Tudalen 1 o 1

Annheg!

PostioPostiwyd: Sul 22 Rhag 2002 8:46 pm
gan Hogyn o Rachub
Symudodd Cymru i fyny yn rancs pel-droed y byd 48 safle yn y flwyddyn diwethaf - mwy na unryw wlad arall.
Foddbynnag, Senegal sydd yn cipio'r wobr o "Symudwyr Mwyaf" er iddynt dim ond symud i fyny 38 safle!

Amiddiffyniad FIFA oedd fod Senegal wedi dechrau yn uwch i fyny na Chymru, ar 65 [Cymru ar 100].

Dwi ddim yn meddwl fod hynna'n deg! Ni symudodd fwyaf, wedi'r cwbl!

Bedachi'n feddwl, hogia?

Re: Annheg!

PostioPostiwyd: Sul 22 Rhag 2002 11:57 pm
gan Di-Angen
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Symudodd Cymru i fyny yn rancs pel-droed y byd 48 safle yn y flwyddyn diwethaf - mwy na unryw wlad arall.
Foddbynnag, Senegal sydd yn cipio'r wobr o "Symudwyr Mwyaf" er iddynt dim ond symud i fyny 38 safle!

Amiddiffyniad FIFA oedd fod Senegal wedi dechrau yn uwch i fyny na Chymru, ar 65 [Cymru ar 100].

Dwi ddim yn meddwl fod hynna'n deg! Ni symudodd fwyaf, wedi'r cwbl!

Bedachi'n feddwl, hogia?


Nad oeddet ti'n gwybod? Mae yna conspiracy byd-eang yn erbyn Cymru.

PostioPostiwyd: Llun 23 Rhag 2002 9:49 am
gan nicdafis
Fel mae <a href="http://www.fifa.com/rank/main_E_latest.html">wefan FIFA</a> yn esbonio, nid graddfa wastad yw e. Mae hyn yn wneud sens - mae'n tipyn bach mwy o gamp i symud o #2 i #1 (mae rhaid i chi guro Brasil) nag i symud o #97 i #96 (mae rhaid i chi guro Congo).

Os wyt ti wir moyn cwyno am rywbeth, beth am eu disgrifiad o dîm Cymru fel <i>boys from the valleys</i>?

PostioPostiwyd: Llun 23 Rhag 2002 10:57 am
gan Hogyn o Rachub
nicdafis a ddywedodd:Os wyt ti wir moyn cwyno am rywbeth, beth am eu disgrifiad o dîm Cymru fel <i>boys from the valleys</i>?


Haha! Dwi'n meddwl ella fo ddylai gymryd hwnna fyny! :D