Mr Gasyth a ddywedodd:O ran diddordeb Eusebio, pam dy fod mor hoff o rygbi'r gynghrair ond yn casau rygbi'r undeb?
Dwn i ddim a bod yn onest - doeddwn i erioed wedi rhoi llawer o sylw i Rygbi XIII tan i mi fynd i'r coleg ... yn Bradford - dim ond ei fod o ar Grandstand nawr ac yn y man efo Eddie Waring a'i "oop and oonders"
Ond wedi cyrraedd coleg bues i'n gwylio Bradford Northern yn Odsal ar sawl nos Sul gwlyb gydag anryw o fy ffrindiau (rhai yn gefnogwyr lîg, eraill, fel fi, yn ei wylio'n fyw am y tro cyntaf). Roedd awyrgylch Odsal yn debyg i awyrgylch torf bêl-droed - roeddwn i'n hoffi'r gêm gyflym 'ma ac yn falch iawn o'r Cymry oedd yn gwneud eu marc yn Rygbi XIII ar y pryd ... cefais fy swyno!
Os dwi'n cyfaddef, roedd na elfen o anti-establishment yn perthyn i'r peth hefyd ... Cymro? yn hoffi Rygbi XIII?
Roedd Gerald Cordell yn Northern, JD newydd symud i Widnes ayyb. ac roedd na deimlad o cael bod yn rhan o rhywbeth cyffrous reit ar y cychwyn gan fod y cyfnod yma'n un llewyrchus iawn i Rygbi XIII Cymru. Roedd agwedd mileinig URC tuag at y sêr yma yn warthus ac mae hynny wedi lliwio fy marn am y corff yna a'i llu o 'blazers'. 'Dwi'n cofio URC yn gwrthod caniatau i JD gael ei gyfweld ar ochr maes Parc yr Arfau dim ond am ei fod o'n chwarae Rygbi XIII.
Chwaraeais ambell i gêm o XIII i'r coleg hefyd - roeddwn i'n rybish a cefais fy chwalu (yn llythrenol) gan rhai o 'works teams' Bradford a'r cyffuniau!
Does gen i ddim casineb tuag at Rygbi'r Undeb - dwi'n ei ffendio'n ddiflas o gamp i'w wylio o gymharu â phêl-droed a rygbi XIII - rhydd i bawb ei farn and all that - y casineb sydd gen i yw'r obsesiwn sydd gan y wasg a'r cyfryngau Cymreig o stwffio rygbi lawr ein corn gyddfa' a'i alw'n '
heartbeat of the nation' a rhyw bolycs tebyg ... mi alla'i ymhelaethu am hyn, ond mae'n siwr mai edefyn arall fyddai hynny
Gobeithio bod hynny'n rhyw fath o ateb dy gwestiwn!