Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 30 Hyd 2002 7:22 pm
gan ceribethlem
Yn ôl yr hen ddywediad:

Dwi'n cefnogi dwy dim: Cymru, a phwy bynnag sy'n chwarae Lloegr!


Dwi o'r farn fod hyn yn beth hollol naturiol i'w wneud. Pan fues i yn Seland Newydd roedd y sticeri yn dweud:

"I support 2 teams, the All-Blacks ... and whoever plays Australia!"

Mae'r agwedd hyn yn ymddangos yn beth canolig i Chwaraeon.

Mae ffans rygbi Llanelli am i Abertawe golli, yn yr un modd a mae ffans ffwtbol Caerdydd (Di-Angen aside wrthgwrs!!) am i Abertawe golli. Mae'n rhan o'r local derby mentality

Felly ar y nodyn yna:

Dewch mlaen ta pwy ma' Lloegr yn Chwarae nesaf. Mewn unrhyw camp!!

PostioPostiwyd: Llun 04 Tach 2002 11:00 am
gan Prysor
Dyma engraifft arall o pam mae ffans ffwtbol Cymru'n casau Lloegr - agwedd Lloegr at Gymru, ac agwedd y wasg at Gymru.

Mae achos Mark Bowen yn cael ei orfodi i adael tim hyfforddi Cymru oherwydd rhwymiadau ei glwb, Birmingham City - oedd yn wrthwynebus iddo gymryd rhan yn set-yp Cymru - yn wyddus i bawb.

Rwan mae'r olwyn wedi troi, a mae Mark Hughes wedi defnyddio 'rheol pedwar diwrnod FIFA' i wneud yn siwr y bydd Robbie Savage a tri chwaraewr arall sydd gan gemau clwb ar y Sul cyn trip Cymru i Azerbaijan yn ymuno a sgwad Cymru mewn digon o bryd i hyfforddi etc.

Beth ydi ymateb Birmingham City? A be ydi ymateb y wasg 'Brydeinig' i hyn?
Yn y Sunday People ddoe roedd adroddiad ar gem Birmingham a Bolton, a roedd Robbie Savage wedi cael Man of the Match. Dyfynaf y paragraff perthnasol, ynghyd a'r sub-heading uwch ei phen:-

FURIOUS
"Yesterday, as per usual, Savage was at the heart of everything and it was his 73rd-minute goal that knocked the stuffing out of 10-man Bolton. It must have felt oh so good. Birmingham have been understandably furious with Mark Hughes and the way he has invoked the four-day rule that will rob them of the Welsh international for the game against Fulham in a fortnight."

PostioPostiwyd: Llun 04 Tach 2002 7:37 pm
gan ceribethlem
Clywch clywch. Dyw'r wasg Saesneg ddim yn fodlon cydanbod fod anghenion rhyngwladol Cymru ar yr un lefel a'u anghenion rhyngwladol nhw. Mae nhw yn meddwl taw gemau Lloegr yw'r rhai pwysig lle bod gemau Cymru yn gyfle i rhai chwaraewyr cael cyfle o pel-droed rhyngwladol pan nad oes gem pwysicach e.e. gemau'r Uwch-gynghrair.

Maent wedi anghofio wrth gwrs mae ni ennillodd y gem dwetha rhwng y ddwy wlad!!!