How come mai Llanelli yw'r unig glwb Cymreig?
Llanelli yw'r unig glwb sy'n fodlon defnyddio'r iaith Gymraeg yn rheolaidd ac yn defnyddio'r iaith Gymraeg ar y sgor fwrdd. Neb arall yn gwneud, felly Llanelli yw'r unig glwb Cymreig (ar y lefel ucha ta beth).
Bydde uno Llanelli ac Abertawe yn peth ddi-bwrpas i wneud, fi newydd gyrraedd nol o Barc y Strade ac mae Llanelli wedi llwyddo i rhoi toncad a hanner i'r Jacs eto!! Dros cant o bwyntiau mewn dwy gem!
Sy'n arwain at y pwynt nesaf sef un Hedd:
5 Talaith y byddwn i'n sefydlu
1 yn y Gogledd
1 yn y Gorllewin (Llanelli, Castell Nedd, Caerfyrddin x 2)
1 yn Gwent (Casnewydd a Glynebwy)
1 yn Prifddinas/Cymoeddish (Caerdydd, Pontypridd, Caerffili?)
1 arall (Penybont + Abertawe)
Pam ddyle Castell Nedd fod gyda Llanelli os oes talaith mynd i gael Abertawe a Phenybont, mae Castell Nedd ar y ffordd o Abertawe i Benybont (ar y tren!), ar wahan i hynny syniad da.