Cymru v Jorja

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Gwyn T Paith » Gwe 22 Awst 2008 9:48 am

aronj89 a ddywedodd:
Gwyn T Paith a ddywedodd:Sut bo gen ti'r wyneb i ddadla efo'r ffeithia yma, dwn i ddim. Tria dynnu'r blincars gwyn na ffwrdd.


Achos ti'n geirio fo fel mai dim ond cefnogwyr Abertawe sy'n cael mynd i'r Liberty er mai Cymru NID Abertawe sy'n chwarae. Mae'n chwerthynllud!
Dio'm yn ffaith mai cyfle i bobl ardal Abertawe ydi chwarae yn y Liberty i weld y tim cenedlaethol. Cyflau i'r genedl gael mynd i stadiwm fwy cartrefol er mwyn cael awyrgylch gwell ydio. Llai o gostau ac ati mewn stadiwm fach hefyd. Synnwr cyffredin ydi hynny. Mae Ninian Park yn shit... a dyne'r cwbl ddudai am fano. Edrych mlaen i weld stadiwm newydd Caerdydd a dwi ddim yn amau fydd gemau yn cael ei chwarae yn fano... ond Ninian Park... da wan :lol:


Arglwydd mawr am lwyth o gachu :ofn:
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Cynyr » Gwe 22 Awst 2008 9:56 am

Gwyn T Paith a ddywedodd:"Cefnogwyr" pel-droed Abertawe yn gadael Cymru i lawr unwaith eto neithiwr. Torf o 6, 435?!!? Gwarthus. Pawb adra yn gwylio'r Saeson ma siwr gen i.

Dwi'n gobeithio mai'r dyma'r tro diweddaf wneith Gymdeithas Bel-droed Cymru mynd a gem i'r Liberty.




Be, a dim ond cefnogwyr o Gaerdydd sy'n gwylio gemau Cymru yn stadiwm y mileniwm??? crap hollol.
Mae'n siwr fydde Ninian Park di bod yn orlawn!!!! :rolio:

Dydy chwarae timau fel Georgia, Slofenia a Bwlgaria yn y Liberty yn mis Awst ddim cweit yn mynd i ddenu'r miloedd nac ydyn? C'mon!
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Gwyn T Paith » Gwe 22 Awst 2008 10:08 am

Cynyr a ddywedodd:
Gwyn T Paith a ddywedodd:"Cefnogwyr" pel-droed Abertawe yn gadael Cymru i lawr unwaith eto neithiwr. Torf o 6, 435?!!? Gwarthus. Pawb adra yn gwylio'r Saeson ma siwr gen i.

Dwi'n gobeithio mai'r dyma'r tro diweddaf wneith Gymdeithas Bel-droed Cymru mynd a gem i'r Liberty.




Be, a dim ond cefnogwyr o Gaerdydd sy'n gwylio gemau Cymru yn stadiwm y mileniwm??? crap hollol.
Mae'n siwr fydde Ninian Park di bod yn orlawn!!!! :rolio:

Dydy chwarae timau fel Georgia, Slofenia a Bwlgaria yn y Liberty yn mis Awst ddim cweit yn mynd i ddenu'r miloedd nac ydyn? C'mon!


Mi fasa mwy na 6,000 di tori fyny, mae hynny'n saff i ti. Ond does dim rhaid poeni am hyn ddim rhagor, dwi'n dallt bod yr FAW yn anhapus iawn gyda maint y dorf nos Fercher. Dyna oedd eich cyfle olaf chi i gael gweld Cymru yn chwarae yn Liberty ma gen i ofn. Waeth i chi heb a cwyno mewn chydig o flynyddoedd bod rhaid i chi deithio i Gaerdydd ar gyfer bob gem. Da chi di cael eich cyfle ac wedi ei wastraffu. Mae'n amlwg rwan tydi ma'r Gogledd a De Ddwyrain Cymru ydi'r cadarnleuoedd o ran cefnogi ein tim cenelaethol!
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 22 Awst 2008 10:58 am

Dwi'n hogyn bach pathetig ac mae Aron yn siarad llwth o gachu. Da iawn Gwyn, dadleuon cryf iawn gyda ti fanna! :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 22 Awst 2008 11:22 am

Gwyn T Paith a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Os nei di ddarllen yr hyn dwi wedi ddeud ar y pwnc o dim Olympiadd i Gymru, ella nei di weld mai'r hyn dwi wedi ei ddweud ydi mai prin iawn fyddai unrhyw lwyddiant i'r Cymry heb gefnogaeth gweddill Prydain yn y Gemau nesaf. Mae'n ddigon hawdd i chdi fynd ar ben dy geffyl a mynnu tim i Gymru, ond dwi'n meddwl fasa'r rhan fwyaf o'r athletwyr sy'n aberthu gymaint i geisio ennill medal yn anhapus iawn tasa'r gefnogaeth, cyfleusterau a'r arbenigedd maen nhw'n eu cael fel rhan o dim Prydain yn sydyn ddim ar gael.


Gwyn, prin iawn yw'r llwyddiant wedi bod i dîm peldroed Cymru dros y blynyddoedd, h.y. dim llwyddiant o gwbwl! Heb gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth ers 1958. Mae'n ddigon hawdd i ti fynd ar ben dy geffyl a mynnu cadw tim Peldroed Cymru, ond beth am Giggs, Rush, Hughes ayb ayb. Byth wedi cael y cyfle i chwarae ar y lefel uchaf. Yw hyn yn deg?

Mae fy nadl i yn hollol gyson Gwyn, Tim Peldroed i Gymru, Tim Olympaidd i Gymru, Tim Rygbi i Gymru, Tim Criced i Gymru ayb, beth am dy un di?

ON. Ymddiheuriadau am fynd oddi ar bwynt yr edefyn...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru v Jorja

Postiogan finch* » Gwe 22 Awst 2008 11:57 am

ceribethlem a ddywedodd:Yn sgil y trafferthion (oes gair gwell gwedwch?) yn Jorja,


Cythrwfwl?

sori am fynd off y pwynt ond nawr feddylies i am y peth.[/sidetracko]
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Gwyn T Paith » Gwe 22 Awst 2008 12:01 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd: Mae'n ddigon hawdd i ti fynd ar ben dy geffyl a mynnu cadw tim Peldroed Cymru, ond beth am Giggs, Rush, Hughes ayb ayb. Byth wedi cael y cyfle i chwarae ar y lefel uchaf. Yw hyn yn deg?

Mae fy nadl i yn hollol gyson Gwyn, Tim Peldroed i Gymru, Tim Olympaidd i Gymru, Tim Rygbi i Gymru, Tim Criced i Gymru ayb, beth am dy un di?

ON. Ymddiheuriadau am fynd oddi ar bwynt yr edefyn...


Lle nes i "fynnu" hynny rwan Miss Marple?
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cymru v Jorja

Postiogan aronj89 » Gwe 22 Awst 2008 12:14 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi'n hogyn bach pathetig ac mae Aron yn siarad llwth o gachu. Da iawn Gwyn, dadleuon cryf iawn gyda ti fanna! :rolio:


Da rwan, nath hyn fi i chwerthin. Swni'n dweud fod ein dadl ni'n reit saff gyda ymateb fel yma felly ddywedai ddim mwy. Falch gweld fod eraill yn cytuno a mi er hynny a fod Gwyn ar ben ei hun gyda'i farn chwerthynllyd. Cyfeirio'r holl beth at gefnogwyr Abertawe, nice dig...
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 22 Awst 2008 12:18 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:ON. Ymddiheuriadau am fynd oddi ar bwynt yr edefyn...


Ymddiheuriadau wir! Fel Gweinyddwr y wefan ddylet ti fod yn dangos esiampl. Be am gadw'r ddadl am dim Olympaidd i'r edefyn hwnnw ia?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Cymru v Jorja

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 22 Awst 2008 12:34 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:ON. Ymddiheuriadau am fynd oddi ar bwynt yr edefyn...


Ymddiheuriadau wir! Fel Gweinyddwr y wefan ddylet ti fod yn dangos esiampl. Be am gadw'r ddadl am dim Olympaidd i'r edefyn hwnnw ia?


Ond mae'n anodd weithiau... :winc:

Ar bwynt cefnogwyr Abertawe, cytuno gyda Aron. Gem genedlaethol oedd hwn, ac nid oes pwynt beio pobl Abertawe am y nifer siomedig iawn o gefnogwyr. Mae'r bai ar holl gefnogwyr Cymru, gan gynnwys fi sy'n byw dim ond 20 munud o'r maes, ond wnes i ddim teithio draw! :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 13 gwestai

cron