Tudalen 1 o 1

Cymru, Lloegr a Birmingham City

PostioPostiwyd: Llun 04 Tach 2002 10:57 am
gan Prysor
Mae achos Mark Bowen yn cael ei orfodi i adael tim hyfforddi Cymru oherwydd rhwymiadau ei glwb, Birmingham City - oedd yn wrthwynebus iddo gymryd rhan yn set-yp Cymru - yn wyddus i bawb.

Rwan mae'r olwyn wedi troi, a mae Mark Hughes wedi defnyddio 'rheol pedwar diwrnod FIFA' i wneud yn siwr y bydd Robbie Savage a tri chwaraewr arall sydd gan gemau clwb ar y Sul cyn trip Cymru i Azerbaijan yn ymuno a sgwad Cymru mewn digon o bryd i hyfforddi etc.

Beth ydi ymateb Birmingham City? A be ydi ymateb y wasg 'Brydeinig' i hyn?
Yn y Sunday People ddoe roedd adroddiad ar gem Birmingham a Bolton, a roedd Robbie Savage wedi cael Man of the Match. Dyfynaf y paragraff perthnasol, ynghyd a'r sub-heading uwch ei phen:-

FURIOUS
"Yesterday, as per usual, Savage was at the heart of everything and it was his 73rd-minute goal that knocked the stuffing out of 10-man Bolton. It must have felt oh so good. Birmingham have been understandably furious with Mark Hughes and the way he has invoked the four-day rule that will rob them of the Welsh international for the game against Fulham in a fortnight."

Deud o i gyd dydi?

Re: Cymru, Lloegr a Birmingham City

PostioPostiwyd: Llun 04 Tach 2002 12:35 pm
gan Di-Angen
Prysor a ddywedodd:Mae achos Mark Bowen yn cael ei orfodi i adael tim hyfforddi Cymru oherwydd rhwymiadau ei glwb, Birmingham City - oedd yn wrthwynebus iddo gymryd rhan yn set-yp Cymru - yn wyddus i bawb.

Rwan mae'r olwyn wedi troi, a mae Mark Hughes wedi defnyddio 'rheol pedwar diwrnod FIFA' i wneud yn siwr y bydd Robbie Savage a tri chwaraewr arall sydd gan gemau clwb ar y Sul cyn trip Cymru i Azerbaijan yn ymuno a sgwad Cymru mewn digon o bryd i hyfforddi etc.

Beth ydi ymateb Birmingham City? A be ydi ymateb y wasg 'Brydeinig' i hyn?
Yn y Sunday People ddoe roedd adroddiad ar gem Birmingham a Bolton, a roedd Robbie Savage wedi cael Man of the Match. Dyfynaf y paragraff perthnasol, ynghyd a'r sub-heading uwch ei phen:-

FURIOUS
"Yesterday, as per usual, Savage was at the heart of everything and it was his 73rd-minute goal that knocked the stuffing out of 10-man Bolton. It must have felt oh so good. Birmingham have been understandably furious with Mark Hughes and the way he has invoked the four-day rule that will rob them of the Welsh international for the game against Fulham in a fortnight."

Deud o i gyd dydi?


Mae yna ddigon o club v country rows gyda Lloegr hefyd. Y cwyn yw bod Cymru wedi trefnu gemau cystadleuol ar adeg lle mae pawb arall yn cael gemau friendly. Pwynt digon teg, ond eto, who cares am Birmingham. Mae sylwadau Alex Ferguson am "this will not do wales any good in the long run" yn fwy worrying.

Ac hefyd, mae twats y Premier League am wneud i wledydd talu am gael services y players ar gyfer internationals!

PostioPostiwyd: Maw 05 Tach 2002 7:14 pm
gan Prysor
Mae'r newyddion heddiw fod FIFA wedi gneud tro pedol ar y mater yma yn drist iawn. Yn ol amendment i'w rheol pedwar diwrnod dyw Cymru ond yn cael y chwaraewyr am 48 awr cyn y gem oherwydd bod FIFA wedi clustnodi y dyddiad fel dyddiad gemau cyfeillgar yn unig, a bod Cymru wedi trefnu gem gystadleuol ar y diwrnod hwnnw.
Dydio ddim yn gneud llawer o sens, achos wedi'r cwbl, gem gystadleuol yw gem gystadleuol, waeth beth bynnag mae FIFA yn ddeud.
Ond beth sydd yn ei wneud yn waeth yw y ffaith fod gan Latvia gem gystadleuol ar yr un diwrnod, a mae nhw YN CAEL eu chwaraewyr am bedwar diwrnod ymlaen llaw!
Mae'n debyg mai Birmingham sydd wedi bygwth gweithredu cyfreithiol, a FIFA wedi cachu llond eu trons.
Dyna fo, be mae rhywun yn ddisgwyl gan ful ond cic. Diolch, Birmingham! Wankers!
Felly, dim ond gobeithio na chaiff yr un o'n hogia ni niwed ar y dydd Sul cyn gem Azerbaijan. Croeswch eich bysidd a pob peth arall medrwch chi.

Deiseb

PostioPostiwyd: Maw 12 Tach 2002 12:53 am
gan Robin Pigwyn
http://www.petitiononline.com/FIFA/petition.html

Arwyddwch y ddeiseb yma sy'n galw am ddiwedd i'r anhegwch.