Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan Cynyr » Llun 30 Meh 2008 11:10 am

Angel Rangel,
Guillem Bauza,
Andrea Orlandi
Jordi Gomez
Gorka Pintado

A nesa

Dwi'n rhagweld tymor diddorol yn El Liberty flwyddyn yma :)
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan Rhods » Llun 30 Meh 2008 12:31 pm

Edrych ymalen i weld yr arwyddion newydd. Dodd neb yn gwbod lot am Angel, Bussy a Orlandi - ond gwanethon nhw yffarn o marc yn ein tymor y llynnedd (yn enwedig Rangel a Bussy). Gobitho bydd run peth yn digwydd da'r arwyddion newydd...Odd e yn gwd gweld Sbaen yn ennill neithiwr - gobitho yn fawr bydd y winning ffiling yma yn cael effaith yn y liberty..

Beth sydd yn dda yw am Roberto yw bod e di gael y bois newydd ma ar geiniogau i gymharu ar clybiau ennill yn y run adran sydd di gwario miliynau.

Falle bod rhai yn ein beirniadu am arwyddo dramor. Ond y realiti yw , ma nhw lot yn siepach na prynnu chwaraewyr o gartre...a da ni ddim am weld y clwb yn mynd i drafferth ariannol fel sydd di digwydd da lot o glybiau dros y blynyddoedd diwethaf...sdim lot o ddewis da ni.. Mewn byd delfrydol, da chi ishe gweld tim llawn o chwarwaewyr gartre ond y realiti yw dyw hwnna ddim yn bosib oherwydd gwerth yr arian ma nhw yn costio ar cyflogau (E.E Freddie Eastwood - £2m?Earnshaw - £2.7m? Chad Evans - cyflog enfawr etc etc)...neu os ma fe yn digwydd, ma fe yn rhoi dyfodol y clwb yn y fantol... .(er jyst atogf - OTJ , fydd e yn y tim blwyddyn nesa ac hefyd Ashley Williams heb anghofio Shaun Macdonald - 2 chwaraewr rhynglwadol i'r tim cenedlaethol ac un ir dan 21.

Gwles i yr ods bore ma a ni yw un o'r fferfynnau i fynd lawr...ga i ddweud bo fi yn hynod o falch am hyn! Fe fydd hyn yn incentive i ni brofi y doubters yn rong fel gwanethon chi llynnedd. Dwi am ddiolch i'r bwcis am hwn, (a dwi ddim yn bod yn nawddoglyd trwy dweud hwnna, dwi yn ei feddwl e!).

Sneb yn gwbod be bydd ein tynged tymor nesa...ond un peth sydd yn sicr, yw fe fydd hyd yn oed fwy o 'total football' yn dod o dim Roberto yn lle'r long ball rybish ma ran fwyaf o glybiau yn lico chwarae! Bring it on!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan Cynyr » Maw 15 Gor 2008 2:02 pm

newyddion gwych i ni

Ar ol yr holl ansicrwydd dros yr wythnosau diwethaf ma hyn yn newyddion gret i Abertawe.
Dwi'n edrych ymlaen i'r tymor yma. Oce, ma nifer wedi dweud taw ni di'r ffefrynau i fynd lawr ond mae Martinez wedi treulio wythnosau yn cryfhau'r garfan a chael gwared o lot o wastraff!
Chwarae teg i Bodde am gytuno. Iawn o bosib mae nid ei ddewis cyntaf fyddai i aros yn y Liberty ond o leiaf ei fod yn dangos ychydig o fyddlondeb, sy'n wahanol i ryw sgowsar o'r ddinas lawr y ffordd :winc:
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan Rhods » Maw 15 Gor 2008 2:36 pm

Mae hyn yn newyddion wych...Ma Roberto di bod yn gweithio yn galed da'r holl seinins yma dros yr haf..Mae gen i ffydd ynddo. Mae lot o rheolwyr yn ddi-dychymyg ac yn arwyddo'r/ceisio arwyddwyr rhai amlyca am £1m neu £2m o'r wlad yma...ond da Roberto mae di arwyddo 7 chwaraewr am llai na £1m!!! Dwi yn gwybod bydd rhai yn dweud, bod yr arwyddion newydd ma heb profi eu hunain, ond mark my words, bydd y chwaraewyr ma yn taro deuddeg...yn enwedig y striker Pitando, bydd e yn revelation, watch this space....

Sylwi bod '33' options da ni ar gyfer lleoedd yn y tim y tymor nesa...
Goli - Dorus
Left Back - Painter, Bessone, Orlandi
Right back - Rangel, Tate
Centre halfs - Monk, Williams, Serran, Lawrence, Tate
Canol Cae - OTJ, Bodde, Prattley, Britton, Gomez, Oleary, J Allen
Asgell dde- Britton, Butler, Macdonald, Gomez
Asgell chwith - Mark Gower, Butler, Orlandi, Macdonald, Britton
Strikers - Bauzza, Scotland, Pitando, Morrison, Chris Jones, Bond...

Rhai chwaraewyr yn gallu chware mwy nag un safle...a da ni yn son fan hyn am ansawdd da, dim jyst, chwaraewyr yna i lenwi'r sgwad.Sylwer canol cae - wot an opsiwn! Roberto yn mynd i gael problem neis mae'n debyg o pwy i ddewis a pwy i adael allan!
Angen goli, asgellwr cloi i gymryd lle Anderson, a falle striker arall..

Hapus iawn....
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan aronj89 » Maw 15 Gor 2008 3:17 pm

Rhods a ddywedodd:Sylwi bod '33' options da ni ar gyfer lleoedd yn y tim y tymor nesa...
Goli - Dorus
Left Back - Painter, Bessone, Orlandi
Right back - Rangel, Tate
Centre halfs - Monk, Williams, Serran, Lawrence, Tate
Canol Cae - OTJ, Bodde, Prattley, Britton, Gomez, Oleary, J Allen
Asgell dde- Britton, Butler, Macdonald, Gomez
Asgell chwith - Mark Gower, Butler, Orlandi, Macdonald, Britton
Strikers - Bauzza, Scotland, Pitando, Morrison, Chris Jones, Bond...

Angen goli, asgellwr cloi i gymryd lle Anderson, a falle striker arall..


Ti'n un anodd i dy blesio :lol: Swni ddigon bodlon gyda golgeidwad yn unig i fod yn onest. Dwi'n gweddio wneith y chwaraewyr newydd gael llwyddiant yn 'blendio' mewn. Os ddigwyddith hyn fydd popeth yn gret ag ow ni ddim lawr. Dwi'n nabod rywun sydd wedi rhoi pres ar 6 uchaf :P Falle fod huna yn gofyn gormod.
Ar ran canol y cae oni wrth fy modd gyda Pratley tymor diwethaf a nai byth anghofio'r 'standing ovation' gath o wedi ei yrru oddi ar y cae yn ngem Yeovil wedi tynnu chwaraewr lawr fel yr amddiffynwr olaf. Classic. Wrth fy modd fod Bodde yn aros hefyd ac yn edrych ymlaen i gael gweld ychydig mwy o Orlandi. Gower yn argoeli'n dda a dwi'n cytuno 100% am Pintado. Hat-trick mewn gem gyfeillgar a dwy i Bauzza = Pintado yn well chwaraewr. Haha efallai ddim ond cawn weld. Fydd hi'n ddiddorol cael gweld pwy fydd yn chwarae yn y blaen tymor yma hefyd. Braf fyddai gweld Brandy yn dod yn ol. Roedd ei gyflymder yn gallu newid gemau pan oedd ar ei orau.
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan Rhods » Maw 22 Gor 2008 8:34 am

aronj89 a ddywedodd: Braf fyddai gweld Brandy yn dod yn ol. Roedd ei gyflymder yn gallu newid gemau pan oedd ar ei orau.


Newyddion da. Brandy yn arwyddo neithiwr ar benthyciad 6 mis (initially)...

Goli fel bac yp nawr - (angen ail un jyst rhag ofn bydd De Vries yn cael anaf + angen cystadleuaeth iachus)...a wedyn sgwad complit....

Joio'r tymor sydd angen neud nawr - dim rhoi targets a rhoi pwysau ar ein hunain..ma rhai clybiau yn y gyngrair yn rhoi targets iw hunain ,yn son am gorffen top 6, top 2 etc etc a dechre mynd yn cocky...bownd o fethu naw gwaith mas o ddeg..

O ran diddordeb, ni yw'r ail dim mwya mae'n debyg yn y Bencampwriaeth sydd di arwyddo mwya o chwaraewyr (ar ol Derby)...amlwg bod chwaraewyr yn gweld ni yn glwb deiniadol a potensial i lwyddo yn fawr.

3000 yn mynd i Charlton - pob tocyn di werthu. Mae'n debyg gallwn ni di gwerthu dwbwl hwnna. Pris llwyddiant! O ran diddordeb, adroddiadau papur yn dweud bod hyd 6000- 7500 yn gem gyfeillgar yn erbyn Castell Nedd yn y Gnoll yr wythnos diwethaf...Anhygoel!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan aronj89 » Maw 22 Gor 2008 2:19 pm

Neis gweld Pintado a Bauzza yn dal i sgorio er mai yn erbyn gwrthwynebwyr cyngrair Cymru oedd o. De ni wedi cael trafferth gyda timau tebyg yn y gorffennol yng nghwpan Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan aronj89 » Llun 28 Gor 2008 8:42 pm

Bussy yn mynd o nerth i nerth. Biti iddo gael cerdyn coch. Gwd gweld Brandy yn sgorio hefyd. Bring on y tymor rwan!!!
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan krustysnaks » Llun 28 Gor 2008 11:34 pm

Rhods a ddywedodd:Edrych ymalen i weld yr arwyddion newydd.

Pam? Yw hi'n anodd dod o hyd i'r stadiwm?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Gwersi Sbaeneg i gefnogwyr Abertawe!!

Postiogan ceribethlem » Maw 29 Gor 2008 1:55 am

[gol - wedi dileu fy nonsens meddwol - Ceri]
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 41 gwestai

cron