gan Rhods » Sad 30 Awst 2008 4:46 pm
Perfformiad anhygoel arall yn ol y son, yn erbyn Sheff Wed, er gwaetha pido ennill...Dwi ochr arall y byd ar foment(!!) , ond di cael 2 galwad ffon gan cyfeillion aeth ir gem a dweud ein bod allan o'r byd!!! (di bod yn gliwd hefyd i wefan y South Wales Evening Post!)
Shwr bod ran fwya o ffans Abertawe yn ypset ar ol y canlyniad v Sheff Wed, ond y perfformiad sydd yn bwysig ar hyn o bryd, nid y canlyniadau, a hithau mor gynnar yn y tymor...fe ddeiff y canlyniadau a fydd y 'draws' yn troi mewn i 'wins' etc etc...cofio Roberto yn dweud rhywbeth tebyg y llynnedd ar ol dechreuad araf , anffodus ac anlwcus o ran canlyniadau (ond perfformiadau da)..odd hwn ar ol i ni gael 4 pwynt allan o'r 12 posib gynta...and the rest as they say, is history!!
Pethe yn mynd lawr yn gret da ni - hyd yn oed ein 'ail' tim yn curo tim o'r Premiership.!!!..ma'r strength in depth ar cystadleuaeth am lleoedd yn anhygoel ...Owain Tudur Jones er enghraifft methu hyd yn oed cael lle ar y fainc a ma fe yn chwaraewr sydd mewn cafan tim cynta Cymru!!! Bydde lot o rheolwyr ond yn breuddwydio i gael sgwad fel sydd da ni, ac ond wedi gwario chydig iawn arni!!!
Palace 13 Medi - byddai nol i hwnna (!!!)...Yp ddy Jacs!!!