Pwynt arall dyle bobol cofio, yw sefyllfa'r cystadleuwyr. Hyd yn hyn, mae pawb wedi sôn am be NI isio, dim y rhai sydd yn gneud y gwaith caled ac yn cystadlu. Ma'r rhai sydd yn cystadlu yn byw bywydau dyddiol i gystadlu - deiet strict (dim yfed), ymarfer bob dydd. Tydyn nhw ddim yn neud y pethe 'normal' fel mae'r mwyafrif ohonom yn ei wneud.
Os byswn i yn ceisio gwireddu breuddwyd o fod y gore'n y byd mewn maes penodol, fel tîm gymnasteg. Dweda na fi di'r gore yng Nghymru, tra fo'r 3 arall o Loegr. I gael unrhyw siawns o neud yn dda mae angen i mi gystadlu efo'r 3 Sais ma. Ydwi wir am geisio peryglu yr hyn dwisio ei gyflawni, er mwyn ateb gofynion byr-dymor rhai pobol? Byr dymor fel Llundain 2012 - byse hi'n sefyllfa gwahanol petai hi'n 2016 a 3 Cymro o safon digon da i greu tîm gyda siawns o wneud rhywbeth.
Ydi, byse fo'n neis gweld Cymru fel gwlad yn yr Olympiaid, ond ydych chi wir yn meddwl fod yr athletwyr ma yn rhoi eu bywydau i ymarfer, o oedrannau ifanc iawn dim ond er mwyn 'dangos eu wynebau' mewn gemau Olympaidd, neu ydyn nhw'n gweithio'n galed i fod y gore?
Pwy sy'n dal y record am redeg 100m dynion a'r aur? Jamaica? Na. Usain Bolt, ydi. "Jamaica are the 100m mens sprinting record holders."