Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Brynes i nhocyn i ddoe.
All rywun esbonio pam bod Lyn wedi dewis Jonathan Thomas i wynebu un o'r blaenasgellwyr ochr agored gorau yn y byd?
Dwi eisiau ail agor hen ddadl.
Does yna ddim un chwaraewr sydd yn symboleiddio diffygion rygbi cymru'n fwy na Martin Williams (nid ffycin Nugget yw ei enw - dyw e ddim fel bo' unrhyw un o ni yn ffrindie da da fe )
Am rhyw rheswm ma' ganddo ni fel cenedl rhyw broblem siecolegol sy'n ein gwrthod ein gadael i'w feirnidau mewn unrhyw ffordd o gwbl.
Cyn bod fi'n dechre fe wna'i ddweud hyn:
Does yna ddim ameuhaeth mai martin williams (gan eithro mccaw) yw'r cefnogwr gore yn y gem. Mae e'n medru darllen y gem heb ei ail ac wrth ddefnyddio ei ffitrwydd rhagorol a'i sgiliau sy'n debychach i sgiliau canolwr mae'n medru lleoli ei hun yn y sefyllfa perffaith pan fo'r chwarae yn torri ar ol ymosodiadau.
OND...... I fi, dyna'r cyfan ma'n cynnig yw cefnogaeth, oh na sori, ma fe'n gallu cicio 'fyd!
Y peth cyntaf amlycaf yw ei ddifyg pwer. Does ganddo fe ddim pwer yn y dacl na chwaith wrth gario'r bel. Pryd odd y tro diwetha i fe fwrw rhywun yn ol. Gwrth-ddadl hyn yw mai nid dyna beth yw ei rol yn y tim. Ond sori, bellach yn y gem fodern ma'n rhaid i pob flaenwr gyfrannu pwer a chryfder corfforol. Cymharwch e gyda Bercamasgo a Wallace sydd yn chwarae fel blaenasgellwyr MODERN. Yn gryf, ffit ac yn cynnig dimensiynnau ychwanegol i'r syniad traddodiadol o'r blaenasgellwr agored
Yn ail, does dim eisiau blaenasgwellwr agored cyflym gymaint ar dim Gymru. Cryfder ein blaenwyr ni yw ei bod yn athletaidd, yn ffit ac yn medru chwarae'r gem agored. Ystyriwn gem Lloegr, roedd yna 5 blaenasgellwr ar y cae a gethin jenkins a mathew rees. Rwy'n sicr gyda blaenwyr o'r ffath yma fe allwn aberthu ychydig o gyflymdra/dwylo da ayb er mwyn cryfau ochr corfforol y tim
ma pawb yn son am y ffaith ei fod gyfrifiol am gymaint o 'turnovers'. O beth dw'in cofio o'r 6 gwlad eleni dwi'n siwr i Ryan Jones achosi cymaint os nad yn fwy Williams (oes gan rhywun y stats)
Yn olaf, yn bwysicach oll yw hyn. Ma yna rhai sy'n dadlau bod cymru yn chwarae yn dda pan fo martin williams yn chwarae'n dda........ rybish.... y gwironedd yw hyn. gem agored cymru s'yn gwneud i martin williams edrych yn dda. Fe fydde unrhyw flaenasgellwr agored wrth ei fodd yn chware yn nhim cymru pan fo nhw ar eu gorau. Fe gyfaddefodd Tom Rees i williams ei ddomiwnyddu wythnos diwetha ond y gwirionedd oedd bod y ffaith bod steil ymosodol cymru yn sicrhau eu bod ar y droed flaen am y mwyafrif o'r gem. Oes yna unrhyw un fan hyn sydd wedi edrych yn gyson ar berfformiadau Rees i wasps ac ei ddull o chwarae yn gallu dadlau na bydda'i ef wedi cael diwrnod llawn mor hapus petase fe wedi bod yn gwisgo coch. Beth am Wallace, Bergamasco hyd yn oed Lund? base nhw wedi bod wrth ei bodde///
oce, digon o'r rant. edrychaf ymlaen at eich ymateb