Y pwynt yw dim ond un neu ddau o dimoedd da sydd gyda ni, sydd ddim yn digon, ma rhaid i fwy o chwaraewyr chware ar lefel uwch yn gyson, a neith hyny fyth digwydd da'r system bresennol. Os da ni ddim isho bod yn joc y byd rygbi rhaid cael chwyldro yn y gem, fydd yn anodd iawn i rhai, ond werth o yn y diwedd.
Rwy'n cytuno gyda ti mai ond un neu ddau tim deche sydd yng Nghymru, fy ngofid i yw bydd y timoedd llwyddiannus yma'n cael eu colli oherwydd diffyg llwyddiant timoedd eraill. Wedi'r cyfan does dim sicrwydd y bydd timau taleithiol yn llwyddo.
Mae gan yr Alban system taleithiol (tair talaith nawr ond dwy tan y tymor hwn), dyw'r Alban byth wedi creu unrhyw effaith ar gwpan Ewrop. A bod yn onest fi ddim yn cofio unrhyw dim o'r Alban yn cyrraedd hyd yn oed y cwarteri.
Mae'r ffaith fod y sytem yn gweithio yn Iwerddon yn ddadl hurt am fod system taleithiol wedi bodoli yn Iwerddon. Mae hanes Munster a Llanelli yn un tebyg iawn. Y ddau ohonynt yn curo tim arbennig y crysau duon yn y saithdegau. Y ddau ohonynt yn curo'r pencampwyr byd (Awstralia) ym 1993. Cryfder rygbi Cymru yn hanesyddol yw ein clybiau.
Dwi'n credu mai lleihau'r nifer o glybiau yw'r ffordd.
Cyn i unrhyw un ddweud am fy nghefnogaeth blaenorol i'r system taleithiol, roedd hynny'n dibynnu ar cael system datblygu yn chwarae yn nharian Ewrop.
Does dim datblygiad yn bodoli yng Nghymru bellach am fod y twat 'na Moffet wedi cael gwared o tim A Cymru.