http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/sa ... 0553.shtml
Sai'n ffan enfawr o rygbi'r gynghrair ond ma hwn yn newyddion diddorol iawn. Tybed shwd hwyl fydda nhw'n cael arni? Oes rhywun o'r Maes yn mynychhu'r gemau?
Cymedrolwr: eusebio
ceribethlem a ddywedodd:Dim diddordeb gyda fi yn rygbi shelffo llawr ...
joni a ddywedodd:http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/safle/rygbi_xiii/pages/110553.shtml
Sai'n ffan enfawr o rygbi'r gynghrair ond ma hwn yn newyddion diddorol iawn. Tybed shwd hwyl fydda nhw'n cael arni? Oes rhywun o'r Maes yn mynychhu'r gemau?
Ger27 a ddywedodd:Gen i'm llawer i'w ddweud tuag at rygbi'r undeb na'r gynghrair ond dwi'n llongyfarch Leighton Samuel yn sgil cyhoeddiad ddoe.
Mi gafodd Samuel a bobl Penybont eu shafftio gan URC a dwi'n meddwl bod yna elfen yma o LS yn codi dau fys yn ol at y URC. Fyddwn i’n dychmygu bydd torfeydd y Crusaders yn y Super League yn fwy na rhai’r Blues a’r Dreigiau yn y Celtic League. Pob lwc iddyn nhw.
Ger27 a ddywedodd:Penderfyniad URC oedd hi fod ddim angen tim rygbi proffesiynol nunlle rhwng Caerdydd ac Abertawe. Gyda poblogrwydd rygbi yn yr 'M4 cordior', dwi'n meddwl fod hynny wedi bod yn gwmgymeriad gan URC a nid oedd angen cael gwared ar y Warriors. Hefyd, gan fod y nifer o dramorwyr sy'n chwarae i'r rhanbarthau wedi codi ers diddymiad y Warriors, does dim cymaint o hynny o Gymry yn cael y cyfle i chwarae rygbi rhanbarthol ar lefel uchel (Cwpan Heiniken).
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai