SbecsPeledrX a ddywedodd: Ti'n iawn, y pump blaen sydd ar fai am y ffaith nad yw Owen yn cael ei ddewis. Ond dwi'n meddwl fod hwna'n ddwl. Ein rheng ol orau ydi'r tri rhoddes i - mae balans, talent, y gallu i enill a chario'r bel yn ogystal a cwlwm gyda'r olwyr.
Gem tim yw rygbi. Nid y 15 sydd a'r sgiliau gorau sydd yn ennill bob tro (neu byddai Ffiji yn bencampwyr y Byd). Yn hytrach sut mae'r 15 ar y cae yn uno i ffurfio tim da. Gan fod gwendid gyda ni yn y pump blaen, ddyle Owen byth ddod yn agos at y tim.
SbecsPeledrX a ddywedodd:Job y 5 blaen ydi neud job y 5 blaen - nid job OWEN. Mae'n hollol hollowl wirion ei fod wedi cymryd gymaint o amser i Jenkins sortio'r lein, Christ allen i sortio'r lein yn well nac y mae wedi bod mewn 5 munud drwy taflu at flaen y lein. Mae arwyddion fod pethau'n dechrau cael ei sortio fama rwan diolch i AWJ.
Haws dweud na gwneud. Mae'r pump blaen wedi bod yn broblem i GYmru ers tro byd. Ti'n gweud yr ateb yw taflu i'r blaen. Pe bawn i'n trefnu llinell y gwrthwynebwyr, bydden i'n mynd a'r neidiwr gorau lawr y blaen i gystadlu yn erbyn tafliad Cymru. Yn sydyn, dyw'r pel flaen ddim yn edrych cweit mor hawdd. Mae'n wir fod AWJ, a dychweliad Ian Evans, yn golygu nad yw'r linell yn edrych mor simsan.
SbecsPeledrX a ddywedodd: Dylid dewis Horsman bob tro, achos mae'n gallu gwthio mewn sgrym - dydi Jones ddim yn gallu.
Bolycs. Mae Adam Jones yn sgrymiwr dipyn gwell na Horsman. Mae problem mawr yn nhechneg sgrymio Horsman, mae'n tueddu i wthio mewn ar y bachwr, ac yn cael ei gosbi'n gyson. Yn ogystal a hynny mae techneg Adam Jones o amddiffyn y sgarmes symudol yn well nag unrhyw brop arall yng Nghymru.
SbecsPeledrX a ddywedodd:Ti'n dewis dy dri blaen am eu gallu mewn sgrym - bollox gwallt blonde fatha popham di'w heffaith yn y chwarae rhydd. Mae nhw yna i enill y bel, ac os nad ydynt yn enill y bel be di pwynt gallu rhedeg rownd fatha lemon?
Sdim gwallt blonde gyda Adam Jones. Os mai Duncan Jones wyt ti'n son am, yna bydden i'n dweud fod dim lot i ddewis rhynddo fe a Gethin Jenkins. Well gyda fi Jenkins pan maar ei orau, ond mae Duncan yn fwy cyson.
SbecsPeledrX a ddywedodd:Petai Jenkins yn gallu cael y pethau sylfaenol yn iawn ymysg y blaenwyr gallem pigo ein rheng ol orau - a lot gwell cael OWEN, CHARVIS a WILLIAMS yn chwarae'n rhydd a'r fatties yn enill y bel na cael fatties fatha'r brodyr Jones yn ceisio rhedeg y bel.
Gwell fyth fyddai cael y blaenwyr a'r olwyr yn cyfuno yn y modd gwnaethpwyd pan gethon ni'r Gamp lawn. Dyw gwendid Cymru yn y pump blaen ddim yn newydd i Gyppo, mae llawer i hyfforddwr wedi cael problemau gyda hyn yn y gorffennol. Yr hyn lwyddodd Henry, Hansen, Johnson a Ruddock i adeiladu oedd dull o rygbi oedd y siwtio gallu'r chwareuwyr. Yn y cyfamser mae dulliau amddiffynol wedi newid, mae'r Rush defence yn golygu fod y steil yna llawer anos i'w chwarae'n effeithiol, a mae'n gem risg uchel. Mae Gyppo'n ceisio lleihau'r elfen o risg drwy chwarae'r gem ar y linell fantais. Y broblem fan hyn yw fod Gyppo'n
incompetent fuckwit sy'n ceisio chwarae gem aeth mas o ddefnydd ar ddiwedd y nawdegau.