Tudalen 8 o 10
Postiwyd:
Mer 16 Ion 2008 6:10 pm
gan Ray Diota
docito a ddywedodd:Smai -
neis gweld bod Martyn yn foi ei air.
Ti'n gwbod mwy am rygbi na fi Doc, ond ma hyn yn beth dwl i'w ddweud! Odd e'n ddigon teg i Williams ymddeol ar ol Cwpan y Byd - new era ac ati ond os yw'r hyfforddwr yn gofyn amdano ti nol dwi'n meddw bo cyfrifoldeb ar chwaraewr i ateb yr alwad... a ma raid bod e'n well na'r Sowden-Taylor boi 'na???
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Sul 16 Maw 2008 6:13 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
bwp
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Sul 16 Maw 2008 7:50 pm
gan Macsen
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:bwp
Dwi'n siwr mod i'n cofio ti'n slagio off Byrne ryw dro.
*peiriant chwilio*
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Sul 16 Maw 2008 8:47 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Macsen a ddywedodd:Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:bwp
Dwi'n siwr mod i'n cofio ti'n slagio off Byrne ryw dro.
*peiriant chwilio*
Fel wedes i wrth Gasyth, mae Byrne wedi gwella'n aruthrol. Mae chwaraewyr fel Williams wedi parhau ar yr un lefel uchel. Pam cymharu'r ddwy sefyllfa?
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Llun 17 Maw 2008 10:32 am
gan docito
does na'm amheuaeth i fod e di cal twrnament da. heb law am gem yr eidal.
Ond ma na dieddiad i rhoi seren y gem i martin doed a ddelo.
alle martin williams gachu mewn bag plastig ar linell hanner stadiwm y mileniwm yna cerdded i ffwrdd a base fe'n cal seren y gem. A 9 yn sgors y Wales on Sunday
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Llun 17 Maw 2008 12:30 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
docito a ddywedodd:does na'm amheuaeth i fod e di cal twrnament da. heb law am gem yr eidal.
Ond ma na dieddiad i rhoi seren y gem i martin doed a ddelo.
alle martin williams gachu mewn bag plastig ar linell hanner stadiwm y mileniwm yna cerdded i ffwrdd a base fe'n cal seren y gem. A 9 yn sgors y Wales on Sunday
Ti'n ddoniol.
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Maw 18 Maw 2008 12:31 pm
gan celt86
Mae'r person a wnaeth ddechrau'r pwnc yma yn edrych yn wirion nawr. Roedd M. Williams yn rhan allweddol o lwyddiant Cymru o ran ennill y gamp lawn.
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Maw 18 Maw 2008 12:44 pm
gan docito
ma'n ddadleuon i dal yn dal dwr os darllenwch chi nhw. Dwi wastad di weud i fod en chwaraewr talentog
(swn ochenaid) beth am gau'r edefyn yma. Dwi jyst yn mynd rownd mewn cylchoedd
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Maw 18 Maw 2008 4:34 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
docito a ddywedodd:ma'n ddadleuon i dal yn dal dwr os darllenwch chi nhw. Dwi wastad di weud i fod en chwaraewr talentog
(swn ochenaid) beth am gau'r edefyn yma. Dwi jyst yn mynd rownd mewn cylchoedd
A difetha'r hwyl fi'n cael bob tro mae Nugget yn dy brofi di'n anghywir? NEFAR!
Re: martin williams - dyw e ddim yn dda iawn
Postiwyd:
Maw 18 Maw 2008 4:53 pm
gan ceribethlem
falle ddylen ni neud yr edefyn yma'n ludiog