Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Llun 13 Ion 2003 3:22 pm
gan Geraint
Y pwynt yw dim ond un neu ddau o dimoedd da sydd gyda ni, sydd ddim yn digon, ma rhaid i fwy o chwaraewyr chware ar lefel uwch yn gyson, a neith hyny fyth digwydd da'r system bresennol. Os da ni ddim isho bod yn joc y byd rygbi rhaid cael chwyldro yn y gem, fydd yn anodd iawn i rhai, ond werth o yn y diwedd.

PostioPostiwyd: Llun 13 Ion 2003 8:14 pm
gan ceribethlem
Y pwynt yw dim ond un neu ddau o dimoedd da sydd gyda ni, sydd ddim yn digon, ma rhaid i fwy o chwaraewyr chware ar lefel uwch yn gyson, a neith hyny fyth digwydd da'r system bresennol. Os da ni ddim isho bod yn joc y byd rygbi rhaid cael chwyldro yn y gem, fydd yn anodd iawn i rhai, ond werth o yn y diwedd.


Rwy'n cytuno gyda ti mai ond un neu ddau tim deche sydd yng Nghymru, fy ngofid i yw bydd y timoedd llwyddiannus yma'n cael eu colli oherwydd diffyg llwyddiant timoedd eraill. Wedi'r cyfan does dim sicrwydd y bydd timau taleithiol yn llwyddo.
Mae gan yr Alban system taleithiol (tair talaith nawr ond dwy tan y tymor hwn), dyw'r Alban byth wedi creu unrhyw effaith ar gwpan Ewrop. A bod yn onest fi ddim yn cofio unrhyw dim o'r Alban yn cyrraedd hyd yn oed y cwarteri.

Mae'r ffaith fod y sytem yn gweithio yn Iwerddon yn ddadl hurt am fod system taleithiol wedi bodoli yn Iwerddon. Mae hanes Munster a Llanelli yn un tebyg iawn. Y ddau ohonynt yn curo tim arbennig y crysau duon yn y saithdegau. Y ddau ohonynt yn curo'r pencampwyr byd (Awstralia) ym 1993. Cryfder rygbi Cymru yn hanesyddol yw ein clybiau.
Dwi'n credu mai lleihau'r nifer o glybiau yw'r ffordd.

Cyn i unrhyw un ddweud am fy nghefnogaeth blaenorol i'r system taleithiol, roedd hynny'n dibynnu ar cael system datblygu yn chwarae yn nharian Ewrop.
Does dim datblygiad yn bodoli yng Nghymru bellach am fod y twat 'na Moffet wedi cael gwared o tim A Cymru.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Ion 2003 11:34 am
gan Cardi Bach
Yn ol y Western Mail heddi, ma' cynrychiolwyr rygbi yn Lloegr a Ffrainc wedi cydnabod eu bont yn gwrthwynebu sefydlu timau rhanbarthol yng Nghymru am eu bont yn pryderi y byddan nhw'n rhy gryf!

Mae nhw wedi bygwth atal timau Rhanbarthol Cymru i chwarae yng Nghwpan Heineken, nid er lles rygbi yng Nghymru, na chwaith rygbi yn gyffredinol, ond am eu bont yn ofn colli!

Dyma lle mae gwleidyddiaeth a chwaraeon yn uno- i mi mae hyn yn enghraifft o ddwy bwer Ymerodraethol/Imerialaidd gynt yn ceisio dweud wrth genhedloedd eraill beth iw wneud, ac yn ofn colli statws!

Meddyliwch petai 2 neu 3 neu hyd yn oed 4 o dimau Cymreig yn rownd gynderfynnol y Cwpan Heineken - y safon o chwaraewyr fyddi yno - y safon o rygbi - byddwn i'n bendant yn awchu i weld rygbi o'r fath safon uchel ac yn cefnogi'r tim - tebyg iawn i Munster neu Leinster.

Heddiw mae miloedd o bobl ar hyd a lled Cymru'n gwisgo crysau timau rhanbarthol Awstralia a Aotearoa (Seland Newydd) - pam na ddylai hyn ddigwydd i'r timau Cymreig?

Rhaid dweud mod i'n poeni am y newyddion heddiw mae 'franchise' bydd y timau rhanbarthol - ond does dim digon o wybodaeth hyd yma i fi fynegu barn.

So hyd yn hyn - C'mon Rhanbarth y Gorllewin -

Gwylliaid y Gorllewin
!!!!!!!!

PostioPostiwyd: Gwe 24 Ion 2003 11:40 am
gan Geraint
(llais bach distaw yn y pellter) beth am y canolbarth...........? :(