Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Mwya tebyg hon ydy'r gem olaf i mi chwarae i Port am chydig flynyddoedd gan mod i'n mynd i brifysgol ym mis Medi, rywun isio arwyddo centre half erbyn tymor nesa yn ardal Aber??
Oes. Bydde croeso mawr i ti seinio i Bont dwi'n siwr - tim Cymreig cyfeillgar a chymdeithasol. Anfon neges breifat pryd ti'n cychwyn coleg - ma angen gog arall yn y tim
Nath tymor ni orffen bythefnos yn ol, 4ydd yn y gynghrair felly un yn well na llynedd. Ath hi braidd yn fflat erbyn diwedd y tymor gan bod dim i chwarae amdano mewn gwirionedd. Argoeli'n dymor caled blwyddyn nesaf efo dau dim cryf, Aber IIIrds a ail dim Tywyn Bryncrug yn ennill dyrchafiad.
Ar nodyn mwy posatif, natho ni ennill cystadleuaeth y 'Plat' yn nhwrnament 7-bob-ochr Aberystwyth dros y penwythnos