Hedd Gwynfor a ddywedodd:Diddorol iawn fod Tudur-Jones a Allen yn cael lle yn y garfan o ystyried nad yw un o'r ddau yn gallu gwneud carfan Abertawe hyd yn oed!
Allen i fod gyda'r garfan dan 21 ond wedi cael ei wahardd felly dyna pam ei fod o yn y sgwad llawn. Ar ran Tuds, Martinez yn ceisio rhoi cic yn ei din odd penwythnos diwethaf. Dim posib cwyno ar ol 3-1. Se well genai ei weld yn dechrau na Robinson fel dwi wedi dweud droeon.
Dwi'n ofn hyd yn oed dweud Paul Parry (wps
) oherwydd bob tro dwi'n dweud mod i'n edrych ymlaen i'w weld mae'n tynnu allan munud olaf.
Gem dan 21 fydd hi i mi nos fory, gan ei fod yn nes, yn golygu rhywbeth ac yn cynnwys llawer o'r enwau mawr. Hen bryd cael gweld Bale eto.