Mae angen i'r ECB ddweud yn glir pa safbwynt mae nhw am ei gymryd. Ar hyn y bryd, mae'r ECB yn dweud eu bod yn "determined to disassociate and distance themselves from any promoter, agent or individual involved in such events".
Be uffar mae hynna'n fod i feddwl? Ydio'n golygu eu bod am atal Siroedd rhag chawarae'r chwaraewyr o'r ICL ta ai jysd comment ceiniog a dima yn dweud bod yn well ganddynt pe tai'r Siroedd ddim yn cyflogi'r chwaraewyr yma.
Yn bersonnol, dim ots gen i pa safwbwynt mae nhw yn ei gymryd cyn belled eu bod nhw'n dweud un ffordd neu llall yn fuan.
Tydi Awstralia ddim yn gadael chwaraewyr sy'n chwarae yn y ICL i chwarae criced dosbarth-cyntaf yn Awstralia. Yn yr wythnos diwethaf, mae Elliott, Maher, a Gillespie wedi dod cytuno i chwarae yn yr ICL a felly ni fyddent yn chwarae yn Awstralia eto.
Os ydi'r ECB yn dewis atal chwaraewyr yr ICL i chwarae ym Mhencampwiraeth y Siroedd yna allai weld sefyllfa ble fydd chwaraewyr rhyngwladol Lloegr yn ymddaeol yn gynnar, troi eu cefn ar y County Championship, a mynd i wneud eu "quick buck" yn India cyn ymddaeol yn gyfan gwbwl.