Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Duw » Iau 09 Ebr 2009 9:15 am

Cawn weld beth yw dyfodol y Magners. Pa mor hir ydy pobol yn mynd i'w wylio os ydy timoedd yn ffili bod yn boddyrd. Bydd angen pwyso a mesur a fydd digon o genfogwyr yn dilyn tim o'r gogledd. Er bod llawer o gefnogwyr, a fydden nhw'n fodlon teithio i'r gemau byw? Siom fydde gwario miliynau ar sefydlu franchise newydd a bod neb yna i'w gwylio. Mae cefnogwyr timoedd y de digon gwael. Wrth gymharu gemau arferol y Blues vs. Bluebirds - embaras llwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 09 Ebr 2009 9:45 am

Mae'r gefnogaeth yno - dwi'n siwr y byddai hyd yn oed Eusebio yn fodlon cyfaddef hynny :) - be dwi'n poeni am ydi os daw timau o'r Eidal i mewn a fydd LLE i dîm Gogledd Cymru yn y gynghrair?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 09 Ebr 2009 10:45 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'r gefnogaeth yno - dwi'n siwr y byddai hyd yn oed Eusebio yn fodlon cyfaddef hynny :) - be dwi'n poeni am ydi os daw timau o'r Eidal i mewn a fydd LLE i dîm Gogledd Cymru yn y gynghrair?


Mae'r gefnogaeth yna os byddan nhw'n galw'u hunain y Toffee Salford Reds.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Doctor Sanchez » Llun 13 Ebr 2009 7:15 pm

Dwi'n meddwl fod galw ond bod rhaid i ni gael y lleoliad iawn. Wrth sbio ar dimau Cynghrair 4 Y Gogledd mae'r timau fel a ganlyn:

Bala
Caernarfon
Bae Colwyn
Dinbych
Dolgellau
Llandudno
Llangefni
Llanidloes
Y Wyddgrug
Nant Conwy
Pwllheli
Rhuthun

Pam ddylia pawb felly gorfod mynd i Wrecsam i wylio gem Gogleddol. Y lle gorau a mwya canolog yn fy marn i ydi Bangor.
Mae o dri chwarter awr o Bwllheli, Y Wyddgrug, Rhuthun a Nant Conwy a chwarter i hanner awr o Gaernarfon, Llandudno, Llangefni a Bae Colwyn. Ma siwr na fysai Bala a Llanidloes yn hapus efo hyn ond ma nhw'n bell o bobman dydyn

Dydy Wrecsam ddim yn ganolog i'r Gogledd, mae Bangor yn. Yr unig gwestiwn arall ydi lle i gynnal y gemau a'r unig le sy na ym Mangor ydi Ffordd Farrah neu'r safle newydd ar gyfer y stadiwm newydd. A fydd hwn ddigon mawr dwi ddim yn gwbod...
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan garynysmon » Llun 13 Ebr 2009 7:54 pm

Doctor Sanchez a ddywedodd:Dydy Wrecsam ddim yn ganolog i'r Gogledd, mae Bangor yn. Yr unig gwestiwn arall ydi lle i gynnal y gemau a'r unig le sy na ym Mangor ydi Ffordd Farrah neu'r safle newydd ar gyfer y stadiwm newydd. A fydd hwn ddigon mawr dwi ddim yn gwbod...


Mae na ddigon o olwg ar gae Ffordd Ffarrar fel ma'i :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Lorn » Iau 16 Ebr 2009 8:22 pm

Bangor yn y canol? Yn jêl wrach! Llandudno, Bae Colwyn ydyn os ydych chi am sticio i'r arfordir, ond pam gwneud hynny (heblaw am yr A55), gall Llanrwst, Dinbych, Rhuthun ayyb fod yn lot fwy 'canolog' yng ngwir ystyr y gair nag Bangor. Y Cae Ras though ydy'r lle gorau o ran y ffaith syml mae'r stadiwm i safon uchel yno'n barod.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron