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan eusebio » Sad 29 Ion 2005 9:41 am

[wedi dileu ambell i neges ac wedi newid un arall]

Mae'r cymredolwr yn dweud:

Mae Dewyrth Jo yn gwneud pwyn teg am arwyddion ffyrdd a chyngor Gwynedd - plîs peidiwch â phostio sylwadau plentynaidd am y naill gamp na'r llall
Byddai tipyn bach o feirniadaeth gall yn chwa o awyr iach.

Al, mae 'na arwydd i Glwb Rygbi Caernarfon ger y cylchfan ar y ffordd allan o'r dre tua Bontnewydd.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan garynysmon » Sul 30 Ion 2005 4:52 pm

Sori :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Al » Sul 30 Ion 2005 8:09 pm

sori :wps:
Al
 


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 43 gwestai

cron