Cymru v Jorja

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 19 Awst 2008 6:53 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Rhywun yn gwybod unrhyw beth am Gol-geidwad Chelsea?


Newydd ddarganfod hwn ar Youtube. Cwpwl o arbediadau da iawn!



Dim ond 18 oed yw e!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Jorja

Postiogan aronj89 » Iau 21 Awst 2008 8:16 am

:wps:


Mae Tosh yn cwyno am ei amddiffynnwyr. Gobeithio edrychith o ar fideo o berfformiad Rhoys Wiggins. Atgoffa fi o Ferdinand neu Carvalho y ffordd oedd o'n rhedeg o'r amddiffyn a rhyddhau'r bel i ganol y cae. Waeth i Tosh roi cyfle iddy fo, mae'r gweddill yn s**t
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Gwyn T Paith » Iau 21 Awst 2008 3:21 pm

"Cefnogwyr" pel-droed Abertawe yn gadael Cymru i lawr unwaith eto neithiwr. Torf o 6, 435?!!? Gwarthus. Pawb adra yn gwylio'r Saeson ma siwr gen i.

Dwi'n gobeithio mai'r dyma'r tro diweddaf wneith Gymdeithas Bel-droed Cymru mynd a gem i'r Liberty.
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru v Jorja

Postiogan aronj89 » Iau 21 Awst 2008 8:55 pm

Gwyn T Paith a ddywedodd:"Cefnogwyr" pel-droed Abertawe yn gadael Cymru i lawr unwaith eto neithiwr. Torf o 6, 435?!!? Gwarthus. Pawb adra yn gwylio'r Saeson ma siwr gen i.

Dwi'n gobeithio mai'r dyma'r tro diweddaf wneith Gymdeithas Bel-droed Cymru mynd a gem i'r Liberty.



Lle tisho hi, Ninian Park??? Neu yn Millenium stadium pan fydd 5%o'r stadiwm yn llawn... Bollucks. Cefnogwyr abertawe o ddiawl, just achos bod hi'n y Liberty dio'm yn golygu mai cefnogwyr Abertawe yn unig sydd i fynd yno y lob. Oni'n gwylio Cymru dan 21 yn y cae ras... och a gwae dwi wedi pechu Abertawe!!! Rydw i rwan yn gefnogwr Wrexham. Lemon :rolio:
Harsh iawn wn i, ond sori ti'n malu cachu llwyr yn fana :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Gwyn T Paith » Iau 21 Awst 2008 9:48 pm

A be yn union sy'n bod efo chwarae ar Barc Ninian? Siawns fasa mwy na 6,000 di troi fyny a wedi creu dipyn gwell awyrgylch. Mi gafodd cyhoedd Abertawe a'r cylch gyfle i ddangos eu cefnogaeth i'r tim cenedlaethol neithiwr - siomedig iawn oedd yr ymateb. A dyna'n union ddigwyddodd yn 2005 pan chwaraeodd Cymru yno am y tro cyntaf ers 17 mlynedd. Rhyw 10,000 nath dori fyny i'r gem yna - er bod hogyn lleol wedi ei ddewis yn gapten ar ei wlad am y tro cyntaf!

Sut bo gen ti'r wyneb i ddadla efo'r ffeithia yma, dwn i ddim. Tria dynnu'r blincars gwyn na ffwrdd.
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru v Jorja

Postiogan aronj89 » Iau 21 Awst 2008 10:01 pm

Gwyn T Paith a ddywedodd:Sut bo gen ti'r wyneb i ddadla efo'r ffeithia yma, dwn i ddim. Tria dynnu'r blincars gwyn na ffwrdd.


Achos ti'n geirio fo fel mai dim ond cefnogwyr Abertawe sy'n cael mynd i'r Liberty er mai Cymru NID Abertawe sy'n chwarae. Mae'n chwerthynllud!
Dio'm yn ffaith mai cyfle i bobl ardal Abertawe ydi chwarae yn y Liberty i weld y tim cenedlaethol. Cyflau i'r genedl gael mynd i stadiwm fwy cartrefol er mwyn cael awyrgylch gwell ydio. Llai o gostau ac ati mewn stadiwm fach hefyd. Synnwr cyffredin ydi hynny. Mae Ninian Park yn shit... a dyne'r cwbl ddudai am fano. Edrych mlaen i weld stadiwm newydd Caerdydd a dwi ddim yn amau fydd gemau yn cael ei chwarae yn fano... ond Ninian Park... da wan :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 21 Awst 2008 10:41 pm

Gwyn T Paith a ddywedodd:A be yn union sy'n bod efo chwarae ar Barc Ninian? Siawns fasa mwy na 6,000 di troi fyny a wedi creu dipyn gwell awyrgylch. Mi gafodd cyhoedd Abertawe a'r cylch gyfle i ddangos eu cefnogaeth i'r tim cenedlaethol neithiwr - siomedig iawn oedd yr ymateb. A dyna'n union ddigwyddodd yn 2005 pan chwaraeodd Cymru yno am y tro cyntaf ers 17 mlynedd. Rhyw 10,000 nath dori fyny i'r gem yna - er bod hogyn lleol wedi ei ddewis yn gapten ar ei wlad am y tro cyntaf!

Sut bo gen ti'r wyneb i ddadla efo'r ffeithia yma, dwn i ddim. Tria dynnu'r blincars gwyn na ffwrdd.


Byddai lot gwell siawns gyda ni gyrraedd Cwpan y Byd petai ni'n rhan o dîm GB. Byddai 1 neu ddau Cymro (efallai) yn cael y cyfle i chwarae ar y lefel uchaf wedyn Gwyn. Pam wyt ti'n gefnogol i Gymru mewn pêldroed, ond yn gwrthwynebu mor chwyrn y syniad o gael Cymru fel tîm yn y gemau Olympaidd? Dim ond gofyn... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Jorja

Postiogan aronj89 » Iau 21 Awst 2008 10:48 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Byddai 1 neu ddau Cymro (efallai) yn cael y cyfle i chwarae ar y lefel uchaf

Cytuno dwi meddwl, ond ar ran diddordeb pa un wyt ti'n feddwl?

Roi fy un i mewn gwyn yma i ti gael uwcholeuo i'w weld wedyn :winc:

Koumas

Swni wedi licio gweld y syniad yn codi pan oedd Giggs yn dal i chwarae er hynny, oleiaf fydde ni'n sicr o fod wedi cael un yn y tim. Dwi'm yn dweud fy mod yn gefnogl er hynny.

O.N sgen unryw un syniad o dorf gem dan 21 neithiwr? Nesi fethu'r cyhoeddiad a ellai'm ei ffindio yn unman. Just i weld oedd y ffigwr wnes i ei ddyfalu yn agos ati :D
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Dias » Gwe 22 Awst 2008 9:12 am

Tua 3,500 oedd yn y Cae Ras nos fercher ar gyfer y gem dan 21.
C'est la vie, c'est la guerre, c'est la pomme de terre
Rhithffurf defnyddiwr
Dias
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 705
Ymunwyd: Sad 14 Chw 2004 5:32 pm

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Gwyn T Paith » Gwe 22 Awst 2008 9:45 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Gwyn T Paith a ddywedodd:A be yn union sy'n bod efo chwarae ar Barc Ninian? Siawns fasa mwy na 6,000 di troi fyny a wedi creu dipyn gwell awyrgylch. Mi gafodd cyhoedd Abertawe a'r cylch gyfle i ddangos eu cefnogaeth i'r tim cenedlaethol neithiwr - siomedig iawn oedd yr ymateb. A dyna'n union ddigwyddodd yn 2005 pan chwaraeodd Cymru yno am y tro cyntaf ers 17 mlynedd. Rhyw 10,000 nath dori fyny i'r gem yna - er bod hogyn lleol wedi ei ddewis yn gapten ar ei wlad am y tro cyntaf!

Sut bo gen ti'r wyneb i ddadla efo'r ffeithia yma, dwn i ddim. Tria dynnu'r blincars gwyn na ffwrdd.


Byddai lot gwell siawns gyda ni gyrraedd Cwpan y Byd petai ni'n rhan o dîm GB. Byddai 1 neu ddau Cymro (efallai) yn cael y cyfle i chwarae ar y lefel uchaf wedyn Gwyn. Pam wyt ti'n gefnogol i Gymru mewn pêldroed, ond yn gwrthwynebu mor chwyrn y syniad o gael Cymru fel tîm yn y gemau Olympaidd? Dim ond gofyn... :winc:


O diar mi Hedd, ti yn hogyn bach pathetig yndwyt. Os nei di ddarllen yr hyn dwi wedi ddeud ar y pwnc o dim Olympiadd i Gymru, ella nei di weld mai'r hyn dwi wedi ei ddweud ydi mai prin iawn fyddai unrhyw lwyddiant i'r Cymry heb gefnogaeth gweddill Prydain yn y Gemau nesaf. Mae'n ddigon hawdd i chdi fynd ar ben dy geffyl a mynnu tim i Gymru, ond dwi'n meddwl fasa'r rhan fwyaf o'r athletwyr sy'n aberthu gymaint i geisio ennill medal yn anhapus iawn tasa'r gefnogaeth, cyfleusterau a'r arbenigedd maen nhw'n eu cael fel rhan o dim Prydain yn sydyn ddim ar gael.
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai