Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Sad 14 Rhag 2002 11:08 pm
gan ceribethlem
Siawns na fasa'r 88 chwaraewr yna i gyd yn cael chwarae'n rheolaidd, yn enwedig gan y byddai llai o gemau efo cael llai o dimau?


Os oes gen ti bymtheg chwareuwr yn dechrau, a saith ar y fainc, mae hynny'n gyfanswm o 22 chwareuwr ym mhob tim.
Mae pedair tim gyda 22 chwareuwr yn sgwad pob un yn gwneud cyfanswm o 88 yn chwarae pob gem!
Syml! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 02 Ion 2003 1:35 pm
gan Hedd Gwynfor
5 Talaith y byddwn i'n sefydlu

1 yn y Gogledd
1 yn y Gorllewin (Llanelli, Castell Nedd, Caerfyrddin x 2)
1 yn Gwent (Casnewydd a Glynebwy)
1 yn Prifddinas/Cymoeddish (Caerdydd, Pontypridd, Caerffili?)
1 arall (Penybont + Abertawe)

O beth i fi'n deall (rhaid i mi gyfaddef dim llawer gan mae boi peldroed ydw i) doedd rygbi ddim yn gem poblogaidd o gwbl yn Conacht yn Iwerddon, ond mae nhw wedi llwyddo i sefydlu talaith gref iawn. Mae'r sefyllfa yn go debyg i dalaith y Gogledd yma yng Nghymru. Yr unig wahaniaeth ydy fod yna gefnogaeth gref iawn i rygbi yn y gogledd, yn enwedig y Gogledd Orllewin!

PostioPostiwyd: Iau 02 Ion 2003 9:48 pm
gan Rhys Llwyd
NANANA

Ni ddylid newid y system yn fy marn i,

PAM?

Bydd clwb Llanelli yr UNIG glwb Cymreig yn cael ei ddileu!

hwyl,

rhys

PostioPostiwyd: Iau 02 Ion 2003 10:39 pm
gan Di-Angen
How come mai Llanelli yw'r unig glwb Cymreig?

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ion 2003 11:30 am
gan Rhys Llwyd
How come mai Llanelli yw'r unig glwb Cymreig?


okok, y clwb mwya Cymreig. Dyna'r tim ma pawb yng Nghwm Gwendraeth yn ei gefnogi.

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ion 2003 2:02 pm
gan Di-Angen
Rhys Llwyd a ddywedodd:
How come mai Llanelli yw'r unig glwb Cymreig?


okok, y clwb mwya Cymreig. Dyna'r tim ma pawb yng Nghwm Gwendraeth yn ei gefnogi.


And???

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ion 2003 4:33 pm
gan Rhys Llwyd
Heb Lanelli, fydd y cyfan yn mynd yn beth gwbwl gyfalafol yn cael ei redeg gan y cyfryngau Seisnig,

+

ma uno Abertawe a Llanelli fel uno Lerpwl ag Everton!

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ion 2003 9:33 pm
gan ceribethlem
How come mai Llanelli yw'r unig glwb Cymreig?


Llanelli yw'r unig glwb sy'n fodlon defnyddio'r iaith Gymraeg yn rheolaidd ac yn defnyddio'r iaith Gymraeg ar y sgor fwrdd. Neb arall yn gwneud, felly Llanelli yw'r unig glwb Cymreig (ar y lefel ucha ta beth).

Bydde uno Llanelli ac Abertawe yn peth ddi-bwrpas i wneud, fi newydd gyrraedd nol o Barc y Strade ac mae Llanelli wedi llwyddo i rhoi toncad a hanner i'r Jacs eto!! Dros cant o bwyntiau mewn dwy gem!
Sy'n arwain at y pwynt nesaf sef un Hedd:
5 Talaith y byddwn i'n sefydlu

1 yn y Gogledd
1 yn y Gorllewin (Llanelli, Castell Nedd, Caerfyrddin x 2)
1 yn Gwent (Casnewydd a Glynebwy)
1 yn Prifddinas/Cymoeddish (Caerdydd, Pontypridd, Caerffili?)
1 arall (Penybont + Abertawe)


Pam ddyle Castell Nedd fod gyda Llanelli os oes talaith mynd i gael Abertawe a Phenybont, mae Castell Nedd ar y ffordd o Abertawe i Benybont (ar y tren!), ar wahan i hynny syniad da.

PostioPostiwyd: Sad 04 Ion 2003 1:50 pm
gan Di-Angen
ceribethlem a ddywedodd:
How come mai Llanelli yw'r unig glwb Cymreig?


Llanelli yw'r unig glwb sy'n fodlon defnyddio'r iaith Gymraeg yn rheolaidd ac yn defnyddio'r iaith Gymraeg ar y sgor fwrdd. Neb arall yn gwneud, felly Llanelli yw'r unig glwb Cymreig (ar y lefel ucha ta beth).


OK. Roeddwn wedi cael fy mherswadio gan pobl ar y message board yma mai nid gallu siarad Cymraeg/defnyddio'r Gymraeg oedd yn gwneud chi'n Welsh, ond dim ots. Mae'n amlwg fod yr agwedd yn parhau.

PostioPostiwyd: Sul 05 Ion 2003 1:37 am
gan ceribethlem
Postiwyd: Sad Ion 04, 2003 2:50 pm Pwnc y neges:

--------------------------------------------------------------------------------

ceribethlem :
Dyfyniad:
How come mai Llanelli yw'r unig glwb Cymreig?


Llanelli yw'r unig glwb sy'n fodlon defnyddio'r iaith Gymraeg yn rheolaidd ac yn defnyddio'r iaith Gymraeg ar y sgor fwrdd. Neb arall yn gwneud, felly Llanelli yw'r unig glwb Cymreig (ar y lefel ucha ta beth).


OK. Roeddwn wedi cael fy mherswadio gan pobl ar y message board yma mai nid gallu siarad Cymraeg/defnyddio'r Gymraeg oedd yn gwneud chi'n Welsh, ond dim ots. Mae'n amlwg fod yr agwedd yn parhau


Edrych ar y dyfyniad Di-Angen Cymreig nath e'i ddweud nid Cymraeg!
Ystyr Cymreig yw'r defnydd o'r iaith Gymraeg. Felly Llanelli yw'r unig glwb (dosbarth cyntaf) Cymreig. Paid dechrau dadlau gyda pobl cyn i ti weithio mas beth mae nhw'n dweud!