Taith Cymru i Dde Affrica

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan ceribethlem » Maw 29 Ebr 2008 1:21 pm

joni a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:pwy yw'r pwdryn 'ma de? shwt benodd e lan yn london irish a pam bod e di whare i'r Sais? a pam bod e yn y sgwad yn sydyn reit?

O'n i'n meddwl fod chwaraewyr sy'n whare tu fas i Gymru ddim yn cael eu dewis i'r tim cenedlaethol.

Dyw hwnna ddim yn wir am frawd Nick Fury Agent of S.H.I.E.L.D. nadi?
Delwedd
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 29 Ebr 2008 1:30 pm

Ray Diota a ddywedodd:pwy yw'r pwdryn 'ma de? shwt benodd e lan yn london irish a pam bod e di whare i'r Sais? a pam bod e yn y sgwad yn sydyn reit?


Mae e'n hanu o Abertawe, ond aeth e i Colstons, ochre Bryste, felly fi'n credu mai i Ysgolion Lloegr chwaraeodd e, a la Giggs. O'dd e gyda Wasps am gyfnod pan o'dd Gatland 'na, ond aeth i draw i'r Plastic Paddies via cyfnod byr gyda Chymry Llundain.

Fe yw'r pumed neu'r chweched dewis lawr gyda chwaraewyr fel Richie Rees a Martin Roberts. Ond mae'n dipyn o bryder bod y bwlch mewn safon rhwng Peel a Phillips a Cooper, a Cooper a'r gweddill, mor fawr.

Gol: na, mae e wedi chwarae dan 19 drostyn nhw! http://www.bathrugby.com/4007_2612.php

Ffycin Dic Sion Dafydd.
Golygwyd diwethaf gan Gwahanglwyf Dros Grist ar Maw 29 Ebr 2008 1:38 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 29 Ebr 2008 1:31 pm

joni a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:pwy yw'r pwdryn 'ma de? shwt benodd e lan yn london irish a pam bod e di whare i'r Sais? a pam bod e yn y sgwad yn sydyn reit?

O'n i'n meddwl fod chwaraewyr sy'n whare tu fas i Gymru ddim yn cael eu dewis i'r tim cenedlaethol.


Y rhai symudodd ar ôl datganiad Gatland o'n i'n meddwl, ond wy'n gweld y bydd hi'n anodd gweithredu'r polisi bach 'na.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan ceribethlem » Maw 29 Ebr 2008 2:01 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
joni a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:pwy yw'r pwdryn 'ma de? shwt benodd e lan yn london irish a pam bod e di whare i'r Sais? a pam bod e yn y sgwad yn sydyn reit?

O'n i'n meddwl fod chwaraewyr sy'n whare tu fas i Gymru ddim yn cael eu dewis i'r tim cenedlaethol.


Y rhai symudodd ar ôl datganiad Gatland o'n i'n meddwl, ond wy'n gweld y bydd hi'n anodd gweithredu'r polisi bach 'na.
Yn arbennig gan fod Pell yn symud at y Siarcod. Ac mae Peel bant o fform yn well na Cooper a'r gweddill.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan CapS » Mer 30 Ebr 2008 1:06 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
joni a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:pwy yw'r pwdryn 'ma de? shwt benodd e lan yn london irish a pam bod e di whare i'r Sais? a pam bod e yn y sgwad yn sydyn reit?

O'n i'n meddwl fod chwaraewyr sy'n whare tu fas i Gymru ddim yn cael eu dewis i'r tim cenedlaethol.


Y rhai symudodd ar ôl datganiad Gatland o'n i'n meddwl, ond wy'n gweld y bydd hi'n anodd gweithredu'r polisi bach 'na.
Mae'r polisi wedi newid yn sylweddol. I ddechrau, nid oedd Gatland yn awyddus i ddewis chwaraewyr nad oedd yn chwarae yng Nghymru. Wedyn newidiodd i ddweud y bydde'r rheol ond yn berthnasol i chwaraewyr oedd yn symud i Loegr ar ol iddo wneud y datganiad, gan ganiatau i Cooper a Delve ac eraill gael eu hystyried. Wedyn arwyddodd Peel (a Michael Owen...) ond dyw'r rheol ddim yn berthnasol iddyn nhw achos eu bod nhw mewn trafodaethau i symud i Loegr cyn i Gatland gyhoeddi'r polisi er eu bod wedi arwyddo ar ol hynny.

Dwi'n amau geith y polisi erioed ei weithredu. Modd o geisio perswadio'r chwaraewyr gorau i aros yng Nghymru fel bod mwy o rheolaeth gan yr hyfforddwyr cenedlaethol dros eu hyfforddiant, cyfnodau gorffwys, pwysau gwaith ayb.

