gan Doctor Sanchez » Mer 11 Meh 2008 9:43 pm
Dwi di clywed pethau mawr am Dan Biggar, mae o'n tipped for the top yn ol be dwi di glywed. A geith o gyfle efo James Hook o'i flaen, mae hwnna'n gwestiwn mawr. Mi fysa'n bechod gweld chwaraewr fel yma yn pydru ar y fainc am dri chwarter y tymor. Dwi'n credu dyliai y rhanbarthau ddechrau 'loanio' chwaraerwyr ifainc i'w gilydd er mwyn cael profiad. Mae Leigh Halfpenny yn un arall, uffar o dalent i'r dyfodol mae'n debyg, ond mae o wedi cael contract gyda'r gleision. Mae gynnon nhw Jamie roberts (achos Blair) a Tom James ar yr asgelli, mae nhw newydd arwyddo Mustoe a Brew a mae Czekai ar i ffordd nol o anaf. Chwech asgellwr i gyd!
Roedd y rhanbarthau yn fod i roi profiad ar y lefel uchaf yn gyson i'n chwaraewryr, ac yn hynny o beth mae o wedi gweithio, ond mae'r gap rhwng y Uwch Gynghrhair a'r rhanbarthau yn rhy fawr a pan mae nhw yn gneud y step mae nhw allan o'u dyfnder oherwydd dydyn nhw ddim yn cael chwarae'n ddigon cyson. Gobeithio y daw y syniad o Gynghrair A i'r Magners drwodd reit handi a dowch a Tim A Cymru yn ol wir dduw. Siawns fod o werth o i ddatblygu yr ifanc yn gynt.
O ran diddordeb, oedd mab Kingsley Jones yn chwarae, hwnna'n un da arall i fod, maswr arall?
Not my fault. Monkey bastard hands!
WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?