Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 14 Awst 2008 10:27 am

Yn dilyn ei erthygl yn y Western Mail yn ystod wythnos yr Eisteddfod - http://www.walesonline.co.uk/news/colum ... -21478916/ - mae'r Dr Geraint Tudur (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg) wedi cychwyn deiseb ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn galw am dîm Olympaidd i Gymru erbyn y flwyddyn 2012:

Mae modd llofnodi'r ddeiseb erbyn hyn, trwy osod tic yn y blwch perthnasol a llenwi'r ffurflen ar waelod y dudalen yma:

https://www.cynulliadcymru.org/gethome/ ... tition.htm

Bydd enwau'r rhai sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yn ymddangos yma:

https://www.cynulliadcymru.org/gethome/ ... s/P-03-169
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan krustysnaks » Iau 14 Awst 2008 1:17 pm

Mae cael tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012 yr un mor debygol â mod i yn mynd i ennill y marathon yn Beijing wythnos yma.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan ceribethlem » Iau 14 Awst 2008 1:34 pm

krustysnaks a ddywedodd:Mae cael tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012 yr un mor debygol â mod i yn mynd i ennill y marathon yn Beijing wythnos yma.

Pob lwc, o'n i ddim yn gwbod bod ti'n cystadlu.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 14 Awst 2008 1:53 pm

ceribethlem a ddywedodd:
krustysnaks a ddywedodd:Mae cael tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012 yr un mor debygol â mod i yn mynd i ennill y marathon yn Beijing wythnos yma.

Pob lwc, o'n i ddim yn gwbod bod ti'n cystadlu.


Ie, pob lwc krusty.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Mali » Iau 14 Awst 2008 5:46 pm

ceribethlem a ddywedodd:
krustysnaks a ddywedodd:Mae cael tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012 yr un mor debygol â mod i yn mynd i ennill y marathon yn Beijing wythnos yma.

Pob lwc, o'n i ddim yn gwbod bod ti'n cystadlu.


Go dda... :lol:
Dwi'n meddwl ei bod hi'n hen bryd i Gymru gael tîm Olympaidd . Fel mae pethau'n sefyll rwan , mi fasa nhw ar y blaen i Ganada sydd heb fedal o gwbwl ! :o
Go ffor it !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 14 Awst 2008 6:10 pm

Byddai nifer yr athletwyr sy'n dod o Gymru yn dyblu dros nos. 14 yn unig sydd yn nhîm Prydain Fawr, ond pe bai Cymru yn cystadlu, byddai tîm Pel droed o Gymru yn sicr yn cael ei gynnwys.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan krustysnaks » Iau 14 Awst 2008 9:21 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Byddai nifer yr athletwyr sy'n dod o Gymru yn dyblu dros nos. 14 yn unig sydd yn nhîm Prydain Fawr, ond pe bai Cymru yn cystadlu, byddai tîm Pel droed o Gymru yn sicr yn cael ei gynnwys.

Dydi pethau ddim cweit mor hawdd â hynny. I gyrraedd y Gemau Olympaidd, mae'n rhaid cyrraedd safon statudol fel arfer. Gyda phêl-droed, er enghraifft, fe fyddai rhaid i Gymru gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2011 dan 21 i gyrraedd y Gemau Olympaidd. Fe fyddai rhaid i Christian Malcolm redeg 100m mewn 10.21 eiliad o leiaf ayyb ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan iwmorg » Iau 14 Awst 2008 9:28 pm

Pan welish i'r teitl, mi feddylis i "ma 'na well chance o weld fi mewn dim byd ond crys pel droed Lloegr yn rhedeg ar draws maes Caernarfon amsar cinio fory yn gweiddi "dwi'n caru david beckham!"" - ond mi gurodd Krusty fi i'r ymateb gwawdlyd!! :winc:

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Byddai nifer yr athletwyr sy'n dod o Gymru yn dyblu dros nos. 14 yn unig sydd yn nhîm Prydain Fawr, ond pe bai Cymru yn cystadlu, byddai tîm Pel droed o Gymru yn sicr yn cael ei gynnwys.


Ti meddwl? Byddai rhaid i dim dan 21 Cymru gyrraedd rownd cyn-derfynol euro 2011 i gael chwarae yn y twrnament olympaidd. Rwan, ma gennym dim cryf ar y funud, sydd efo siawns gweddol o gyrraedd Sweden flwyddyn nesaf, ond mae'r hyn yr wyt yn sgwennu yn dangos anwybodaeth llwyr o sut mae'r gemau olympaidd, yn enwedig y twrnament pel-droed yn gweithio.

Beth bynnag, does gan Gymru ddim gobaith cystadlu fel gwlad annibynnol yn yr olympics nes mae'n wladwriaeth sofran, felly rwy'n ofni fod y ddeiseb mor ddefnyddiol a "barn door on a battleship." :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
iwmorg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 328
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 9:04 am

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan iwmorg » Iau 14 Awst 2008 9:29 pm

Krusty'n gynt 'na fi eto :D
Rhithffurf defnyddiwr
iwmorg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 328
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 9:04 am

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Cardi Bach » Iau 14 Awst 2008 9:39 pm

Wy ddim cweityn deall yr agwedd hyn.
Ai gweud y mae rhai ohonoch chi nad oes pwynt ymgyrchu achos na fyse athletwyr Cymru yn cyrraedd y safon?
Os felly, diawl, pam ddylai iwerddon, Latvia, Ffindir, neu unrhyw wlad fach arall foddran? Pam na wnewn ni gyd ofyn i gael ein rheoli gan bobl eraill a dod yn rhan o'u ymerodraeth ermwyn i ni allu gael peth o'u clod nhw!

Fi ishe i Gymru fod yn rhan o Tsheina! Byddwn ni'n rhan o wlad gyfoethoca'r byd ymhen 20 mlynedd! A gallwn ni ddathlu wrth yfed ein llymru eto, "Dim ots, ni'n perthyn i genedl mwya cyfoethog a phwerus y byd!" Wehei! ah...hold on...welith Cymru byth mo'r cyfoeth na'r grym hynny, mond canrhan bach o boblogaeth Tsheina fydd yn llewyrchus - pobl Han yr arfordir Ddwyreiniol yn bennaf...debyg iawn i hanes Cymru o dan rym Lloegr dros y canrifoedd...errr...

Neu ai gweud ydych chi achos nad yw'r amgylchiadau gwleidyddol presenol yn caniatau i'r sefyllfa fodoli na ddylid ymgyrchu i newid y drefn a golygu y gall Cymru gystadlu? agwedd Defeatist? Yn sicr.
"Fi ddim yn gallu neud fy nhw teims tebl, felly peidiwch boddran gofyn i fi iw adrodd e, ddim nawr, na fory, na drennydd",
"ond gallu di ddysgu'r tw teims tebl!"
"Dim dyna'r pwynt. Fi methu neud e nawr."
"Ond allu di newid hynny, a'i ddysgu e!"
"Shyt yp".

Os oes yna anghyfiawnder, neu fod y drefn yn anghywir, onid yr hyn ddylid ei wneud yw iw gywiro?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron