Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Maw 14 Tach 2006 3:43 pm
gan Gwyn
Prediction: Cymru 3 Liechtenstein 0
Earnie (2) a Giggs.

PostioPostiwyd: Maw 14 Tach 2006 3:43 pm
gan S.W.
Mae'n debyg mae tiwn God Save the Queen sydd i anthem Liechtenstein! Faint o bet fydd pobl yn clywed y diwn ac yn dechre bwian?

Edrych ymlaen at y gem! Loriau Sky ymhob man yma.

phew

PostioPostiwyd: Maw 14 Tach 2006 10:00 pm
gan Carlos Tevez
Ochenaid o ryddhad!

rhaid deud oeddwn i yn poeni am y gem hon ..dwn i'm pam! weles i ar ben fy hun mewn tafarn yn brwsel..mae'n syndod faint o fobl sydd yn troi fyny i gemau peldroed Cymru (i.e fi heno ma) i gymharu gyda blydi rygbi i ffwrdd o adre, ond dyna fo..

ond perfformiad da gyda bellamy/koumas ar dan fel arfer a'r hogiau newydd fel chris llewelyn a steve evans yn neud yn dda, bydd hwn yn cover da i'r amddiffynwyr yn y gemau i ddod yn 2007..

moment mwyaf bisar y gem---be ffwc oedd anthem y liechensteiwyr!! "god save the qu*en" ???

edrych mlaen rwan i belfast yn y flwyddyn newydd!!

Re: phew

PostioPostiwyd: Mer 15 Tach 2006 9:17 am
gan joni
Carlos Tevez a ddywedodd:Ochenaid o ryddhad!

Cytuno!
Perfformiad proffesiynol gan Gymru heno chware teg. Atho nhw mas na i neud jobyn a dyna be natho nhw. Koumas di cael gem da (gyda 2 gol wych!) a'r amddiffyn amhrofiadol yn edrych yn digon solid.
Confidence boost da ar gyfer gem San Marino.

PostioPostiwyd: Mer 15 Tach 2006 12:48 pm
gan Iwan
Gem dda! Hanner cynta yn well na'r ail o safbwynt Cymru.

Meddwl fod Giggs yn wych yn y safle canol cae. Doeddwn erioed wedi ei weld yn chware yno o'r blaen. Roedd pob symudiad ymosodol yn mynd trwy Giggs, oedd o'n dda iawn.

Bellamy yn wych, gweithio'n galed iawn. Koumas eto yn dangos ei allu, dwy gol swpyrb!

Dwi dal ddim yn rhy siwr os di Earnshaw yn cweit ddigon da i safon rhyngwladol ychwaith. Mae o'n cael ambell i gem dda i Gymru nawr ac yn y man, cael ambell gôl yma ag acw ac yn hasslo amddiffynwyr trwy'r amser, ond dwi'n teimlo ei fod mwy ar ei dîn na ar ei draed yn ystod gems Cymru!! Mae'n colli'r bel yn reit aml hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 15 Tach 2006 12:55 pm
gan garynysmon
Y Maes bron yn llawn dop heblaw am hanner y Pryce Griffiths (oedd seddi'n costio mwy yn fanno?). 8,700 oedd y dorf, sydd yn barchus iawn pan yn cysidro y tywydd, gem ganol wythnos ac yn enwedig y gwrthwynebwyr.

Rhai llyniau o'r gem nawr i fynny ar fy nghyfrif Flickr, lle mae linc isod.

PostioPostiwyd: Mer 15 Tach 2006 4:19 pm
gan Cynyr
Ie, oce, 'gwd win' i Gymru ond dwi'n meddwl fyddai wedi bod yn fwy ddiddorol yn erbyn gwrthwynebwyr gwell. e.e. fwy o sialens i'r amddiffyn, canol cae yn gorfod gweithio'n galed a.y.b

Ond, na... digon teg, llond llaw o goliau i blesio torf y Cae Ras. Da oedd gweld fod Cymru yn broffesiynol yn ystod yr 20 munud cyntaf wrth fynd a'r gem i'r "Lichteniad?". Dwi'n credu odd pawb yn disgwyl yr eilyddio di-ri yn yr ail hanner.


Carlos Tevez a ddywedodd:edrych mlaen rwan i belfast yn y flwyddyn newydd!!

Awe....... God Sef ddy cwiiin eto!!!!!!! :crechwen: :crechwen:

Re: phew

PostioPostiwyd: Mer 15 Tach 2006 4:38 pm
gan S.W.
Carlos Tevez a ddywedodd:
moment mwyaf bisar y gem---be ffwc oedd anthem y liechensteiwyr!! "god save the qu*en" ???

edrych mlaen rwan i belfast yn y flwyddyn newydd!!


Dyna oedd moment mwyaf embarrassing y gem i fi. Cymry'n rhy dwp i sylweddoli na fyddai gan wlad bychan sy'n siarad Almaeneg sydd wedi ei leoli rhwng Awstria a'r Swisdir yn canu can am Frenhiniaeth Lloegr, sef y rheswm pam ein bod ni a nifer o wledydd eraill fel arfer yn bwian y gan yma.

PostioPostiwyd: Mer 15 Tach 2006 5:09 pm
gan garynysmon
Cytuno S.W. Dim y diwn sydd yno i'w gasau, ond y cyd-destun mae Lloegr a G.Iwerddon yn ei chanu.

PostioPostiwyd: Mer 15 Tach 2006 5:16 pm
gan Trani Drws Nesa
Gall unrhwyun esbonio i fi sut ma clybiau Liechtensteinfel FC Vaduz yn cael chwarae yng nghyngrair y Swistir a hefyd yn nghwpan UEFA ond dyw clybiau Caerdydd, Abertawe ayyb ddim? Oes gwahaniaeth rhwng y ddau sefyllfa?