Ma'n rhaid i fi barhau gyda'r drafodaeth wrth ystyried digwyddiadau y diwrnodau diwetha.
Y peth cynta weda i yw i ddiolch i sbecs am geisio ebonnio fy nhadl yn gynt yn yr edefyn ond sbecs - MICHAEL OWEN !!!!!!!!!!!!!! ma r boi yn ffycin disgres - araf, gwan a meddal. Dwylo da???? Pa ffycin wahaniaeth, os ma dwylo da a gem creadigol basen ni isie all e ni ware craig warlow fel rhif 8.
Yn ail o beth wy'n gobitho I rhyw raddau bod methiannau cwpan y byd wedi tanlinellu'r broblem yr wyf fi wedi ceisio cyfeirio ati yn wreiddiol:
Rwy bellach yn sylweddoli bod fy nghwyn yn rhwbeth mwy na jyst cwyno am Martin Williams: Ry ni fel cymry yn byw mewn byd ffantasi ble da ni yn ceisio dal ymlaen I hen draddodiadau rygbi - neu yn hytrach TOTAL RUGBY - am 6 gem yn 2005 fe lwyddo ni I gyrraedd y nod. Olwyr cyflym, ail reng a props oedd yn gallu pasio fel canolwyr a'r blaenasgellwr agored ysgafn oedd yn atgoffa ni o Taylor, Winterbottom a hyd yn oed Michael Jones.
Ma'r gem wedi symud mlan. Does dim lle yn y gem heddiw I flaenasgellwr byr, ysgafn na chwaith I ail reng sydd yn gyflym a gyda dwylo da - oni BAI eu bod yn gallu gwneud y gwaith caib a rhaw a'i bod yn digon cryf I atal ymosodiadau ar y sgarmesu rhydd.
Fel gollo ni I Fiji am I nhw chware'r gem agored yn well na ni am yr 80 munud yna. Os base unhryw bwer/strwythr i'r gem da ni base ni di ennill. Ond ma probleme cymru yn rhwbeth llawer yn fwy na'r 80 munud yn erbyn fiji:
Fel Cymry ry ni'n gor ddathlu yr unigolion sydd yn athletaidd ac yn chware i'r steil yma a nid oes digon o sylw yn cael ei rhoi i'w diffygion. Yr enghraifft berffaith yw MW a ma ratings y BBC o'r gem yn ebsonio fe'n well na fi. OND ma gen I enghraifft arall sydd yn ymddangos yn hyd yn oed yn fwy dadleuol - ond cyn bo fi yn ehangu plis geisiwch deall fy mhwynt.(rwy'n ei gymryd yn ganiatol bod MW am ymddeuol!!)
I fi y chwaraewr sydd bellach yn arwydd o'm problem seicolegol ni fel Cymry ac o'r broblem bydd gyda ni yn y dyfodol yw ....... ALUN WYN JONES....
Cyn bo chi yn mynd yn wyllt gwrandewch...
Does gen I ddim amheuaeth mai Alun Wyn Jones yw un o'r athletwyr gore ry ni wedi gweld yng ngharfan Cymru ers blynyddoedd ond dyw e ddim yn gwneud y gwaith sydd ei angen ohono.
Ma'n athletwr gwych, yn cario'r bel fel Spies, cefnogi fel MW ac yn cystadlu fel Burger!!! Ond dyw e ddim yn gwneud ei prif swyddi yn ddigon da hy gosod cadernid yn y sgrym, sicrhau pel cyson yn y lein a defnyddio pwer yn y gem dyn. Eto'i gyd ry ni fel Cymry yn ei drin fel y messiha newydd oherwydd pan bod Cymry ar ei gore ac yn chware ei TOTAL RUGBY fe, fel MW sy'n disgleirio. Dwi'n cyfadde bod e di cal geme gwych ond y gwrionedd yw ma drwy chware fel 6 odd hynny e nid ail reng.
Hoffwn I wybod yr ystadegau o'r 6 gem diwetha sawl cais ma cymru wedi gadel o medr/2 fedr allan ala 2 cais fiji a pob cais Easter yn y gemau cyfeillgar. Pob tro ma tim yn pigo a cario yn erbyn ni ma nhw'n gwneud llathennu. Charvis, D Jones a Gough yw'r unig amddifynnwyr dwi di gweld yn bwrw pobl yn ol mewn sefyllfa o;r fath. Ma Popham, MW, Evans, hyd yn oed Jenkins oll yn euog o fethu a atal hyrddiad byr o lathennu o'r linell. Dyw nhw ddim digon cry na phwerus. Digon teg os base ni yn cael yr un effaith ein hunaun ond dim ond Charvis a Jon Thomas yw'r unig rhai sy di gwneud unhryw lathennu pam I ni mewn sefyllfa o'r fath.
4 mlynedd yn ol do ni ddim digon ffit - ma hynny yn amlwg wedi gwella heddiw er hoffwn I wybod pam ma Adama duncan Jones yw'r unig bobl tew yn yr holl gystadleuaeth syn cyfri chwaraewyr amatur . Mewn 4 mlynedd a fydde ni ddigon cry??????????