Cymedrolwr: eusebio
Gwyn a ddywedodd:Paid anghofio Matthew Wood o Swydd Efrog, chwaraewr itha da a digon o brofiad. A chwaraewyr addawol fel James Harris, Ben Wright a Mike O'Shea flwyddyn yn hyn, ac wrth gwrs dychweliad Mike Powell. Ma un peth yn sicr (gobitho)... bydd hi'n dymor gwell na llynedd!
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Gwyn a ddywedodd:Paid anghofio Matthew Wood o Swydd Efrog, chwaraewr itha da a digon o brofiad. A chwaraewyr addawol fel James Harris, Ben Wright a Mike O'Shea flwyddyn yn hyn, ac wrth gwrs dychweliad Mike Powell. Ma un peth yn sicr (gobitho)... bydd hi'n dymor gwell na llynedd!
Roedd mab Maynard yn edrych yn dipyn o chwaraewr hefyd. Beth yw ei enw fe 'to? Tom?
Gwyn a ddywedodd:Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Gwyn a ddywedodd:Paid anghofio Matthew Wood o Swydd Efrog, chwaraewr itha da a digon o brofiad. A chwaraewyr addawol fel James Harris, Ben Wright a Mike O'Shea flwyddyn yn hyn, ac wrth gwrs dychweliad Mike Powell. Ma un peth yn sicr (gobitho)... bydd hi'n dymor gwell na llynedd!
Roedd mab Maynard yn edrych yn dipyn o chwaraewr hefyd. Beth yw ei enw fe 'to? Tom?
O ie, ti'n iawn. Ma Matthew di bod a nhw mas yn y Dwyrain Pell yn rhwle ar rhyw fath o 'pre-season tour'. O'n i'n clywed bod O'Shea di cael sgor go lew wthnos dwetha fyd. Wy'n weddol hyderus am y tymor, ma rhaid i fi weud. Ma tim cynta rhwbeth fel... Wood, Powell, Maynard, Hemp, Dalrymple, O'Shea, Wallace, Croft, Wharf, Gillespie, Harris... yn edrych yn itha cyffrous.
Ger27 a ddywedodd:Er y bydd hi'n sicr yn dymor gwell na 2007, dwi'n ofni mai "mid-table mediocrity" fydd hi yn ail adran y gemau undydd a 4-dydd, gyda siawns eithaf o gyrraedd Finals Day y T20.
Gwyn a ddywedodd:Clywed bore ma falle bod Gillespie di arwyddo contract 3 blynedd gyda'r gynghrair dwl na yn India, a fydde'n golygu bod e ddim yn mynd i chware i Morgannwg o gwbl. Ond surely bydde fe di arwyddo contract da Morgannwg cyn iddyn nhw gyhoeddi y bydde fe'n chware iddyn nhw leni? Os felly, ac os eith e i India yn lle Cymru, gobitho geith Morgannwg dipyn o gompo am breach of contract neu rhwbeth.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai