Tudalen 1 o 5

Cymru v Liechtenstein (yn Wrecsam 14.11.06)

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 10:45 am
gan Rhys
Meddwl se'n synnwyr dechrau edefyn ar wahan ar gyfer y gêm gan bod tipyn o drafod wedi bod amdano yn yr edefyn 'Torfeydd Cymru'.

Rhag ofn bod rhwyun heb ei ddarllen, dyma fanylion tocynnau:
Ticket Information - Friendly International - Wales v Liechtenstein
18/10/2006
Friendly International Challenge Match
Wales v Liechtenstein
The Racecourse Ground, Wrexham
Tuesday, 14th November 2006. Kick Off 7.45pm

Tickets are available from

Ticketline UK Ltd : 08700 667799
Wrexham FC : 01978 262129

Ticket Prices:

Yale/Mold Road Stand (Seated: £15.00
KOP (Standing Area): £8.00

Eric Roberts Stand (Family Enclosure)

Adults: £10.00
Juveniles: £5.00

Please note that all tickets are subject to a 10% administration fee & postage charge.



Felly, pwy arall heblaw am Glewlwyd Gafaelfawr, garynysmon, SbecsPeledrX a fi'n mynd i hwn?

Ydyn ni gyd am gwrdd cyn gêm am beint? Dwi ddim fel arfer yn yfed cyn gemau Wrecsam sio dwi ddim y gorau i awgrymu lle i gwrdd. Debyg fydd y Turf yn llawn dod, ond efallai bydd Wrecsam Lager Social Club ar agor i'r cyhoedd. Mi wnai geisiau ffeindio allan.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 12:44 pm
gan Madrwyddygryf
Dwi'n mynd !

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 2:31 pm
gan dave drych
Dwi'n gobeithio mynd. Fydd rhaid ifi weld yn nes at yr amser, dibynnu os bydd tocynnau ar ôl cos dwi ddim yn yr ardal i brynu rhai.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 5:59 pm
gan SbecsPeledrX
Be am y weatherspoons yn dre? A dwi'n mynd.

PostioPostiwyd: Iau 26 Hyd 2006 8:18 am
gan S.W.
Dwin gobeithio mynd - mae'r swyddfa reit yn ymyl y Cae Ras felly gallai weithio'n hwyr noson yne a mynd syth i'r gem wedyn.

Clwb Lager (mwy neu lai drws nesa i'r swyddfa), Turf neu'r Plas Coch (wrth Sainsbury) ydy'r 3 agosaf, Wetherspoons yn rhatach ac yn agos - er braidd yn chafaidd Sbecs - llawn o'r plantos 'Frontline' ar ddiwrnod gemau Wrecsam.

PostioPostiwyd: Iau 26 Hyd 2006 12:18 pm
gan Cynyr
Fi'n gobeithio mynd. Heb fod yn y Cae Ras ers blynyddoedd.

PostioPostiwyd: Iau 26 Hyd 2006 12:27 pm
gan Iwan
Dwi'n mynd! Edrach mlaen i weld Cymru'n chwarae adref ble mae posibilrwydd bydd awyrgylch dda am y tro cyntaf ers talwm!!

PostioPostiwyd: Iau 26 Hyd 2006 4:28 pm
gan Owain
Gobeithio mynd wrth gwrs. Fydd dim angen prynu tocyn o flaen llaw yn na? Waeth fi drio safio ar y blwming '10% admistration' ma nhw'n godi!!

PostioPostiwyd: Mer 01 Tach 2006 4:36 pm
gan løvgreen
Dwi'n gweithio ar y nos Fawrth. :crio:
Ond y Turf ydi'r lle i fynd.
Neu'r Centenary Club, o dan yr Yale Stand, os fydd o'n agored, am beint rhad a digon o le.
50c ar y drws.
Wrth gwrs, os ydech chi yno mewn digon o amser, fedrith nunlle guro'r Horse & Jockey yn dre.

PostioPostiwyd: Llun 06 Tach 2006 11:21 am
gan Wilfred
Dwi'n gobeithio mynd i'r gem.