Tudalen 1 o 1

Cymru v. Eidal

PostioPostiwyd: Maw 08 Hyd 2002 11:41 am
gan Geraint
Pwy sy'n mynd?

Ma gennai fy nhocyn,

Manics yn chware cyn y gem

Bryn Terfel yn canu'r anthem,

Fe fydd yn anhygoel

2-1 i Gymru! :P

Re: Cymru v. Eidal

PostioPostiwyd: Maw 08 Hyd 2002 6:12 pm
gan Di-Angen
Geraint a ddywedodd:Pwy sy'n mynd?

Ma gennai fy nhocyn,

Manics yn chware cyn y gem

Bryn Terfel yn canu'r anthem,

Fe fydd yn anhygoel

2-1 i Gymru! :P


Fe fyddai yno fel arfer, er falle bydd rhaid i mi golli Bryn Terfel oherwydd chwaeth cerddorol. Newyddion da am Vieiri a Totti hefyd.

Prediction Di-Angen = 2-1 i Gymru.

PostioPostiwyd: Mer 16 Hyd 2002 8:59 am
gan Hedd Gwynfor
Di-angen

Mae'n ddwl dweud dy fod di yn cefnogi Cymru a Lloegr ar yr yn pryd, av yn beirniadu'r Cymry sydd am i Loegr golli bob tro.

Fydde ti byth yn gweld

Jack yn cefnogi Bluebirds?
Liverpudlian yn cefnogi Everton?
Cefnogwr Man City yn cefnogi Man Utd?
Ffan Celtic yn cefnogi Rangers?
Almaenwr yn cefnogi Lloegr?

Os fydde ti, da nhw ddim yn ffan go iawn, a da nhw ddim yn deall peldored. Dyw e jyst ddim yn digwydd. Mae yna hanes yna sy'n golygu eu bod yn elynion naturiol. Dyw hyn ddim yn meddwl fod pawb sy'n byw yn Abertawe am fynd allan a lladd unrhyw un sy'n dod o Gaerdydd, jyst banter peldroed ydyw e.

So plis os ti'n trio stirio, meddylia am bethe bach llai amlwg.

Hedd.

ON. On i am rhoi hwn yn y blwch trafodaeth arall, ond mae wedi cloi. Pam?

GYDA LLAW POB LWC I GYMRU HENO 1-0 I NI!

PostioPostiwyd: Mer 16 Hyd 2002 10:06 am
gan nicdafis
[Mae Di-Angen wedi gadael yr adeilad. Does dim amser 'da fi i weinyddu y bwrdd 'ma llawn amser, a'i unig gyfraniad e oedd i godi stwr a sarhau pobl. Mae'n flin 'da fi ychwanegu at ei storws o baranoia ond dw i ddim am weld y bwrdd 'ma mynd yr un ffordd a'r un Gordon.]

PostioPostiwyd: Mer 16 Hyd 2002 10:42 pm
gan nicdafis
<a href="http://www.figc.it/versione_inglese/notizie/main_notizia_primo_piano.htm">Llongyfarchiadau</a> i Geraint a'r hen Di-Angen. Dylai fe wedi bod 3-1 wrth gwrs...

A da iawn i'n ffrindiau yn Lloegr am gynlyniad go dda yn erbyn Macedonia.

PostioPostiwyd: Iau 17 Hyd 2002 2:57 pm
gan Geraint
Noson a gem anhygoel, roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn arbennig, dwi bron methu siarad heddiw ar ol gwaeddi gymaint.

Gobeithio allwn ni gario mlaen perfformio fel hyn a cyrraedd Euro 2004, edrych mlaen at wylie yn Portiwgal yn barod!

:D :D :D :D :D :D :D :D :D :D :D