iwmorg a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Wy'n ail adrodd hyd syrffed nawr, ond os yw Cymru'n rhy fach i gystadlu pam dewis ymuno a Lloegr i'n gwneud yn well? Ma 'Prydain' yn itha shit ar y cyfan - go ffor ddy jygiwlar a joino USA neu Tsheina!
So stopia ail-adrodd yr un pwynt amherthnasol ad nauseum ta! Wyt ti mewn denial ne rwbath am statws Cymru - mae'n rhan o'r wladwriaeth Brydeinig, ac wnei di ddim newid hynny drwy beidio a chydnabod y peth. Dio ddim yn fater o 'joinio' gwladwriaeth arall - mae'n rhaid datgysylltu o'r un bresennol gynta'!! Ac mae'r tabl medalau yn anghytuno a ti, be bynnag wyt ti'n feddwl o 'team GB' mae nhw'n cael gemau llwyddiannus dros ben!
Mae'n gwbl berthnasol achos ein bod ni'n trafod ymgyrch - deiseb - i sefydlu tim Olympaidd i Gymru. Pa mor amhosib bynnag wyt ti ac eraill yn credu yw'r posibilrwydd o wneud hynny, dyw hynny ddim yma nac acw, dyw e ddim yn rhwystro pobl rhag ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth. Pam fod e'n anhebygol? Am mai penderfyniad gwleidyddol ydyw a byddai rhoi eithriad i Gymru yn gosod cynsail ar gyfer 'ardaloedd' erill dadleugar - Gwlad y Basg, Tibet ayb ayb. Mae'r pwynt am ymuno a gwladwriaeth arall, os nag wyt ti wedi sylwi, yn ymwneud a'r ddadl wan am ddiffyg gallu Cymru fel cenedl fach i gystadlu ar lefel Olympaidd, ac ein bod yn gwneud yn well fel rhan o dim Prydeinig. Sori mod i'n gorfod mynd ati i esbonio hynny - falle nad odd e ddigon clir.
iwmorg a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Grym arian sydd yn ennill yr olympics mewn gwirionedd. Mae tablau yr olympics ers degawdau yn profi hynny.
Ti meddwl? dwi meddwl fod o fwy i wneud hefo diwylliant chwaraeon gwledydd fy hun. Mae'r system golegol yn yr UDA yn cynhyrchu athletwyr o fri ers degawdau, tra mae'r diwylliant o weithio plant yn galed o oed cynnar wedi profi'n llwyddiannus i Tseina a'r UGSS/Rwsia ers blynyddoedd. Wyt ti'n meddwl mae arian wnaeth Usain Bolt yn sydyn? Wyt ti hefyd yn meddwl mae cyfoeth sy'n gwneud gwledydd fel Ethiopia a Kenya yn llwyddiannus yn y rhedeg pellter canolig/hir?
Yn sicr mae yna eithriadau mewn pob camp lle mae rhai gwledydd a diwyllianau yn rhagori mewn rhai campau penodol, ond (a bu i mi son am hyn ar fy mlog - sydd bellach yn farw
- adeg y gemau diwethaf), ond os edrychu di ar dabl medalau yr Olympics yn hanesyddol, yna y gwledydd cyfoethocaf sydd wedi bod ar y brig bob tro.
2004-
United States
China
Russia
Australia
Japan
Germany
France
Italy
South Korea
Great Britain
7 o'r 10 uchaf yn wledydd y G8 ac mae Tsheina fawr yno
2000 -
United States of America
Russian Federation
People's Republic of China
Australia
Germany
France
Italy
Netherlands
Cuba
Great Britain
o'r 10 ar y brig mae 6 o'r G8 ac mae Tsheina yno. Yr eithriad amlwg yw Ciwba.
1996 -
United States of America
Russian Federation
Germany
People's Republic of China
France
Italy
Australia
Cuba
Ukraine
Korea
5 o'r G8 + Tsheina
1992 -
Unified Team (ex USSR)
United States of America
Germany
People's Republic of China
Cuba
Spain
Korea
Hungary
France
Australia
Yna ry'n ni'n mynd i fewn i gyfnod y rhyfel oer ac mae bron yr holl fedalau wedi eu rhannu rhwng y bloc dwyreiniol, dwyrain yr Almaen, yr UDA a gorllewin yr Almaen (gyda eithriadau amlwg yn 1980 ac 1984 wrth i'r ddwy ochr foicotio'r gemau un ar ol y llall). Ble mae Brasil, India, Ariannin, Congo?
Mae Ciwba wedi cael cynrychiolaeth gyson yn uchelfannau yr Olympics, ac mae Awstralia wedi gwella yn arw, pnd does dim cuddio rhag y ffaith mai gwledydd cyfoethog/gorllewinol sydd yn rhagori drwy'r amser.