Tudalen 1 o 1

pob lwc i Loegr a'r Alban yfory

PostioPostiwyd: Gwe 11 Hyd 2002 1:00 pm
gan Di-Angen
Pob lwc i Loegr fory! Rwy'n cytuno y dylwn gefnogi timau fel Iwerddon oherwydd eu cysylltiadau a Chymru, ond mae gan Loegr fwy o gysylltiad erbyn hyn a Chymru na unrhyw wlad arall, a mae'n siwr fod yna fwy o Gymry yn Lloegr na yn unrhyw wlad arall. Felly pob lwc iddynt nhw a'r Alban yfory.

PostioPostiwyd: Sul 13 Hyd 2002 2:18 pm
gan Di-Angen
A da iawn iddynt ddau. Roeddwn yn gweiddi fy lungs allan dros Loegr, yn enwedig pan aeth yr ail gol yna i fewn.

Gobeithio gall Cymru wneud yr un mor dda nos Fercher.

PostioPostiwyd: Llun 14 Hyd 2002 11:51 am
gan Geraint
Doedd Lloegr ddim yn haeddu dim or gem, roedd Slofakia yn chware'n well, "jammy" yw'r gair gore i ddisgrifio fe. Mi faswn wrth fy modd os ceith Cymru byth cyfle i chware Lloegr, ar hyn o bryd, sa ni'n rhoi hell iddyn nhw!

PostioPostiwyd: Llun 14 Hyd 2002 12:42 pm
gan Di-Angen
[Mae'r neges hon wedi cael ei golygu.]

Geraint a ddywedodd:Doedd Lloegr ddim yn haeddu dim or gem, roedd Slofakia yn chware'n well, "jammy" yw'r gair gore i ddisgrifio fe. Mi faswn wrth fy modd os ceith Cymru byth cyfle i chware Lloegr, ar hyn o bryd, sa ni'n rhoi hell iddyn nhw!


Yn anffodus, mae'r timau gorau i gyd yn "jammy" weithiau. A wyt wir yn credu y bydden ni gallu curo Lloegr ar y funud? Rwy'n credu falle gallen ni ennill 3 gem allan o 10 yn eu herbyn, ond dim lot mwy - mae dal problem mawr gyda ni yn y defence, a mae gan nhw ormod o dalent yn mynd ymlaen.

PostioPostiwyd: Llun 14 Hyd 2002 12:58 pm
gan Gwestai
Ma tim Lloegr ar bapur yn wych, ond tro ar ol tro, mae'r tim yn perfformio'n wael iawn am rhyw rheswm. O safbwynt Lloegr, allai ddim credu fod Macmanaman ddim yn y squad.

3 allan o ddeg, falle. Ond os fase gem one off yn cael ei cynnig, faswn yn cymryd y siawns.

Dwi'n meddwl fe dydd gwell syniad o pwy mor dda ma Cymru ar ol y gem nos Fercher, ac ar ol i'r hype tawleu.

Re: pob lwc i Loegr a'r Alban yfory

PostioPostiwyd: Llun 14 Hyd 2002 8:37 pm
gan Robin Pigwyn
Di-Angen a ddywedodd:Pob lwc i Loegr fory! Rwy'n cytuno y dylwn gefnogi timau fel Iwerddon oherwydd eu cysylltiadau a Chymru, ond mae gan Loegr fwy o gysylltiad erbyn hyn a Chymru na unrhyw wlad arall, a mae'n siwr fod yna fwy o Gymry yn Lloegr na yn unrhyw wlad arall. Felly pob lwc iddynt nhw a'r Alban yfory.


Di-Angen - ti mor amlwg!

Mi alla i weld y sefyllfa rwan yng nghartef bach clyd Di-Angen...

"hmmm, dwi'n bord. Be ga i wneud?
A! :syniad: Gwych! Mi ai ar fforwm Maes-e i ganmol Lloegr a'r Saeson. Wedyn mi ga i eistedd yn ol i weld yr ymateb..."

Sgen ti'm byd gwell i neud efo dy hun?