O ran y garfan bydd yn mynd i De Affrica, dwi'n meddwl bydde gennyf ddiddordeb mewn gweld Hook-Shanklin-Robinson yn cyd-chwarae. Dwi'n amau bod Hook a Stephen Jones yn gallu chwarae yn yr un tim, ac yn amau hefyd bod Hook a Henson yn cydblethu cystal a hynny. Os ydy Hook yn chwarae fel maswr, mae angen rhywun eithaf "direct" tu fas iddo - yr unig dro mae olwyr Cymru wir wedi gweithio gyda Hook fel maswr yw pan oedd Shanklin a Thomas tu fas iddo. Nid bod Hook yn chwaraewr gwael - ymhell ohoni - ond mater o gael y cydbwysedd iawn yw hi.

Felly os mae Henson yn chwarae, mae'n rhaid i Stephen Jones chwarae fel maswr. Os nag yw Henson ar gael, mae'n gyfle i edrych ar Hook a Shanklin. Arddull gwahanol, ond un gall weithio.
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 14 Mai 2008 8:09 am

Morgan Stoddart, Jamie Roberts, Shane Williams, Tom James, Mark Jones, Sonny Parker, Tom Shanklin, Andrew Bishop, Stephen Jones, James Hook, Andy Williams, Warren Fury, Gareth Cooper

Ryan Jones (capten), Dafydd Jones, Jonathan Thomas, Gareth Delve, Bradley Davies, Ian Evans, Alun-Wyn Jones, Ian Gough, Duncan Jones, Gethin Jenkins, Rhys Thomas, Adam Jones, Matthew Rees, Huw Bennett

Ble mae Charvis? Pam dim ond dau ganolwr? A dim ond dau fachwr? Rhyfedd gweld Byrne hefyd achos o'n i'n meddwl ei fod e mas...stop Rhaid bod Stoddard yn cael ei ystyried fel asgellwr...stop Da yw gweld Daf Jones nôl... stop.

Gol: camgymeriad gan y Beeb oedd Byrne.

Gol 2: http://www.wru.co.uk/1391_18005.php Bishop mewn yn ôl URC. Mae'r Beeb yn cael hunllef.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan Gwyn » Mer 14 Mai 2008 8:45 am

Falch gweld Bishop yn cael cyfle. Dyw'r garfan ddim yn edrych yn rhy ddrwg, heblaw safle'r mewnwr wrth gwrs. Os ma Cooper fydd yn chware, gobitho neith e ddim smonach o bethe fel yn y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia haf dwetha.
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan Ray Diota » Mer 14 Mai 2008 9:42 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ble mae Charvis?


fydde Charvis 'di bod yn fy nhîm 6 gwlad i a dwi ddim yn ffan o'r busnes dewis tim 'ar gyfer y dyfodol' ma fel arfer OND nawr dwi'n meddwl bod 'na gyfiawnhad mewn gadel chwaraewr sy'n 35 mas...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan ceribethlem » Mer 14 Mai 2008 10:20 am

Edrych ar y sgwad 'na, dim ond tri rheng ol sy 'na. Rhaid bod Charvis yn mynd i ymuno gyda nhw, ond achos odd e ddim yn Iwerddon bydd e ddim yn ymuno am ychydig. Yr unig opsiwn arall bydd dewis AWJ yn flaenasgellwr, sydd ddim yn ddoeth yn fy marn i. Peth arall does neb yn naturiol flaenasgellwr yna, er fod Dafydd Jones a Jon Thomas wedi chwarae yna yn y gorffennol ar adegau.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Taith Cymru i Dde Affrica

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 14 Mai 2008 10:28 am

ceribethlem a ddywedodd:Edrych ar y sgwad 'na, dim ond tri rheng ol sy 'na. Rhaid bod Charvis yn mynd i ymuno gyda nhw, ond achos odd e ddim yn Iwerddon bydd e ddim yn ymuno am ychydig. Yr unig opsiwn arall bydd dewis AWJ yn flaenasgellwr, sydd ddim yn ddoeth yn fy marn i. Peth arall does neb yn naturiol flaenasgellwr yna, er fod Dafydd Jones a Jon Thomas wedi chwarae yna yn y gorffennol ar adegau.


Fi... wel, Warren Gatland mewn gwirionedd a ddywedodd:Ryan Jones (capten), Dafydd Jones, Jonathan Thomas, Gareth Delve...


Yyyyymmmm...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai