Pam fod cymaint o chwaraewyr Cymru'n diflannu adeg ffrendlis

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pam fod chwaraewyr Cymru'n diflannu adeg ffrendlis?

Wedi brifo go iawn
1
14%
Yn rhy ffycin ddiog i drafaelio
6
86%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 7

Pam fod cymaint o chwaraewyr Cymru'n diflannu adeg ffrendlis

Postiogan Prysor » Llun 19 Awst 2002 9:43 pm

:? Dwi'n gwbod fod y ffrendli yma yn erbyn Croatia wedi ei threfnu ar adag anodd, ond mae'n rhaid i Mark Hughes a'r bois gymeryd pob gem sydd yn cael ei gynnig i ni. Mae'n bwysig paratoi at mis Medi, pryd byddwn yn dechrau ar yr ymgyrch go iawn. Dylai bod pob Cymro sy'n chwarae i'w wlad fod yn barod i fynd i'r gem yma gan fod teimlad newydd o obaith am wawr newydd efo'r tim a'r set-yp presennol. Ac ers llwyddiant De Korea a Twrci yn y Wyrld Cyp, mae lle i hyder newydd dyfu ar ben yr hyder sydd wedi magu ar ol ein gemau diweddar. Dylai'r hogia roi cant y cant i'r paratoadau, a rhoi blaenoriaeth i'w gwlad bob tro ac yn enwedig ar adeg mor bwysig.
Gwn fod Giggs yn chwara i ManU (scym, ach..pyh!) nos Wener, ond dylsa fo ddewis ei wlad o flaen ei glwb. Mae o'n gwbod ei fod yn ran mawr o blania Mark Hughes. Fysa Michael Owen yn gwrthod chwara i Inger-land? Dim ffiars!
Mae rhai chwaraewyr wedi cael anafiadau bychain, ond mae'n rhyfedd bod nhw o hyd yn cropio fyny cyn ffrendlis.
Gobeithio fydd pob un yn ffit erbyn gem yr Eidal.
Pob lwc i'r hogia sy'n mynd drosodd. 8)

Gyda llaw, beirniadu Giggs am ei benderfyniad ydw i. Dwi ddim o'r farn ei fod yn Gymro sal etc. O leiaf mae o wedi dewis chwarae i Gymru. Mi fysa fo yn superstar sa fo wedi dewis Lloegar.
A dwi ddim yn cydsynio efo galw Michael Owen yn fradwr chwaith, achos Sais ydio. Saeson o Wirral wedi symud i Penarlag yw ei rieni, a mi aethant i Gaer i eni'r 'boy wonder' er mwyn gneud yn siwr y byddai'n Sais (yn eu tyb hwy), gan basio Glannau Dyfrdwy ar y ffordd.
Wedi deud hynny, efalla y dyla fo fod wedi rhoi rhywbeth yn ol i'r wlad ari feithrin ei dalent. Ond mae hynny'n rwbath hypocritical i ddeud, achos ari Giggs ddim dewis Lloegar - a feithrinodd ei dalent o!
Na - Owen, dydio ond yn gneud be fyswn i'n wneud os fyswn i'n Gymro yn byw yn Lloegar, chwarae i'ng ngwlad.

Oes rywun allan fanna yn gneud ffantasi ffwtbol? Be ydi dy dim di?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Di-Angen » Llun 19 Awst 2002 10:05 pm

Tim fi:

Seaman
BAbbel
Delaney
Dabizas
Staunton
Simon Davies
Damien Duff
Giggs
Gilberto Silva
Bellamy
Van Nistelrooy

Cytuno gyda ti am chwarawyr yn mynd, ond a allai Giggs wedi chwarae i Loegr hyd yn oed os oedd e eisiau?
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Giggs

Postiogan Prysor » Llun 19 Awst 2002 11:19 pm

Byddai wedi cael chwarae i Loegr am ei fod wedi chwarae i England Schools a youth.

Dyma'r tim i guro - Prysor Rovers

Dudek
Hyppia
Babbel
Woodgate
Babayaro
Parlour
Bowyer
Roy Keane
Robbie Kean
Huckerby
Geoff Horsfield (pwy?), Birmingham :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Di-Angen » Maw 20 Awst 2002 1:24 pm

Byddai wedi cael chwarae i Loegr am ei fod wedi chwarae i England Schools a youth"

A wnaeth Michael Owen ddim chwarae i youth Cymru? Sai'n cofio'n iawn i ddweud y gwir, ond rwy'n cofio rhyw fath o erthygl amdano, pan oedd pawb yn gwybod y byddai ond allu chwarae i Loegr broffesiynol.

Dyw byw mewn gwlad arall ddim yn eich galluogi i chwarae yno (heblaw cael passport), fely gwelid gan achos Chris Armstrong.

Beht bynnag, falle mai rwts yw hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Prysor » Mer 21 Awst 2002 9:41 am

Chwaraeodd Michael Owen i Welsh Schools yn bendant. Fo oedd y top scorer a'r 'new Ian Rush'.
Dwi'n meddwl iddo chwarae i youth hefyd, ond allai ddim bod yn sicr.
Fe gafodd ei 'sbotio' (ei ddwyn!) gan yr England scouts yn reit fuan, fodd bynnag.
Wrth gwrs, fedrai ddim beirniadu ei ddewis o glwb o gwbl. Hwnnw yw'r clwb peldroed gorau yn y byd wrth gwrs!

A gyda llaw, mae unrhyw un sy'n mynd i ysgol yn unrhyw wlad yn cael chwarae i'r wlad honno ar lefel ysgolion. Mae hynny wedyn yn eu gwneud yn gymwys i'r 'youth team', yna 'under 18's' a 'under 21's'.
Mae llu o sefyllfaoedd eraill yn galluogi chwaraewyr i chwarae i'r wlad lle maent yn byw.

Mae'n sefyllfa digon cymhleth a deud y gwir. Sbiwch Owen Hargreaves, tad English Canadian, mam Gymraeg a dinasyddiaeth Almaenig, ond chwarae i Loegr.
Collodd Cymru gwpwl o chwaraewyr da i Ogledd Iwerddon dros y blynyddoedd. Roedd Kevin Sheedy, er engraifft, yn Gymro. Roedd yn yr ysgol yn Yr Wyddgrug efo cyfaill i mi.
Mae David Vaughan o Rhuddlan, sy'n chwarae i Crewe, wedi cael ei alw i fyny i sgwad Cymru yn erbyn Croatia heno. Mae'n Gymro Cymraeg, ond fe gafodd y siawns i chwarae i Loegr am fod ei daid yn Sais. Triwyd bob sut i'w hudo i chwara i Loegr er mai i Ieuenctid Cymru a'r tim dan 21 Cymru y chwaraeodd. Dydi y lefelau yma yn cyfrif dim byd. Ond dewis Cymru mae wedi wneud yn y diwedd, a chwarae teg i Dario Gradi, rheolwr Crewe, anogodd ef i chwarae dros y wlad a deimlai ei hun yn perthyn iddi. OND - hyd yn oed os ceiff ddod ar y cae am bum munud heno, neu hyd yn oed chwarae'r gem lawn, ni fydd hynny yn ei rwymo i Gymru er mai'r tim llawn ydio. Mae'r gem yn 'unclassified' friendly, felly nid yw'n cyfri (er bod ffrendlis yn cyfri yn y rankings rwan).

Rhyfedd ond gwir!

Er bod lot o chwaraewyr yn rhy ddiog i chwara mewn ffrendlis, mae yn codi calon i ddarllan datganiadau John Hartson bob tro. Mae wedi deud mai chwarae i Gymru yw'r peth pwysicaf iddo, a'i fod ar gael i bob ffrendli. 'I'm part of Wales', meddai.
Clywch clywch.

POB LWC I'R HOGIA HENO! CMON CYMRU!!
CROATIA - EARNIE'S GONNA GET YOU!!! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Gwestai » Mer 21 Awst 2002 9:42 am

Gyda llaw, wnes i fistec yn fy neges cynt, dim West Brom mae Horsfield yn chwara i ond B'ham. (Same ffycin thing, midlands rybish).

Er bod lot o chwaraewyr yn rhy ddiog i chwara mewn ffrendlis, mae yn codi calon i ddarllan datganiadau John Hartson bob tro. Mae wedi deud mai chwarae i Gymru yw'r peth pwysicaf iddo, a'i fod ar gael i bob ffrendli. 'I'm part of Wales', meddai.
Clywch clywch.

POB LWC I'R HOGIA HENO! CMON CYMRU!!
CROATIA - EARNIE'S GONNA GET YOU!!! :crechwen:
Gwestai
 
Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 21 Awst 2002 2:48 pm

Be fydde chi'n dewis fel tim Cymru os byddai pawb yn ffit?

Dyma'n nhim i

Rheolwr - Hedd Gwynfor / Assistant - Ioan Teifi (brawd bach)

4-3-2-1

(Gol) Paul Jones
(LB) Gary Speed
(RB) Mark Delaney
(CB) danny Gabbidon
(CB) Chris Coleman
(LM) Mark pembridge
(CM) Robbie Savage
(RM) Simon Davies
(AM) Ryan Giggs
(AM) Craig Bellamy
(CF) John Hartson

Subs - Crossley, Earnshaw, Mellville, Koumas, Blake.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Meilyr » Mer 21 Awst 2002 4:24 pm

Dwi'n cytuno efo dy dim di gyd Hedd, heblaw am Coleman - ma gin i ofn i fod o wedi darfod ar ol yr anaf na. Mi faswn i'n cadw Mark Hughes fatha rheolwr hefyd!
Dwi'n meddwl hefyd mai Gary Speed ydy'r cefnwr chwith gora da ni di gal ers tro byd - peth anodd i mi ddeud gan fy mod i'n Evertonian a mi nath o rili gachu arnan ni ychydig flynyddoedd yn ol!
O ran sefyllfa Giggs/Owen dwi'n meddwl mod i'n iawn wrth ddeud nad oedd gan yr un o'r ddau ddewis pa wlad i'w chynrychioli ar y lefel ucha. Gan fod Giggs wedi'i eni yng Nghymru a bod i deulu fo i gyd yn Gymry doedd o ddim yn gymwys i chwarae i Loegr. Yr un peth am Owen y ffordd arall rownd.
Meilyr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Maw 20 Awst 2002 10:08 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Prysor » Iau 22 Awst 2002 7:55 pm

Cytuno.
Mi gafodd Gabbidon stormar o gem neithiwr. Ond efalla fysa profiad Page yn fantais weithia, a mi fyswn yn ei roi yn sub. Mi fysa Mathew Jones ar y fainc hefyd, ac weithia fyswn i yn ei roi i chwara yn lle Savage (petai ni yn chwara gem agorad er engraifft). Mi fyddwn yn rhoi Melville efo Gabbidon neu Page, gan fod yr hen Coleman druan angan amsar i ddod yn ol i fform. Ond dwi'n anghytuno fod ei ddyddiau drosodd. Dydi class ddim yn mynd i ffwrdd. Mae'r ddawn yn y meddwl.
Dydi'n braf cael cryfder mewnol unwaith eto?
Ie, un o'r pethau gwych mae Sparci wedi ei wneud ydi rhoi Speed yn left back. Ond dwi'n anghytuno ei fod o wedi cachu ar y Toffees. Cachu mae nhw'n haeddu!

Prysor (ffan Lerpwl). :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

'Buddugoliaeth' yng Nghroatia

Postiogan Prysor » Iau 22 Awst 2002 8:09 pm

:D Anghofiwch y camgymeriad erchyll yn y glaw a'r mwd gan Jonesey. Anghofiwch yr equaliser cachu pwmp. (Diolch byth na ffrendli oedd hi! Cyn bellad a bod peldroed Cymru yn y cwestiwn roedd neithiwr yn lwyddiant ysgubol. Rydym yn ol!!!

Curo'r Ffindir rwan, hyder i wynebu'r Eidal adref wedyn!!! Ffwrdd a ni i'r Algarve yn 2004. Sex, drygs a ffwtbol (A HAUL!) C'mon Cymru! 8)

(Ffycin hel mae gennai hangofyr heddiw).

"Are you watching Ryan Giggs" oedd y gan gan y ffans neithiwr. Digon teg ar y noson, ond gobeithio y newidith petha wedi i Giggsy ddechra sgorio pan mae'n cyfri! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron