Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan sian » Maw 12 Awst 2008 7:57 pm

Aha!

Yn y blynddoedd cynnar, dathlwyd Dydd Calan trwy chwarae gêm o’r enw Cnapan – pêl droed – a defnyddiwyd porth yr eglwysi yn Llanwennog a Llandysul fel pyst gôl. Roedd y gêm wedi goroesi ar ôl hen ryfel, ac erbyn dechrau’r 19 ganrif roedd un person wed cael ei ladd a nifer wedi’u hanafu wrth chwarae’r gêm. Pan newidiwyd dyddiad y Flwyddyn Newydd ym 1752 yn sgil y calendr Gregoraidd newydd, penderfynodd pobl yr ardal barhau i chwarae’r gêm bêl droed ar ddyddiad yr Hen Galan, sef 12 Ionawr.

Nid oedd pobl yn poeni’n ormodol am y farwolaeth, yr anafiadau a natur afreolus y gêm. Erbyn 1833, penderfynodd ficer Llandysul nad oedd chwarae’r gêm rhwng dwy eglwys yn addas. Penderfynodd sefydlu cystadleuaeth ysgrythur rhwng y plwyfi lleol, lle’r oedd timau yn cynrychioli bob plwyf yn yr ardal ac yn cystadlu trwy adrodd rhannau o’r ysgrythur ar eu cof. Mae’r gystadleuaeth hon yn para tan heddiw ar 12 Ionawr ac yn unigryw yng Nghymru.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan Rhys » Maw 12 Awst 2008 8:11 pm

Mae cyfaill i mi yn trio ail-gyflwyno ymgodwm Celtaidd i Gymru (ymgodwm yw rhyw fath o wrestlo dw i'n meddwl). Mae'n teuru i mi ei fod yn boblogaidd (ish) yn Llydaw a Chernyw, ond dw i'n amau mai ymgais i gael fi mewn leatard ydi o.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan tafod_bach » Iau 02 Hyd 2008 1:32 pm

*tynnu'n socs sprotian lan*

cnapan: mae'r gem o'r gorllewin, ond mae'r traddodiad lawer hy^n na 1800. ysgrifennwyd y rheolau cnapan cynhara ym 1603. (o'dd probably ond dwy dudalen, "1. dim lladd. 2. dim dala dig"). yn hytrach na defnyddio pledren mochyn, byddai'r bel dipyn yn debycach i bel griced heb y lledr. byddai wedi'i gwneud o bren caled e.e. ash (ysgawen? nage. hm.), wedi'i ferwi mewn saim. os chi'n meddwl am y peth, odd pledren yn cael ei defnyddio i gemau llai ryff (pel droed) achos unwaith oedd y bel yn popio, byddai'n rhaid aros i'r mochyn nesa besgi, wedyn lladd a bwyta'r mochyn cyn gele chi bledren newydd i neud pel â hi. boring. felly, fel rheol, pel bren solet i gemau caled.
ymladd ceiliogod
bando (bach fel hurling, "20 to 30 a side", yn para hyd at 4 awr)
ymaflyd codwm
saethyddiaeth (y bwa hir yn bishyn o gyfarpar cymreig ers 1*somethingty-something).

un o fy hoff chwaraeon cymreig- weles ar boster yn hysbysebu 'mabogampau' yn ardal gorseinon yn y 1800au cynnar:
"cystadleuaeth ysgyrnygu ar gyfer hen ferchaid" y wobr? "un drych llaw i'r ennillwraig" :lol: . mae'r un poster hefyd yn hysbysebu twrnaiment pel droed, â photel o gin yn wobr i'r 12 chwaraewr buddugol...

un traddodiad sprotyd-ish arall fyddai'r briodas geffyl. yn gyffredin yng ngheredigion tan y 19G. byddai "tim" y briodferch yn ceisio stopio "tim" y priodfab rhag cyrraedd ty'r briodferch, yn gosod rhwystrau mawr ar hyd y lonydd gwledig. byddai teclyn (sai'n cofio'r enw) wrth ddrws y ty, fel propellor, oedd yn swingio i hitio pennau tim y dynion efo bag mawr o dywod, a'u taro oddi ar eu ceffylau. bwriad tim y dynion oedd 'herwgipio' y briodferch. byddent yn ei chymryd, ac wedyn yn dechrau ras garlam ar draws y caeau - y parti priodas i gyd ar gefn ceffylau erbyn hyn - i gyrraedd yr eglwys cyn y priodfab/ferch. yn amlwg, os o ti'n methu fforddio ceffyl, priodas dra'd gele ti.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 02 Hyd 2008 6:28 pm

Falle ei fod yn hen bryd i ti fynd ar gwrs ym Mhrifysgol Morgannwg Owain? ;-)

Chwaraeon yng Nghymru

Aims of the module

1. To survey the history of Welsh sport with particular attention paid to the last century.
2. To investigate and evaluate the current state and situation of sport in Wales.
3. To discuss the future development which Welsh sport may undertake.

Synopsis of module content

The module will be broken down into the following five 4-credit units:

1. The historical origin of sport in Wales and the traditional Welsh sports of cnapan, bando and football
2. The arrival of organised sport during industrialisation
3. The role played by sport in Welsh society
4. Nationalism in sport
5. The three major sports of rugby, soccer and cricket, together with an overview of minor sports in their cultural and geographical context


Bach o wybodaeth am Chwaraeon traddodiadol yng Nghymru yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 02 Hyd 2008 6:34 pm

www.llafur.org a ddywedodd:Sport, Gender and Society in Wales
Stadiwm SWALEC, Caerdydd, Sadwrn 1 Tachwedd 2008

Bydd CCB Llafur yn cael i'w chynnal ar Ddydd Sadwrn 1 Tachwedd fel ran o ysgol unddydd ar Hanes Chwaraeon Cymru. Bydd yr ysgol unddydd yn cael i'w chynnal yn Stadiwm SWALEC, Gerddi Sophia, Caerdydd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Martin Johnes, Laura McAllister, Andrew Hignell, Daniel Williams a Carolyn Hitt.

Mae'r digwyddiad am ddim.

Cysylltwch a Sian Williams s.f.williams@swansea.ac.uk i cadw eich lle.


Hwn falle hefyd o ddiddordeb:
Pocket Guide Series: Sport in Wales since 1800
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan Mici » Gwe 03 Hyd 2008 9:25 pm

Diddorol iawn, cnapan yn swnio fatha uffar o sbort. Mae'n rhyfedd ond efallai os fysa Cymru di aros yn annibynnol ersdalwm efallai y fuasai cnapan wedi gwasgaru a bod mor boblogaidd ar 'gaa' yn iwerddon.

Be di enw Cymraeg ar gyfer 'hurling' gyda llaw cofio weld o ar rhaglen bbc 'coast' ersdalwm. Shinty ydi'r enw gem yn yr Alban. Unrhyw un yn gwybod yr enw Cymraeg, ai bando ydi o?
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan Nanog » Sad 04 Hyd 2008 2:16 pm

Owain a ddywedodd:
joni a ddywedodd:Cnapan? Sai'n cofio'r rheolau (os o'dd na rhai) ond odd e'n itha "physical" os wi'n cofio'n iawn.


Dwi newydd feddwl ella ma Cnapan odd y gem rhedeg ar ol pel ma...doeddan nhw'm yn arfer cael cystadleuaeth yng ngwyl y Cnapan 'slawer dydd (gan ym mod i'n rhy ifanc i gofio'r Cnapan yn ei anterth wrth gwrs :winc: )


Dwi'n cofio chwarae 'gem' Cnapan yn yr wyl. Roedd cwpwl o enwau adnabyddus ar y pryd yn chawarae......Kevin Phillips a'r diweddar Carwyn Davies os dwi'n cofio'n iawn. Daeth y gem i ben pan gafodd rhwyun gnoc ar ei ben ac angen Ambiwlans i'w gludo i Glangwili. Roedd y claf yn ol ac yn iach ac wrth y bar ymhen rhai oriau. 8)
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan Lorn » Llun 06 Hyd 2008 11:32 am

Mici a ddywedodd:Diddorol iawn, cnapan yn swnio fatha uffar o sbort. Mae'n rhyfedd ond efallai os fysa Cymru di aros yn annibynnol ersdalwm efallai y fuasai cnapan wedi gwasgaru a bod mor boblogaidd ar 'gaa' yn iwerddon.

Be di enw Cymraeg ar gyfer 'hurling' gyda llaw cofio weld o ar rhaglen bbc 'coast' ersdalwm. Shinty ydi'r enw gem yn yr Alban. Unrhyw un yn gwybod yr enw Cymraeg, ai bando ydi o?


Dim yn gwbod os taw bando yw'r enw Cymraeg amdano, ond o ran gweddill dy sylwadau mae gen ti bwyntiau difyr. Mae Shinty yn hynod boblogaidd mewn rhannau o'r Alban rwan gyda gem yn yr Ucheldiroedd Gorllewinol yn cael ei ddarlledu ar y teledu yn flynyddol.

Mae'r GAA yn amlwg yn huge yn Iwerddon gyda'r ddau stadiwm fwyaf ar yr ynys yn perthyn i'r GAA - Croke Park yn Nulyn a Casement Park ym Melffast. Dwi'n yn meddwl taw oherwydd nad oeddym yn annibynol farwodd chwaraeon cynhenid Cymru fel y cyfryw, ond oheewydd gwendid hanesyddol mudiadau cenedlaetholgar/gwladgarol Cymreig. Mae'r GAA yn elfen bwysig o hunaniaeth Gwyddelig hyd heddiw a wedi bod tra roeddynt yn ran o Brydain ond o be dwi'n weld dydy'r un ddim yn wir am Shinty yn yr Alban. Petai chwaraeon yng Nghymru wedi eu cysylltu a hunainiaeith a diwylliant Cymreig ochr yn ochr a'r iaith yna Duw a wyr be fyddai ei thynged wedi bod mewn rhannau o'r wlad, mae'r iaith Gymraeg wedi'r cwbwl yn gryfach nag unrhyw iaith Geltaidd arall yn anffodus.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan Mici » Maw 07 Hyd 2008 2:38 pm

Ai cytuno yn llawn Lorn, mae'r GAA mwy fel crefydd na rhan o'r hunaniaeth yn Iwerddon ma. Does dim ond angen edrych yn ol gyda'r stwr o adael gemau diarth(sef pel-droed a rygbi) yn Croke Park tra roedd Landsowne Road yn cael ei adnewyddu. Mae ffydlondeb chwaraewyr a cefnogwyr 'gaa' yn y clybiau ar siroedd yn wefreiddiol dwi nabod ambell un a mae nhw yn ymarfer 3-4 gwaith yr wythnos gyda'r nos, chwarae un neu ddau gem ar y penwythnos heb ddim tal o gwbwl, mae'r cefnogwyr dryw yn talu 15-20 ewro y gem i fynd i weld nhw ac os ydi'r tim yn llwyddo cyraedd y rowndiau terfynol does ganddyn nhw ddim siawns o gael ticedi oherwydd fod y ticedi y ffeinal yn nwylo bwrdd y sir a rhaid cael cysylltiad go agos i gael ticad a mae'r gweddill yn mynd i seddi 'corporate'. Ond eto mae'r parciau yn llawn efo pobol o bob oedran allan efo ei 'hurleys' .

I fynd nol at y pwnc don i ddim yn ymwybodol fod twf di bod mewn shinty yn yr Alban a mae hynna reit ddiddorol. Mae yna hoel traethawd yn fama latsh, bechod nad oedd na fodiwl cyffelyb yn Aberystwyth ersdalwm ar y gradd hanes Cymru yn lle concwest, uno a hunanieth yn y canol oesoedd neu be bynnag :(
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Re: Gemau / Chwaraeon Traddodiadol Cymreig

Postiogan Lorn » Maw 07 Hyd 2008 2:53 pm

Dwi'm yn gwbod os oes cynydd di bod ym mhoblogrwydd Shinty yn yr Alban ond ers i fi deithio i Oban dwi di gweld bod cefnogaeth gref i'r gamp yno ac yn yr ardal o gwmpas. Mae'n gem sy'n agos at galon pobl yr Ucheldir yn sicr mewn modd tebyg (ond dim gymaint) a'r GAA yn Iwerddon.

Credu taw'r agosach at chawaraeon traddodiadol Cymreig oedd gennym ni'n ysgol oedd mynd i Beetle Drives i godi arian i'r Steddfod yn 1992.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 43 gwestai