Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan eusebio » Maw 05 Awst 2008 9:10 pm

ceribethlem a ddywedodd:Digon teg, mae'r awyrgylch mewn gemau mawr yn wych, rhaid dweud.

Yn wahanol i bob camp arall ia?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan ceribethlem » Maw 05 Awst 2008 9:16 pm

eusebio a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Digon teg, mae'r awyrgylch mewn gemau mawr yn wych, rhaid dweud.

Yn wahanol i bob camp arall ia?

Gan bod fi heb weld bob camp yn y byd, mae'n amhosib i fi gymharu :winc:
Yn sicr o'm profiad i, mae'r cyfle i gymysgu gyda cefnogwyr o'r clwb/gwlad arall cyn, yn ystod ac ar ol y gem yn beth arbennig iawn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan eusebio » Mer 06 Awst 2008 10:26 am

ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Digon teg, mae'r awyrgylch mewn gemau mawr yn wych, rhaid dweud.

Yn wahanol i bob camp arall ia?

Gan bod fi heb weld bob camp yn y byd, mae'n amhosib i fi gymharu :winc:
Yn sicr o'm profiad i, mae'r cyfle i gymysgu gyda cefnogwyr o'r clwb/gwlad arall cyn, yn ystod ac ar ol y gem yn beth arbennig iawn.

Ia, wir ... ac o'm profiad i, 'dwi wedi cymysgu 'da pobl o nifer fawr iawn* o wledydd cyn ac ar ôl gemau wrth wylio pêl-droed ... nid rygbi ydi'r unig gamp sydd ag awyrgylch gwych yn ystod gemau mawr siwr iawn ...

* h.y. mwy na Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Awstralia, Seland Newydd a De Africa
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan ceribethlem » Mer 06 Awst 2008 10:32 am

eusebio a ddywedodd:Ia, wir ... ac o'm profiad i, 'dwi wedi cymysgu 'da pobl o nifer fawr iawn* o wledydd cyn ac ar ôl gemau wrth wylio pêl-droed ... nid rygbi ydi'r unig gamp sydd ag awyrgylch gwych yn ystod gemau mawr siwr iawn ...
Nes i byth honni hynny :? Y cyfan wedes i yw ei fod yn bosib i eistedded gyda'r gwrthwynebwyr yn ystod y gem yn ogystal a chymysgu cyn ac ar ol hynny. Dwi byth wedi cymharu hi gydag unrhyw gamp arall.

Eusebio a ddywedodd:* h.y. mwy na Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Awstralia, Seland Newydd a De Africa
Siapan, Sbaen, Portiwgal, Ariannin, yr Eidal, Canada, UDA, Jorja i feddwl am rai off top mhen. Fi ddim cweit yn deall y pwynt.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan eusebio » Mer 06 Awst 2008 11:18 am

Wel mewn edefyn sy'n honni mai rygbi di'r gêm gorau yn y byd ar sail Haka NZ roeddwn i'n gwneud y pwynt fod awyrgylch dda i'w gael ym mhob camp.
Dwi ddim cweit yn deall sut fod eistedd efo cefnogwyr y gwrthwynebwyr yn gwneud camp/awyrgylch yn well :?

ceribethlem a ddywedodd:
Eusebio a ddywedodd:* h.y. mwy na Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Awstralia, Seland Newydd a De Africa
Siapan, Sbaen, Portiwgal, Ariannin, yr Eidal, Canada, UDA, Jorja i feddwl am rai off top mhen. Fi ddim cweit yn deall y pwynt.

Dim ond dig bach gen i ... ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan Ger27 » Mer 06 Awst 2008 11:21 am

Fy marn i...
Dwi'n meddwl fod na fwy i ddilyn chwaraeon rhyngwladol na cymsgu gyda crachach Munster neu toffs Richmond yn Llundain. Y gwahaniaeth mwyaf rhwng cefnogwyr yr Home Nations ydi lliw y crysau. Rho Wyddel mewn crys gwyn a rho acen Seisnig iddo a mae gen ti dy 'Twickenham T*at'. Adar o'r unlliw hedant i'r unlle.

ceribethlem a ddywedodd:Siapan, Sbaen, Portiwgal, Ariannin, yr Eidal, Canada, UDA, Jorja i feddwl am rai off top mhen. Fi ddim cweit yn deall y pwynt.

Mae rhai'n yn swnio fel gwell trips i mi. Yn anffodus dwi'm yn nabod yr un cefnogwr rygbi sydd wedi "mentro" i unrhyw un o'r gwledydd uchod.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan ceribethlem » Mer 06 Awst 2008 11:31 am

eusebio a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Ia, wir ... ac o'm profiad i, 'dwi wedi cymysgu 'da pobl o nifer fawr iawn* o wledydd cyn ac ar ôl gemau wrth wylio pêl-droed ... nid rygbi ydi'r unig gamp sydd ag awyrgylch gwych yn ystod gemau mawr siwr iawn ...
Nes i byth honni hynny :? Y cyfan wedes i yw ei fod yn bosib i eistedded gyda'r gwrthwynebwyr yn ystod y gem yn ogystal a chymysgu cyn ac ar ol hynny. Dwi byth wedi cymharu hi gydag unrhyw gamp arall.

Wel mewn edefyn sy'n honni mai rygbi di'r gêm gorau yn y byd ar sail Haka NZ roeddwn i'n gwneud y pwynt fod awyrgylch dda i'w gael ym mhob camp.
Dwi ddim cweit yn deall sut fod eistedd efo cefnogwyr y gwrthwynebwyr yn gwneud camp/awyrgylch yn well :?

Fi'n joio ishte/sefyll gyda cefnogwyr y gwrthwynebwyr a cael bach o banter a trafod y gem gyda nhw. Mae'r rhoi perspectif ychydig yn wahanol i fi ar y gem. Mae'n nhw'n gwybod cryfderau eu chwareuwyr nhw yn well ayyb.

eusebio a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Eusebio a ddywedodd:* h.y. mwy na Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Awstralia, Seland Newydd a De Africa
Siapan, Sbaen, Portiwgal, Ariannin, yr Eidal, Canada, UDA, Jorja i feddwl am rai off top mhen. Fi ddim cweit yn deall y pwynt.

Dim ond dig bach gen i ... ;)
Ah, digon teg :winc:

Ger27 a ddywedodd:Mae rhai'n yn swnio fel gwell trips i mi. Yn anffodus dwi'm yn nabod yr un cefnogwr rygbi sydd wedi "mentro" i unrhyw un o'r gwledydd uchod.
Fi heb bod yn eiu gwledydd nhw, ond fi wedi bod mewn gemau lle mae eu cefnogwyr nhw wedi bod. Nabod lot o bobl sydd wedi bod i'r Ariannin a'r Eidal (cymaint ag i un o'r gwledydd mawr soniodd eusebio amdanynt), a chryn dipyn sydd wedi bod i UDA, Canada, Sbaen, Phortiwgal a Rwmania.

[uote="Ger27"]Fy marn i...
Dwi'n meddwl fod na fwy i ddilyn chwaraeon rhyngwladol na cymsgu gyda crachach Munster neu toffs Richmond yn Llundain. Y gwahaniaeth mwyaf rhwng cefnogwyr yr Home Nations ydi lliw y crysau. Rho Wyddel mewn crys gwyn a rho acen Seisnig iddo a mae gen ti dy 'Twickenham T*at'. Adar o'r unlliw hedant i'r unlle.[/quote] Gorddweud. Mae 'na nifer o West Brits i gael yn Iwerddon, ond dyw e' ddim yn deg i ddweud fod pob un ohonynt yn Saeson mewn gwyrdd. Sdim hyd yn oed pob un o gefnogwyr Lloegr yn stereoteip o gefnogwyr Lloegr.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan garynysmon » Mer 06 Awst 2008 5:03 pm

I fi, dydi mynd i'r run hen ddinasoedd bob dwy flynedd a meddwl en bod ni am 'faeddu'r Albanwyr' neu 'chwalu'r Eidalwyr' pan mae nhw'n chwaraeon lleiafrifol yn y gwledydd hynny, ddim yn gwneud tripiau difyr. Mae'r cefnogwyr ar y cyfan yn 'uniform' ofnadwy, a dwi dal yn grediniol fod canran mawr o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm yno bob gem er mwyn byw i fynnu i rhyw 'Gymreicdod' sydd wedi'i greu gan y Cyfryngau fwy na dim.

Mae 'na gymaint gellid ei ddweud yma, ond dwi am beidio mynd am yr hen ddadl Pel Droed v Rygbi yna, felly gadael hi'n y fanno fyddai orau.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan ceribethlem » Mer 06 Awst 2008 6:01 pm

garynysmon a ddywedodd:I fi, dydi mynd i'r run hen ddinasoedd bob dwy flynedd a meddwl en bod ni am 'faeddu'r Albanwyr' neu 'chwalu'r Eidalwyr' pan mae nhw'n chwaraeon lleiafrifol yn y gwledydd hynny, ddim yn gwneud tripiau difyr.
Y cwmni sy'n gwneud y trip i fi. Mae mynd gyda grwp o ffrindiau da sy'n cwrdd lan bob blwyddyn yn rhywbeth gwerth edrych mlaen amdano. Mae e'n wylie bach yn ogystal a mynd i weld y gem.

garynysmon a ddywedodd:Mae'r cefnogwyr ar y cyfan yn 'uniform' ofnadwy,
lot ohonyn nhw, gormod hyd yn oed, ond nid pob un. Mae'n wir am y mwyafrif o bethau yn fy marn i. Mae steroteips yn bodoli, ac wedi tyfu'n amal mas o rhywfaint o wir.

garynysmon a ddywedodd:a dwi dal yn grediniol fod canran mawr o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm yno bob gem er mwyn byw i fynnu i rhyw 'Gymreicdod' sydd wedi'i greu gan y Cyfryngau fwy na dim.
Ddim yn siwr os mae rhyw 'Gymreictod' sy'n eu denu yn hytrach na syniad o achlysur. Yn anffodus mae yna garfan llawer rhy sylweddol o bobl yn mynd gyda'r blydi cyrn aer gyda'i hetiau cowboi shit gan ddeall ffec oll am y gem, dim ond chwibannu ar coesau Mike Phillips a sgrechen pob tro caiff Shane Williams y bel. Bydden i'n cytuno mai bai'r Western Mail yw hyn (ddim yn credu fod y Cyfryngau eraill mor euog).

garynysmon a ddywedodd:Mae 'na gymaint gellid ei ddweud yma, ond dwi am beidio mynd am yr hen ddadl Pel Droed v Rygbi yna, felly gadael hi'n y fanno fyddai orau.
Gwboi. Fi'n trial peidio a chymharu campau hefyd :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Heb os.....Rygbi.....y gem gorau yn y byd!

Postiogan garynysmon » Mer 06 Awst 2008 7:47 pm

ceribethlem a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:a dwi dal yn grediniol fod canran mawr o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm yno bob gem er mwyn byw i fynnu i rhyw 'Gymreicdod' sydd wedi'i greu gan y Cyfryngau fwy na dim.
Ddim yn siwr os mae rhyw 'Gymreictod' sy'n eu denu yn hytrach na syniad o achlysur. Yn anffodus mae yna garfan llawer rhy sylweddol o bobl yn mynd gyda'r blydi cyrn aer gyda'i hetiau cowboi shit gan ddeall ffec oll am y gem, dim ond chwibannu ar coesau Mike Phillips a sgrechen pob tro caiff Shane Williams y bel. Bydden i'n cytuno mai bai'r Western Mail yw hyn (ddim yn credu fod y Cyfryngau eraill mor euog).

Mae'r blydi cyrn na'n gymaint o boen mewn gemau Rygbi ac ydyn nhw mewn gemau Peldroed felly dwi'n gweld
:drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai