Timau Cymru yn Ewrop

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan Ioan_Gwil » Llun 28 Gor 2008 12:32 pm

sbia be ma ray diota yn ddeu cyndda fi :- "fydden i'n rhoi lle'n ewrop i bencampwyr y gynghrair ac i ennillwyr cwpan cymru sy'n cynnwys pob clwb..."

yn syml atgyfnerthu hynny oni!



a pwynt arall sydd gen i dros neud hynny ydi, os ydi abertawe neu gaerdydd yn cael spot yn uefa, meddylia cymaint o brofiad fyddai o i chwaraewyr megis joe ledley, jo allen, ac hwyrach y medsa caerdydd wedi gallu dal eu gafael ar ramsey!

fedri di ddim dadla y byddai profiad ewropeaidd i hogia ifanc Cymru, yn fwy gwerthfawr ir tim cenedlaethol ac yn bwysicach i gymru fel gwlad beldroed na gweld timau semi-broffesiynol yn cael cweir unwaith y flwyddyn
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan eusebio » Llun 28 Gor 2008 2:28 pm

Ioan_Gwil a ddywedodd:sbia be ma ray diota yn ddeu cyndda fi :- "fydden i'n rhoi lle'n ewrop i bencampwyr y gynghrair ac i ennillwyr cwpan cymru sy'n cynnwys pob clwb..."

yn syml atgyfnerthu hynny oni!


Dwi dal ddim yn siwr be ti'n feddwl wrth sôn am ail a thrydydd timau Caerdydd ac Abertawe ... :?


Ioan_Gwil a ddywedodd:... ac hwyrach y medsa caerdydd wedi gallu dal eu gafael ar ramsey!


Ti'n serious?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan Ioan_Gwil » Llun 28 Gor 2008 4:39 pm

wel os fysa nhw yng nghwpan Cymru a cyfle am ewrop ar y diwedd ni fyddan nhw yn chwara eu 'reserves' ac yn cymeryd y gystadlaeaeth o ddifri yn wahanol i be ma nhw di bod yn neud efo cwpan yr FAW

na, i fod yn onest dwim n meddwl y bydden nhw wedi dal eu gafael ar ramsey ond mi fydda na fwy o siawns di bod. os fydda na le i abertawe neu gaerdydd yna mi fydda hynny yn atynnu chwaraewyr o safon a fyddai hwyrach ddim digon da i chwarae i dimau fel aston villa, portsmouth, man city, everton etc syn pwsho am lefydd uefa yn y prem ond y bydda'r 'lure' o ewrop hwyrach yn eu denu yn lle dewis tim megis reading, derby, wolves, west brom.

wyt tin credu y byddai marcus bent wedi snubio i fynd i birmingham os fysa na siawns o chwara yng nghwpan UEFA i gaerdydd? man gyfle ir ddau dim ddenu chwaraewyr da
yn ei dro byddai atgyfnerthu'r sgwadiau yn datblygu chwaraewyr i Gymru.

meddylia wan, mae'r gallu gen un or timau yma i gyrraedd 'group stage' uefa. dwim n gwbo faint o bres tn gal am gyraedd fano ond dwin shwr fod on dipyn. dros amser mi fedsa'r arian yma, os ydin cael ei drin yn iawn ddatblygu bechgyn ifanc yn yr 'academies' a drwy chwarae hein gyda chwaraewyr megis fowler, hasslebaink etc yna mae'r tim cenedlaethol yn mynd i elwa

felly ydi hynny yn fwy gwerthfawr i beldroed cymru na rhoir llefydd i gyd i dimau'r gynghrair? beth ydir manteision dros hynny?
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan Ioan_Gwil » Llun 28 Gor 2008 4:43 pm

a cyn chd ddeu, ydw dwi yn gwbo fod fowler a hasslebaink wedi gadael caerdydd! enghreifftia oedden nhw
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan garynysmon » Llun 28 Gor 2008 5:33 pm

Ioan_Gwil a ddywedodd:felly ydi hynny yn fwy gwerthfawr i beldroed cymru na rhoir llefydd i gyd i dimau'r gynghrair? beth ydir manteision dros hynny?


Wel, fel ag y mae hi, mae 4 clwb o'r Pyramid Cy,reig yn cael cyfle i gystadlu'n Ewrop bob tymor. Mae'r 2 uchaf bron a bod yn cert cyn i'r tymor gychwyn, sef y timau llawn amser sef TNS a Llanelli. Yn ymuno a nhw, a gyda'r potensial o fod yn bencampwyr eu hunain, mae'r Rhyl. Yn dilyn y rheiny mae na un le ychwanegol, tymor yma Bangor, tymor dwytha, Caerfyrddin. Mae'r clybiau hyn yn derbyn £65k dim ond am gyrraedd cwpan UEFA, arian mawr i glybiau o'r safon yma, dwi'n siwr wnei di gytuno. Beth sy'n fy mhoeni i am adael yr alltudion i fewn ydi y byddai nhw'n ymuno yn rownd yr 8 olaf neu rhywbeth felly, gan amddifadu mwyafrif clybiau Cymru o'r siawns o'u chwarae a gwneud y colledion i fynnu drwy'r giat. Mae'n risg ar y funud a gallasai olygu fod y tymor bron a bod drosodd erbyn Nadolig os mae'r tri uchaf yn y gynghrair yn weddol saff o'u lle.

Dwi di dweud o'r blaen mod i'n resymol gefnogol o agor allan Cwpan Cymru, ond yn sicr nid oherwydd fod record ein clybiau'n wael, ac fod angen ei wella. Mae gen i fy amheuon pa mor bwysig y byddai Caerdydd ac Abertawe yn ystyried Cwpan Cymru, gyda lle yn Ewrop neu'i peidio. Yn amlwg doedd £100k y Cwpan Cenedlaethol ddim digon, a dwi'm yn siwr os byddai taith ganol mis Gorffenaf i Riga neu Gefle yn cymryd ffansi Dave Jones chwaith. Yn sicr fydd ail-dim Caerdydd ddim digon i denu torf swmpus i'r Traeth.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan eusebio » Llun 28 Gor 2008 8:04 pm

Ioan_Gwil a ddywedodd:wel os fysa nhw yng nghwpan Cymru a cyfle am ewrop ar y diwedd ni fyddan nhw yn chwara eu 'reserves' ac yn cymeryd y gystadlaeaeth o ddifri yn wahanol i be ma nhw di bod yn neud efo cwpan yr FAW


Ahhhhhh ... sôn am y Cwpan Cenedlaethol oeddet ti ... dyna oeddwn i'n feddwl yn wreiddiol 'li ond nes di ymateb mor swr o dy betha ... ;)

Ioan_Gwil a ddywedodd:wyt tin credu y byddai marcus bent wedi snubio i fynd i birmingham os fysa na siawns o chwara yng nghwpan UEFA i gaerdydd? man gyfle ir ddau dim ddenu chwaraewyr da
yn ei dro byddai atgyfnerthu'r sgwadiau yn datblygu chwaraewyr i Gymru.


felly be? denu chwaraewyr neu datblygu'r Cymry?
Yn bersonol dwi ddim yn meddwl 'sa Bent di newid ei feddwl - arian di'r unig beth sy'n gyrru pêl-droediwr dyddiau yma. Efallai 'sa fo di gwneud gwahaniaeth i glwb yn y drydedd neu'r bedwaredd adran, ond ddim yn y Bencampwriaeth.

Dim ots ganddyn nhw go iawn am Gwpan Uefa - yli dirmygus oedd Bolton o'u lle yn Ewrop llynedd


Ioan_Gwil a ddywedodd:meddylia wan, mae'r gallu gen un or timau yma i gyrraedd 'group stage' uefa. dwim n gwbo faint o bres tn gal am gyraedd fano ond dwin shwr fod on dipyn.


Dim llawer ... roedd Everton yn cwyno am hyn yn gynharach eleni
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan dewi_o » Iau 31 Gor 2008 8:12 pm

TNS weid colli 0-1 eto. Dau haner perfformiad gan Llanelli a TNS. Ond y tri tim o Gymru mas cyn mis Awst eto. Ydy hi'n amser gael timau fwy yn cynrhychioli Cymru tybed ?
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan joni » Iau 31 Gor 2008 10:41 pm

dewi_o a ddywedodd:Ydy hi'n amser gael timau fwy yn cynrhychioli Cymru tybed ?

Syniad da. Ti'n meddwl gallwn ni gael Real Madrid i gynrhychioli ni?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan Rhods » Gwe 01 Awst 2008 9:33 am

Dwi yn meddwl fod e yn anodd iawn i unrhywun amddiffyn canlyniadau timau Cymru yn Ewrop ers 1993 (sefyldiad LOW???)...

Dwi di ceisio edrych am dystiolaeth caled fel odd Eusebio wedi gneud request am , sydd ond yn deg ...y gore des i lan odd canlynidau 1993 - 2002.

Mae yn darllen 78 gem. Ennill 7 Cyfartal 12 Colli 59..Gols sgoriwyd 51 Gols yn erbyn 221...gwerth nodi mai allan or 7 a ennillwyd , gwnath Barri ennill 5...

O ran diddordeb, oes gan unrhyw un stats canlyniadau timau Cymru yn Ewrop 2003-2008? Eusebio falle?

Dwi yn amau yn fawr iawn bod nhw wedi gwella lot ers stats 1993-2002, cawn aros tan y cawn ni'r stategau..

Mae angen rhywbeth i wella...neu newid. Ma'r ddadl o gael cyngrair Cymru yn chwrae yn yr Haf yn ddadl cryf iawn ac hefyd gostwng nifer y clybiau yn y gyngrair (10 o bosib??)...ond odi e yn mynd i wella ein canlyniadau a stopor hamerings ?

Ma'r ddadl ynglyn a cael Abertawe, Caerdydd a Wrecsam bownd o godi tro ar ol tro..er dwi yn gallu deall dadl un person sydd di cyfrannu ir drafodaeth (ddin yn cofio pwy)..a ddywedodd dyw canlyniadau timau y LOW ddim yn ddigon yn unig i adael y 3 mawr i nol fewn i Ewrop...

Ma canlyniadau ni wedi bod yn reit erchydus, embarasing hyd yn oed..pam ma un on timau yn colli 10-1 ar agregate...mae yn codi cwestiynnuau mawr..
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Timau Cymru yn Ewrop

Postiogan eusebio » Gwe 01 Awst 2008 10:24 am

Dyma ystadegau timau Cymru yng Nghwpan Ewrop/Cynghrair y pencampwyr:

CH 28 E 7 Cyf 2 Coll 18 Gôls 23 Gôls yn erbyn 71

Cyn i ni edrych am ystadegau, mae angen cofio fod patrwm y cystadlaethau wedi newid yn syfrdanol ers dyddiau Caerdydd, Wrecsam ac Abertawe yn yr ECWC.
Yn gyntaf mae 'na lot mwy o wledydd yn bodoli yn Uefa, yn ail mae'r gystadleuaeth wedi ei dethol ac wedi ei rhannu'n rhanbarthol bellach.

Rhods ... tra bod ni'n sôn am sgôrs 'embarrasing' fel 10-1 Bangor, mae angen eu rhoi mewn cyd-destun
Bangor 1-10 Midjtylland (DEN)
Cliftonvbille 0-11 Copenhagen (DEN)
TVMK 0-8 Nordsjælland (DEN)
... a draw yn yr Intertoto Aston Villa 3-2 Odense (tim orffennodd yn is yn y gynghrair llynedd na Midjtylland a Copenhagen)

efallai mai'r cwestiwn ddylai fod - pam fod timau Denmarc yn y rownd rhagbrofol ...?

'Dwi yn siomedig efo canlyniad Y Seintiau neithiwr, roedd gen i obeithion mawr y byddai'r Seintiau yn trechu Suduva ... yng Nghynghrair y Pencampwyr roedd angen gôl arall ar Lanelli yn y cymal cyntaf yn erbyn Ventspils i sicrhau bod y tactegau yn Latfia 'di bod yn wahanol ... ond fel dwi di dweud eisoes, mae angen lobio Uefa i agor y draw a pheidio ei gael yn un rhanbarthol fel bo modd chwarae timau sydd, fel ni, heb ddechrau eu tymor pêl-droed- dyna fyddai ei angen i wella perfformiadau'r Cymry.

Gyda llaw Rhods, beth oedd sgôr Abertawe yn erbyn Monaco yn ECWC 1991 ... 10-1 ... emabaras?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai

cron