martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan docito » Iau 22 Maw 2007 3:08 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Brynes i nhocyn i ddoe.

All rywun esbonio pam bod Lyn wedi dewis Jonathan Thomas i wynebu un o'r blaenasgellwyr ochr agored gorau yn y byd?

Dwi eisiau ail agor hen ddadl.
Does yna ddim un chwaraewr sydd yn symboleiddio diffygion rygbi cymru'n fwy na Martin Williams (nid ffycin Nugget yw ei enw - dyw e ddim fel bo' unrhyw un o ni yn ffrindie da da fe )
Am rhyw rheswm ma' ganddo ni fel cenedl rhyw broblem siecolegol sy'n ein gwrthod ein gadael i'w feirnidau mewn unrhyw ffordd o gwbl.

Cyn bod fi'n dechre fe wna'i ddweud hyn:
Does yna ddim ameuhaeth mai martin williams (gan eithro mccaw) yw'r cefnogwr gore yn y gem. Mae e'n medru darllen y gem heb ei ail ac wrth ddefnyddio ei ffitrwydd rhagorol a'i sgiliau sy'n debychach i sgiliau canolwr mae'n medru lleoli ei hun yn y sefyllfa perffaith pan fo'r chwarae yn torri ar ol ymosodiadau.

OND...... I fi, dyna'r cyfan ma'n cynnig yw cefnogaeth, oh na sori, ma fe'n gallu cicio 'fyd!

Y peth cyntaf amlycaf yw ei ddifyg pwer. Does ganddo fe ddim pwer yn y dacl na chwaith wrth gario'r bel. Pryd odd y tro diwetha i fe fwrw rhywun yn ol. Gwrth-ddadl hyn yw mai nid dyna beth yw ei rol yn y tim. Ond sori, bellach yn y gem fodern ma'n rhaid i pob flaenwr gyfrannu pwer a chryfder corfforol. Cymharwch e gyda Bercamasgo a Wallace sydd yn chwarae fel blaenasgellwyr MODERN. Yn gryf, ffit ac yn cynnig dimensiynnau ychwanegol i'r syniad traddodiadol o'r blaenasgellwr agored

Yn ail, does dim eisiau blaenasgwellwr agored cyflym gymaint ar dim Gymru. Cryfder ein blaenwyr ni yw ei bod yn athletaidd, yn ffit ac yn medru chwarae'r gem agored. Ystyriwn gem Lloegr, roedd yna 5 blaenasgellwr ar y cae a gethin jenkins a mathew rees. Rwy'n sicr gyda blaenwyr o'r ffath yma fe allwn aberthu ychydig o gyflymdra/dwylo da ayb er mwyn cryfau ochr corfforol y tim

ma pawb yn son am y ffaith ei fod gyfrifiol am gymaint o 'turnovers'. O beth dw'in cofio o'r 6 gwlad eleni dwi'n siwr i Ryan Jones achosi cymaint os nad yn fwy Williams (oes gan rhywun y stats)

Yn olaf, yn bwysicach oll yw hyn. Ma yna rhai sy'n dadlau bod cymru yn chwarae yn dda pan fo martin williams yn chwarae'n dda........ rybish.... y gwironedd yw hyn. gem agored cymru s'yn gwneud i martin williams edrych yn dda. Fe fydde unrhyw flaenasgellwr agored wrth ei fodd yn chware yn nhim cymru pan fo nhw ar eu gorau. Fe gyfaddefodd Tom Rees i williams ei ddomiwnyddu wythnos diwetha ond y gwirionedd oedd bod y ffaith bod steil ymosodol cymru yn sicrhau eu bod ar y droed flaen am y mwyafrif o'r gem. Oes yna unrhyw un fan hyn sydd wedi edrych yn gyson ar berfformiadau Rees i wasps ac ei ddull o chwarae yn gallu dadlau na bydda'i ef wedi cael diwrnod llawn mor hapus petase fe wedi bod yn gwisgo coch. Beth am Wallace, Bergamasco hyd yn oed Lund? base nhw wedi bod wrth ei bodde///

