Gwyn T Paith a ddywedodd:Mi fasa mwy na 6,000 di tori fyny, mae hynny'n saff i ti. Ond does dim rhaid poeni am hyn ddim rhagor, dwi'n dallt bod yr FAW yn anhapus iawn gyda maint y dorf nos Fercher. Dyna oedd eich cyfle olaf chi i gael gweld Cymru yn chwarae yn Liberty ma gen i ofn. Waeth i chi heb a cwyno mewn chydig o flynyddoedd bod rhaid i chi deithio i Gaerdydd ar gyfer bob gem. Da chi di cael eich cyfle ac wedi ei wastraffu. Mae'n amlwg rwan tydi ma'r Gogledd a De Ddwyrain Cymru ydi'r cadarnleuoedd o ran cefnogi ein tim cenelaethol!
Dwi'm yn cwyno o gwbwl!! Liberty, Wrecsam, Ninan ble bynnag!!
Os di hyn yn wir am y FAW yna mae'n hollol pathetic!
Mae jest yn blydi amlwg yndiwe? Mae'r gemau yn y Mileniwm (cwalifiers) yn dibynnu yffach o lot ar dripiau ysgolion, clybiau ieuenctid, clybiau'r Urdd a.y.b. i werthu tocynnau ag i lenwi'r lle
(fel wyddwn ni gyd gyda swn uffernol y cyrn). Ond ma nhw'n mynd i golli hyn yn mis Awst yng nghanol gwyliau. Mae amseru a dewis o wrthwynebwyr yn wan uffernol!
A beth yw'r dig yma am y Gorllewin a'r Canolbarth ddim yn 'gadarnle'??? ti di bod ar y ffordd o Gaerfyrddin i Gaerdydd ar ddiwrnod/noson gem rhyngwladol? na yn amlwg nad wyt ti ddim di wedi gweld yr holl fysus/ceir/faniau cefnogwyr?!! Sawl un o Gaerdydd wnaeth y siwrnau i'r Liberty nos Fercher, neu fyny i Wrecsam i wylio Seland Newydd llynnedd?
Felly be ti'n ddweud yw fod y De ddwyrain yn 'gadarnle' i gefnogwyr cenedlaethol ar yr amod fod yr holl gemau yng Nghaerdydd?!!