Ioan_Gwil a ddywedodd:felly ydi hynny yn fwy gwerthfawr i beldroed cymru na rhoir llefydd i gyd i dimau'r gynghrair? beth ydir manteision dros hynny?
Wel, fel ag y mae hi, mae 4 clwb o'r Pyramid Cy,reig yn cael cyfle i gystadlu'n Ewrop bob tymor. Mae'r 2 uchaf bron a bod yn cert cyn i'r tymor gychwyn, sef y timau llawn amser sef TNS a Llanelli. Yn ymuno a nhw, a gyda'r potensial o fod yn bencampwyr eu hunain, mae'r Rhyl. Yn dilyn y rheiny mae na un le ychwanegol, tymor yma Bangor, tymor dwytha, Caerfyrddin. Mae'r clybiau hyn yn derbyn £65k dim ond am gyrraedd cwpan UEFA, arian mawr i glybiau o'r safon yma, dwi'n siwr wnei di gytuno. Beth sy'n fy mhoeni i am adael yr alltudion i fewn ydi y byddai nhw'n ymuno yn rownd yr 8 olaf neu rhywbeth felly, gan amddifadu mwyafrif clybiau Cymru o'r siawns o'u chwarae a gwneud y colledion i fynnu drwy'r giat. Mae'n risg ar y funud a gallasai olygu fod y tymor bron a bod drosodd erbyn Nadolig os mae'r tri uchaf yn y gynghrair yn weddol saff o'u lle.
Dwi di dweud o'r blaen mod i'n resymol gefnogol o agor allan Cwpan Cymru, ond yn sicr nid oherwydd fod record ein clybiau'n wael, ac fod angen ei wella. Mae gen i fy amheuon pa mor bwysig y byddai Caerdydd ac Abertawe yn ystyried Cwpan Cymru, gyda lle yn Ewrop neu'i peidio. Yn amlwg doedd £100k y Cwpan Cenedlaethol ddim digon, a dwi'm yn siwr os byddai taith ganol mis Gorffenaf i Riga neu Gefle yn cymryd ffansi Dave Jones chwaith. Yn sicr fydd ail-dim Caerdydd ddim digon i denu torf swmpus i'r Traeth.