oce, digon o'r rant. edrychaf ymlaen at eich ymateb
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan ceribethlem » Iau 22 Maw 2007 3:13 pm

docito a ddywedodd:

bolycs
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 22 Maw 2007 3:22 pm

ceribethlem a ddywedodd:bolycs

Eiliaf. Yn syml iawn, Martyn Williams yw chwaraewr gorau ei genhedlaeth o Gymru, gwell, o bosib, nag Allan Bateman hyd yn oed. Mae'r ffordd mae e'n gallu darllen a gweithredu'r gêm ymhlith y blaenwyr heb ei ail yn Ewrop bron. Diffyg cryfder? Shwt mae e wedi aros ar y brig ers cyhyd gyda diffyg cryfder?

Ac mae Lund yn shit.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan CORRACH » Iau 22 Maw 2007 3:27 pm

Sgen hyn ddim i'w wneud hefo methiant honedig y Cymry i feirniadu'i gilydd. Ffyc, sbia faint o bobol sy'n barod iawn i feirniadu Henson (Mae'r agwedd yn bodoli, ond yn amherthnasol i hyn). Mae Martin Wms wedi bod, ac yn parhau i fod yn un o flaen-asgellwyr gorau'r byd. Edrych ar faint o flaen-asgellwyr sydd wedi son am y gemau caled mae nhw wedi gael yn erbyn Williams. Mae'r parch at y boi'n enfawr.
Efallai nad ydi'r cyflymaf, y mwyaf, y gorau'n y dacl.
Ond ychydig iawn o flaen-asgellwyr gwell sydd yn y byd, sy'n cael gymaint o ddylanwad ar gemau, er nad ydi hynny'n amlwg gan mai gwaith mul di-sylw ydi o.

Efallai bo ti jyst ddim yn licio gingers? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan docito » Iau 22 Maw 2007 3:37 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd: Ac mae Lund yn shit.

ai, sori, odd lund yn enghraifft uffernnol :wps: :wps: :wps:

alla'i ddim cytuno da chi bois, ma'r ffaith bod chi jyst wedi gwrthod pob ddadl mor ddisymwyth yn profi i fi y rhywfath o gamolieath un-llygeidiog sy'n cael am williams. Dwi wedi cytuno da ti GDG ynghlyn a'i sgiliau darllen y gem. Fel dywedes i baswn i'n dweud mai ef yw un o'r goreuon o rhan hyn yn hanes y gem.

rwy o'r FARN bod y pwyntiau nes i yn rhai dilys. Does dim eisiau fe arno ni fel tim cenedlaethol. O'n i'n arfer bod yn ffan ohono fe fyd, tan i fi weld mccaw yn ei fwyta i frecwast ac ers hynny rwy di bod yn gwario lot o'n amser yn edrych ar ei chwarae mewn dyfnder a ma'r diffygion nes i son amdanynt yn bodoli. cymerwch amser i feddwl am y beth.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Shwt mae e wedi aros ar y brig ers cyhyd gyda diffyg cryfder?

Wy ti wir yn trio dweud bod e'n chwaraewr cryf/pwerus?
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan ceribethlem » Iau 22 Maw 2007 4:15 pm

Ges i ddim cyfle i ymhelaethu mwy yn gynharach, felly dyma fi'n mynd.
Rol blaenasgellwr agored traddodiadol yw cynorthwyo ac ymladd am y bel ar y llawr. Mae Martyn WIlliams yn feistr am wneud hyn, mae'n chwarae'r rol o gadw'r bel yn fyw, sicrhau meddiant cyflym a cheisio arafu pel y gwrthwynebwyr. MAe McCaw yn well, ond yr unig rhai arall odd lan yn safon Willliams dros y blynyddoedd diwethaf am wneud y gwaith yma oedd Magne, Back, Kronfeld, Smith a Waugh.
Mae llawer o dimoedd yn tueddu i chwarae blaenasgellwr mwy nerthol, Wallace i Iwerddon yn enghraifft. Nid 7 traddodiadol yw Wallace, ond rhy 6.5, gyda Easterby ar yr aochr arall yn rol 6.5 mae Wallace yn edrych yn well. Wrth gwrs mae Easterby yn chwarae rol 6.5 mor dda mae hyd yn oed Gavin Thomas yn edrych yn dda gyfda'r sgarlets. Felly yn y bon os oes 6.5 yn y tim (fel Easterby neu Charvis) mae'n golygu nad yw rol blaenasgellwr agored traddodiadol mor bwysig. Gyda Chaerdydd a Chymru mae'r blaenasgellwyr tywyll yn cario'r bel mwy, ac felly mae doniau Martyn Williams hyd yn oed pwysicach.

I gloi a chrynhoi. Fel 7 mae Martyn Williams yn un o'r goreuon yn y byd. Fel 6.5 mae yna ddiffyg nerth ac yn bwysicach diffyg 6.5 arall yn ei dimoedd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 22 Maw 2007 4:16 pm

docito a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Shwt mae e wedi aros ar y brig ers cyhyd gyda diffyg cryfder?

Wy ti wir yn trio dweud bod e'n chwaraewr cryf/pwerus?

Ond mae'r ffordd wyt ti'n ei ddisgrifio fe fel bod ei ddiffyg cryfder wedi cael effaith andwyol ar ei gêm e. Yr unig dro fi'n cofio gweld Martyn yn diodde'n sylweddol oedd yn erbyn Marty Holah i'r Llewod yn erbyn y Maoris, lle roedd y gefnogaeth gan weddill y pac mor uffernol o wael fel bod Martyn wedi cael ei ynysu yn erbyn chwaraewr cryfach na fe. Ond mae ei sgiliau eraill yn gwneud lan am hynna. Bydden i'n dewis chwaraewr galluog fel Martyn o flaen chwaraewr honedig gryf fel Moody bob tro.

Fel wedodd cefnogwr o Loegr wrtha i ar y penwythnos: "Martyn Williams is the one name you don't want to see on the opposing teamsheet. It means you start the game a few points behind already."
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan docito » Iau 22 Maw 2007 5:28 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
docito a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Shwt mae e wedi aros ar y brig ers cyhyd gyda diffyg cryfder?

Wy ti wir yn trio dweud bod e'n chwaraewr cryf/pwerus?

Ond mae'r ffordd wyt ti'n ei ddisgrifio fe fel bod ei ddiffyg cryfder wedi cael effaith andwyol ar ei gêm e. Yr unig dro fi'n cofio gweld Martyn yn diodde'n sylweddol oedd yn erbyn Marty Holah i'r Llewod yn erbyn y Maoris, lle roedd y gefnogaeth gan weddill y pac mor uffernol o wael fel bod Martyn wedi cael ei ynysu yn erbyn chwaraewr cryfach na fe. Ond mae ei sgiliau eraill yn gwneud lan am hynna. Bydden i'n dewis chwaraewr galluog fel Martyn o flaen chwaraewr honedig gryf fel Moody bob tro.

Fel wedodd cefnogwr o Loegr wrtha i ar y penwythnos: "Martyn Williams is the one name you don't want to see on the opposing teamsheet. It means you start the game a few points behind already."

Wel, o nhw'n idiots :winc:

beth am pob tro ma fe di chware yn erbyn RM. Falle bod e ddim yn deg cymharu fe gyda Mccaw gan bod e ben a sgwydde yn well na pawb arall.

Dadleuon dilys iawn Ceri. Ond ti mwyn neu lai yn dadle rhywbeth i fi.
Ti'n son am easterby fel 6.5 ond yn fy marn i ma gough a a.wjones yn 5.5. a jenkins a mathew rees yn 3.5 (gobeithio bo fi'n neud synnwyr). O ganlyniad i'r ffaith bod gyda ni blaenwyr mor rhydd/deinamig fe allwn ni fforddio peido chware rhywun sy'n cynnig DIM byd yn y gem dyn nag yn yr ochr gorfforol. Ti'n son am gymharu MW gyda McCaw/Waugh/Smith ond ma rhein oll (falle ychydig yn llai o rhan waugh) yn cynnig ochr gorfforol yn y dacl ac yn 'contact', dyw e ddim.
Baswn i'n cyfadde ma kronfeld yw'r agosa i martyn williams, ond rodd gan seland newydd y pwer ymysg gweddill y pac odd yn galluogi un chwaraewr rhydd.
Bydde'n well dewis un o'r rhain yn fy nhim fel 7
Mccaw
Waugh
Smith
Bergamasco
Wallace
Easterby (fel7)
Rees
Gleeson
Charvis
Nyanga

Dwi'n cyfathe bod ambell i ddewis yn fwriadol ddadleluol
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn

Postiogan ceribethlem » Iau 22 Maw 2007 5:49 pm

docito a ddywedodd: Bydde'n well dewis un o'r rhain yn fy nhim fel 7
Mccaw
Waugh
Smith
Wrth gwrs am McCaw, a bydden i ddim yn dadle lot am y ddau arall.
docito a ddywedodd:Bergamasco
na, dyw e ddim yn gwneud gwaith ailgylchu pel sydd angen ar flaenasgellwr da.
docito a ddywedodd:Wallace
Easterby (fel7)
Mae'r ddau yma yn gweithio'n dda fel uned (y 6.5 'na) bydde Wallace ddim hanner cyystal heb rhywun fel Easterby gyda fe.
docito a ddywedodd:Rees
Gleeson
Ha ha, gweler y gwaelod.
docito a ddywedodd:Charvis
dyle fe fod mewn gyda Williams i chwarae rol fel Easterby
docito a ddywedodd:Nyanga
Gallu fod yn wych, tueddiad i ddiflannu am gyfnodau. Martyn Williams llawer mwy cyson.

docito a ddywedodd:Dwi'n cyfathe bod ambell i ddewis yn fwriadol ddadleluol
Rees a Gleeson mor shit, 'dy nhw ddim yn ddadleuol hyd yn oed. Dim ond Bergamasco sy'n ddadleuol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Boibrychan » Iau 22 Maw 2007 7:00 pm

Diddorol bois.

Falle alla i gynnig barn rhywun sydd ddim yn dilyn Rygbi Cymru cweit mor fanwl a chi. Sawl gwaith ar ol gem dwi di troi at ffrind a'r ddau ohonan ni'n cytuno ei fod yn chwaraewr mor rhagorol. Rwy'n derbyn y ddadl bod yna chwaraewyr gwahanol all wisgo'r crys, ond pan mae Williams yn chwarae dwi ddim yn gweld y bwlch bydde rhywun mwy corfforol yn ei lenwi. Falle pan mae Cymru yn wael ac mae ei gyfraniad felly yn edrych yn wael dwi yn gofyn y cwestiwn oes gen ni ddim neb arall gall chwarae yna, ond mae ganddo habit o ateb trwy chwarae yn anhygoel y gem nesaf!

Mae fy mrawd sydd dal yn byw yng Nghymru yn dweud bod Charvis yn chwarae yn dda ar y funud, on dwi ddim yn gwybod llawer am y lleill sydd yn cystadlu am y crys. Mae chwarae bois ifanc cyffrous fel Hook yn medru dwyn ffrwyth ond o ble dwi'n sefyll mae hen ben talismanig fel Martin Williams jest y peth sydd angen ar Gymru ar gyfer cwpan y byd.

Falle fod e'n overrated chydig, pwysig , ond allweddol? Mae eich dadlau chi gyd yn reit berswadiol i rhywun or ty fas sydd ddim yn gwybod y sefyllfa mor dda

Ond alla i anghytuno 100% gyda'r Pwnc , does dim dal bod Martin Williams yn chwaraewr da!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron