Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 26 Awst 2008 9:21 am

Dros 200 wedi arwyddo deiseb ar wefan y Cynulliad. Er nad yw 200 yn swnio fel ffigwr mawr iawn, mae'n llawer mwy na beth oeddwn i wedi disgwyl o ystyried fod tîm GB newydd wneud yn dda, a bod lot o 'Glory Hunters' ymysg ni'r Cymry... :crechwen:

Y lle i arwyddo yw fan hyn gyda llaw. Ticiwch y blwch perthnasol, a llenwi eich manylion personol ar y gwaelod.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan LLewMawr » Gwe 29 Awst 2008 1:00 am

bydd tîm Cymru yn grêt! os mae Hong Kong (rhanbarth o Tsieina) , yr Ynysoedd Cayman (tir Prydeinig) a blydi Palestine (wel wn i ddim cweit beth yw palestine) gyda tîm wedyn dyle Cymru hefyd!
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 29 Awst 2008 8:31 am

Roedd hwn yn rhywbeth diddorol wnes i ddarllen yn yr adran sylwadau ar y Grwp Tím Olympaidd i Gymru sydd ar facebook :

There are 192 countries in the UN and 194 recognised countries. Yet there are 202 at the olympics.


Ddim yn gwybod os yw'n wir? Unrhyw un yn gwybod pwy yw'r 8-10 gwlad sy'n cystadlu yn y gemau Olympaidd, ond sydd ddim yn wledydd annibynnol? Mae 3 neu 4 wedi nodi uchod, ond pwy yw'r gweddill?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Mwlsyn » Gwe 29 Awst 2008 11:48 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Roedd hwn yn rhywbeth diddorol wnes i ddarllen yn yr adran sylwadau ar y Grwp Tím Olympaidd i Gymru sydd ar facebook :

There are 192 countries in the UN and 194 recognised countries. Yet there are 202 at the olympics.


Ddim yn gwybod os yw'n wir? Unrhyw un yn gwybod pwy yw'r 8-10 gwlad sy'n cystadlu yn y gemau Olympaidd, ond sydd ddim yn wledydd annibynnol? Mae 3 neu 4 wedi nodi uchod, ond pwy yw'r gweddill?


O Wikipedia: "There are 205 current NOCs within the Olympic Movement." Dyma'r 13 sydd ddim yn aelodau o'r CU:

Netherlands Antilles (Trefedigaeth yr Iseldiroedd)
Aruba (Trefedigaeth yr Iseldiroedd)
American Samoa (Trefedigaeth UDA)
Bermuda (Trefedigaeth y DU)
Cayman Islands (Trefedigaeth y DU)
Cook Islands (Trefedigaeth Seland Newydd)
Guam (Trefedigaeth UDA)
Hong Kong (Ardal Arbennig o Tsieina)
Virgin Islands (Trefedigaeth UDA)
British Virgin Islands (Trefedigaeth y DU)
Palestine
Puerto Rico (Trefedigaeth UDA)
Chinese Taipei (h.y. Taiwan, de facto annibynnol ond dim ond 22 aelod o'r CU sy'n cydnabod hyn)
Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Re: Tîm Olympaidd i Gymru erbyn 2012?

Postiogan Dyncoch » Gwe 29 Awst 2008 11:11 pm

Tim Cymru? Wel gobeithio yn wir! Tim Du, dim uffar o berig! Digon drwg ydi i athletwyr Cymru orfod gwrando ar anthem tim cenedlaethol pel droed a rygbi lloegr 'God Save the queen' os ydynt wedi ennill medal aur. Dim rhyfadd bod david davies wedi gwneud popeth i beidio ac ennill! Oes rhyfedd na bo athletwyr/chwarewyr Cymreag ddim yn rho 100% os mai anthem lloegr a fydd yn eu llongyfarch!
Rhithffurf defnyddiwr
Dyncoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Mer 29 Tach 2006 12:49 pm
Lleoliad: Tregarth a Conwy

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron