Tudalen 1 o 4

rygbi taleithol

PostioPostiwyd: Mer 11 Rhag 2002 6:21 pm
gan ceribethlem
Beth yw eich barn chi wedi'r trafod diweddar. A ddylai rygbi Cymru ffurfio pedair talaith gan gynnwys un yng Ngogledd Cymru?

Teimlwch yn rhydd i ychwanegu syniadau eraill wrth gwrs.

Yn fy marn i mae angen hybu rygbi yng Ngogledd Cymru, wedi'r cyfan mae tua traean o'r Cymry yn byw yno, mae Cymru yn wlad rhy fach i beidio a defnyddio pawb.

PostioPostiwyd: Iau 12 Rhag 2002 2:04 pm
gan Hogyn o Rachub
Os y bydd hi o fendith i'r tim cenedlaethol mae'n lwybr y mae'n rhaid dilyn.

PostioPostiwyd: Iau 12 Rhag 2002 3:28 pm
gan Di-Angen
Os mae nhw'n benderfynol o greu tim i'r Gogledd, dwi'n credu y dylai nhw fynd ymlaen gyda pump tim - pedwar o'r de ac un o'r gogledd. Dydw i ddim yn credu fod dim ond tri tim yn y de yn ddigon i ddweud y gwir.

PostioPostiwyd: Iau 12 Rhag 2002 3:41 pm
gan Gruff Goch
Dwi'n amau a fydd cael pedwar tîm yn ddigon i gefnogi carfan genedlaethol gref a rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc addawol. Ydi hi'n syniad da cael 4 tim o 15 chwaraewr cyson pan fo carfan ryngwladol o gwmpas y 30 aelod - h.y. hanner y chwaraewyr tîm cynta yn y gynghrair? Fyddai hi ddim yn well cael 5-6 tîm, yn enwedig os oes un am gael ei leoli yn y gogledd? Dwi'n meddwl fod y diddordeb yno i gynnal tîm yn y gogledd, ond mi fyddai sefydlu'r peth yn dipyn o dasg (hyd yn oed o'i chymharu â be mae nhw'n ei wynebu yn y De...).

Gruff

PostioPostiwyd: Iau 12 Rhag 2002 8:55 pm
gan ceribethlem
Dwi'n credu (er rwy'n eithaf ffyddiog bydd yr URC yn gwrthod y syniad yma) fod angen pedwar talaith rygbi proffesiynol, 3 yn y De ac un yn y Gogledd. Fe ddylai'r pedwar talaith yma cynnwys y chwareuwyr gorau sy'n gymwys i Gymru yn unig. Felly fe fydd y 88 chwareuwr gorau wedi eu crynodi yn y timau talethiol yma. Fe fydd safon y timau a'r chwareuwyr yn codi. Fe fydd y pedwar talaith yma yn chwarae yng Nghwpan Ewrop (ac o bosib y Gynghrair Celtaidd).
Fe ddylid cael pedwar 'ail-dim' ym mhob talaith, fe fydd y timau yma yn cynnwys chwareuwyr dawnus ifanc megis rhai yn sgwadiau dan 21 Cymru, gellir rhoi ambell hen ben yn y timau yma i rhoi profiad ac arweiniad i'r bechgyn ifanc. Fe all y timau dan 21 yma chwarae yn Nharian Ewrop, fe fydd hwn yn rhoi cyfle i'r bechgyn i ddatblygu ac yn rhoi profiad o chwarae yn erbyn rhai o dimoedd gorau Lloegr a Ffrainc.
Dwi'n credu bydd y system yma yn fuddiol iawn i Gymru am y bydd yn gwella'r safon sydd gennym ni ar hyn o bryd tra'n adeiladu am y dyfodol trwy ddatblygu'r ieuenctid.

PostioPostiwyd: Iau 12 Rhag 2002 9:50 pm
gan ffranc
mi ydw i'n cytuno taw 5 tim ddylai fod ond gewn nhw fynd i grafu os y'n nhw isio i lanelli ag abertawe i uno!! Llanelli yw yr unig dim sy'n cael unrhyw fath o lwyddiant bob tymor yn ewrop. tyff tits os yw abertawe yn rybish, dy'n ni ddim isio nhw!!

PostioPostiwyd: Gwe 13 Rhag 2002 9:54 am
gan Gruff Goch
ffranc a ddywedodd:mi ydw i'n cytuno taw 5 tim ddylai fod ond gewn nhw fynd i grafu os y'n nhw isio i lanelli ag abertawe i uno!! Llanelli yw yr unig dim sy'n cael unrhyw fath o lwyddiant bob tymor yn ewrop. tyff tits os yw abertawe yn rybish, dy'n ni ddim isio nhw!!


Ma' hwnna i weld yn agwedd boblogaidd iawn ar y funud (ac yn un sy'n siwr o lwyddo...) - gostwng y nifer o dimau, cyhyd a bod "fy nhîm i" ddim yn cael eu huno a'r diawled yna o'r clwb drws nesa. Hmm... :rolio:

Gruff :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 13 Rhag 2002 10:00 am
gan Gruff Goch
ceribethlem a ddywedodd: Fe ddylai'r pedwar talaith yma cynnwys y chwareuwyr gorau sy'n gymwys i Gymru yn unig. Felly fe fydd y 88 chwareuwr gorau wedi eu crynodi yn y timau talethiol yma. Fe fydd safon y timau a'r chwareuwyr yn codi.


Siawns na fasa'r 88 chwaraewr yna i gyd yn cael chwarae'n rheolaidd, yn enwedig gan y byddai llai o gemau efo cael llai o dimau?

Gruff

PostioPostiwyd: Gwe 13 Rhag 2002 11:47 am
gan ffranc
debyg iawn fod yr agwedd yna yn un boblogaidd, ond, ac mi ydw i yn bias, llanelli yw yr unig dim sydd wedi llwyddo yn y tymhorau dwetha. falle 'mod i ynymddoangos fel rhywun sy'n meddwl am ei tim nhw yn unig, ond os gewn ni bump tim allan o'r naw sy'n bodoli pwy yw yr unig tim sy'n ddigon cryf i fynd ar ol y gwpan ar ben eu hunain? dim caerdydd yn sicr, na abertawe, casnewydd na chastell nedd. llanelli yw yr unig tim sydd a dadl cryf am bedio a gorfod uno a chlwb arall. ydw i'n rong?

PostioPostiwyd: Sad 14 Rhag 2002 11:00 am
gan ffranc
'naeth unrhywun wylio'r gem neithiwr!!