martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rhodz » Iau 22 Maw 2007 7:34 pm

Martin W yw'r blaenesgellwr gore no dowt! Pa ots os ma fe ddim yn masif a gryf. Ma fe'n gwneud y gwaith pwysig. Bachwr i fi so sae mynd i bothran treal sharad yn ffansi am y rhengol ond dwi galled gweld taw MW yw'r gore o belll ffordd. :)
Rhithffurf defnyddiwr
rhodz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 12 Rhag 2006 11:08 pm
Lleoliad: Llanllwni

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Iau 22 Maw 2007 8:08 pm

Ma'r boi mor sicr o'i le a galle rhywun fod. Ond ydy hwn yn rwbeth da, wedi'r cwbwl, bod dim cystadleuaeth am y safle 'di bod ers....erm? :?:
Fi'n becso am y dydd ma fe'n retiro. S'neb i weld sy'n amlwg galle cymrid ei lle o'r cenhedlaeth nesa'. Wel, chwaraewr sy'n whare'r r'un gêm â fe, sef y gêm mochedd frwnt.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan rhodz » Iau 22 Maw 2007 8:29 pm

Smo neb i gael i herio M Williams am y rhif 7 yn nghymru. Felly beth yw'r pwynt mynd ymlan bod e ddim yn digon dda, fe yw'r gore.
Rhithffurf defnyddiwr
rhodz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 12 Rhag 2006 11:08 pm
Lleoliad: Llanllwni

Postiogan ceribethlem » Gwe 23 Maw 2007 8:59 am

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Ma'r boi mor sicr o'i le a galle rhywun fod. Ond ydy hwn yn rwbeth da, wedi'r cwbwl, bod dim cystadleuaeth am y safle 'di bod ers....erm? :?:
Fi'n becso am y dydd ma fe'n retiro. S'neb i weld sy'n amlwg galle cymrid ei lle o'r cenhedlaeth nesa'. Wel, chwaraewr sy'n whare'r r'un gêm â fe, sef y gêm mochedd frwnt.
Robin Sowden-Taylor fydd yn cymryd ei le yn fwy na thebyg. Mae e'n dysgu cryn dipyn bant o Martyn Williams ar hyn o bryd. Trueni dorrodd e'i bigwrn mor wael, ne bydde (dyle) fe wedi cael cyfle yn y chwe gwlad.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan docito » Gwe 23 Maw 2007 9:43 am

Bergamascona, dyw e ddim yn gwneud gwaith ailgylchu pel sydd angen ar flaenasgellwr da.

Yn y gem yn erbyn Cymru fe wnaeth e ddomiwnyddu MW yn gyfan gwbwl yn yr ardal ailgychu. Er ei fod e'n cyrraedd hanner eiliad yn hwyrach rodd i bwer e'n golygu ei fod yn medru gorfodi MW oddi ar y bel

Rees
Ha ha, gweler y gwaelod.

Ma Rees yn uffar o chwaraewr. Fe fydd e'n un o'r goreuon.

Charvis,dyle fe fod mewn gyda Williams i chwarae rol fel Easterby

Ti'n gwrthddweud dy hun fan hyn. Base dewis charvis fel 6 yn golygu allen ni chwarae rhywun tepycach i Wallace felly???

Nyanga, Gallu fod yn wych, tueddiad i ddiflannu am gyfnodau. Martyn Williams llawer mwy cyson.

BULL SHIT, ma MW ddim ond yn gyson i Gymru pan ni'n llwyddo i chwarae'r gem ehangach. Ma fe di bod yn hollol ANGHYSON y pencampwriaeth yma.

*Ymddiehiriad am bo' fi ddim yn gwybod mai MartYn yw ei enw
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan ceribethlem » Gwe 23 Maw 2007 11:38 am

docito a ddywedodd:
Bergamascona, dyw e ddim yn gwneud gwaith ailgylchu pel sydd angen ar flaenasgellwr da.

Yn y gem yn erbyn Cymru fe wnaeth e ddomiwnyddu MW yn gyfan gwbwl yn yr ardal ailgychu. Er ei fod e'n cyrraedd hanner eiliad yn hwyrach rodd i bwer e'n golygu ei fod yn medru gorfodi MW oddi ar y bel
A bod yn deg odd Martyn Williams ar ben ei hunan yn erbyn pac yr Eidal. Dodd dim o'r pac yn rycio tra bod Martyn Williams yn cystadlu am y bel. Odd Bergamasco yn bwrw'r ryc gyda nerth ei flaenwyr y tu ol iddo fe.

docito a ddywedodd:
Rees
Ha ha, gweler y gwaelod.

Ma Rees yn uffar o chwaraewr. Fe fydd e'n un o'r goreuon.
falle fydd e', made potential gyda fe, ond ar hyn o bryd mae Martyn Williams dipyn gwell. Gweler y wers roddodd Martyn Williams i Tom Rees yn stadiwm y milflwydd.

docito a ddywedodd:
Charvis,dyle fe fod mewn gyda Williams i chwarae rol fel Easterby

Ti'n gwrthddweud dy hun fan hyn. Base dewis charvis fel 6 yn golygu allen ni chwarae rhywun tepycach i Wallace felly???
Bydde Charvis y bwrw ryc yn syth tu ol i Williams, gan olygu y bydd y bel yn cael ei ailgylchu'n gyflymach. Y broblem ar hyn o bryd yw fod dau wythwr gyda Chymru i wneud y waith cario, ond dim blaenasgellwr i wneud y gwaith rycio. Mae Charvis yn gallu chwarae pob rol sydd angen i flaenasgellwr ei wneud. Mae'n wir gyda Charvis bydde chwareuwr tebyg i Wallace yn effeithiol i Gymru, ond does dim chwareuwr tebyg i Wallace gyda ni yng Nghymru.

docito a ddywedodd:
Nyanga, Gallu fod yn wych, tueddiad i ddiflannu am gyfnodau. Martyn Williams llawer mwy cyson.

BULL SHIT, ma MW ddim ond yn gyson i Gymru pan ni'n llwyddo i chwarae'r gem ehangach. Ma fe di bod yn hollol ANGHYSON y pencampwriaeth yma.
Mae'r pac wedi gadael Martyn Williams lawr. Dim ots faint mor dda yw e'n unigol, os nagyw'r pac yn gwneud eu gwaith bydd e byth ar ei orau, bydde McCaw yn edrych yn gyffredin iawn tu ol i bac sy'n chwarae fel nethon nhw yn erbyn yr Alban a'r Eidal. Hyd yn oed yn erbyn yr Alban, gyda Martyn Williams yn chwarae ar ei ben ei hun yn y chwarae agored, fe lwyddodd i sicrhau CHWECH turnover. Mae'n amlwg nagyw Ffrainc yn credu fod Nyanga yn berffaith gan nagyw nhw'n ei ddewis yn gyson.

docito a ddywedodd:*Ymddiehiriad am bo' fi ddim yn gwybod mai MartYn yw ei enw
Y ffordd Cymraeg o sillafu fe :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan docito » Gwe 23 Maw 2007 12:52 pm

ceribethlem a ddywedodd:

Felly, dy ddadl di yw bod MW wastad yn wych a pawb arall sy'n gadel e lawr. Y gem sydd yn ei adel i lawr. Ma gem MW ond yn siwtio un steil yn unig. h.y y gem agored. Nes i ddweud yn fy mhwynt gwreiddiol bod sgiliau/ffitrwydd/dwylo'r 5 blaen yn golygu y fedrwn ni fforddio chware 6.5. yn safle 7 (rhaid dweud bo' fi'n hoff iawn o'r cysyniad .5 :) )

Dwi'n anghytuno' gryf da ti am Bergamasco. Rodd ei berfformaid ben a sgwydde gwell na MW yn y gem agored ac yn y 'breakdown' yn ogystal i'r ffaith iddo gynnig deimensiwn arall wrth gario'r bel gyda parisse.

dwi'n cytunto da ti bod cydwbysedd y rheng ol yn anghywir gyda 2 rhif 8.

ti'n cyfeirio at y gwers nath MW rhoi i Rees yn y gem. Yr unig gwers alla'i weld wnaeth e ddysgu yw bod cael tim sy'n torri 'r llinell fantes yn gyson yn gwneud swydd 7 yn hawdd iawn. Base Rees wedi cael uffar o gem petase fe di bod mewn coch yn y sefyllfa 'na.
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 23 Maw 2007 1:32 pm

Gwed wrtha' i, docito, i beth mae Cymru moyn 6.5?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan docito » Gwe 23 Maw 2007 1:38 pm

o'n i 'n meddwl bo fi di ateb yn barod on co ni'n mynd.

Ma'r ffaith bod ein pump blaen mor ysgafn a cyflym yn golgyu y medrwn ni aberthu 7 hen ffasiwn.
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan ceribethlem » Gwe 23 Maw 2007 1:47 pm

docito a ddywedodd:o'n i 'n meddwl bo fi di ateb yn barod on co ni'n mynd.

Ma'r ffaith bod ein pump blaen mor ysgafn a cyflym yn golgyu y medrwn ni aberthu 7 hen ffasiwn.
Os oedd hyn yn wir, na fydden ni'n cael lot mwy o bel nac yr ydym ni'n ei wneud? Y gwir yw dyle'r pac ddim yn gweithio fel 7 blaenasgellwr, digon teg cael bois sy'n gallu cario'r bel, ond mae angen y 5 blaen i neud y gwaith tynn o rycio a maulio'n iawn. Bydde cael pump blaen "ysgafn a chyflym" yn golygu y byddwn ni'n cael ein chwalu ym mhob sgrym a phob llinell wrth iddi droi'n maul.

docito a ddywedodd:Felly, dy ddadl di yw bod MW wastad yn wych a pawb arall sy'n gadel e lawr. Y gem sydd yn ei adel i lawr. Ma gem MW ond yn siwtio un steil yn unig. h.y y gem agored. Nes i ddweud yn fy mhwynt gwreiddiol bod sgiliau/ffitrwydd/dwylo'r 5 blaen yn golygu y fedrwn ni fforddio chware 6.5. yn safle 7 (rhaid dweud bo' fi'n hoff iawn o'r cysyniad .5 )
Yn erbyn yr Alban roedd y pac o 1 i 6 ac 8 yn warthus. Methu ennill y linell, methu rheoli'r sgrym, rycio a maulio gwarthus. Odd y pac yn warthus. Serch hynny fe lwyddodd Martyn Williams ar ei ben ei hunan ennill CHWECH turnover, trwy rwygo'r bel o'r gwrthwynebwyr yn ardal y dacl. Bydden i'n awgrymu fod hyn yn dangos fod gan Martyn Williams y nerth angenrheidiol i wneud ei waith.

Ga'i ofyn pwy wyt ti'n awgrymu ddylae cymryd lle MArtyn Williams os yw e' mor shit?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron