Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Macsen » Iau 17 Ebr 2008 10:54 am

Wnes i amseru ddoe y byddai'n cymryd dwy awr yn llai i bobol Gogledd Cymru fynd i weld Peel yn chwarae yn Sale na fyddai i'w weld yn chwarae i'w 'rhanbarth nhw' yn Llanelli. O ystyried difaterwch y WRU tuag at Gogledd Cymru falle dyle ni fabwysiadu Sale fel ein clwb 'lleol'? ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan ceribethlem » Iau 17 Ebr 2008 1:22 pm

Macsen a ddywedodd:Wnes i amseru ddoe y byddai'n cymryd dwy awr yn llai i bobol Gogledd Cymru fynd i weld Peel yn chwarae yn Sale na fyddai i'w weld yn chwarae i'w 'rhanbarth nhw' yn Llanelli. O ystyried difaterwch y WRU tuag at Gogledd Cymru falle dyle ni fabwysiadu Sale fel ein clwb 'lleol'? ;)
ok
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan CapS » Iau 17 Ebr 2008 2:07 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Wnes i amseru ddoe y byddai'n cymryd dwy awr yn llai i bobol Gogledd Cymru fynd i weld Peel yn chwarae yn Sale na fyddai i'w weld yn chwarae i'w 'rhanbarth nhw' yn Llanelli. O ystyried difaterwch y WRU tuag at Gogledd Cymru falle dyle ni fabwysiadu Sale fel ein clwb 'lleol'? ;)
ok

Dere nawr Ceri. Does dim unrhyw cynsail i gogs benderfynnu'n sydyn reit mae cefnogi timoedd o ogledd-orllwein Lloegr yn hytrach na'u gwlad nhw eu hunain yw'r ffordd i fynd.
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan Macsen » Iau 17 Ebr 2008 5:35 pm

CapS a ddywedodd:Dere nawr Ceri. Does dim unrhyw cynsail i gogs benderfynnu'n sydyn reit mae cefnogi timoedd o ogledd-orllwein Lloegr yn hytrach na'u gwlad nhw eu hunain yw'r ffordd i fynd.

Hmm, so ti'n fodlon gwadu cyfle pobol Gogledd Cymru i wylio rygbi/pel-droed da yn fyw am nad ydi nhw'n fodlon eistedd mewn car am wyth awr?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan Ray Diota » Gwe 18 Ebr 2008 10:31 am

Macsen a ddywedodd:
CapS a ddywedodd:Dere nawr Ceri. Does dim unrhyw cynsail i gogs benderfynnu'n sydyn reit mae cefnogi timoedd o ogledd-orllwein Lloegr yn hytrach na'u gwlad nhw eu hunain yw'r ffordd i fynd.

Hmm, so ti'n fodlon gwadu cyfle pobol Gogledd Cymru i wylio rygbi/pel-droed da yn fyw am nad ydi nhw'n fodlon eistedd mewn car am wyth awr?


falle se'n well i chi jyst cefnogi'ch timau lleol, eh? chi di gweld yn ffwtbol be sy'n digwydd os nad ydech chi'n gneud...

http://www.wru.co.uk/1157_2120.php
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan Macsen » Gwe 18 Ebr 2008 11:47 am

Ray Diota a ddywedodd:falle se'n well i chi jyst cefnogi'ch timau lleol, eh? chi di gweld yn ffwtbol be sy'n digwydd os nad ydech chi'n gneud...

Felly tra mae gweddill Prydain yn cael mynd i wylio ser rhyngwladol yn chwarae bob penwythnos dyle'r gogs fod yn fodlon i sefyll yn y mwd yn gwylio Caernarfon RFC v Llangefni RFC ar bnawn gwlyb? :rolio:

O feddwl pa mor fach yw Cymru yn y lle cynta sa ti'n meddwl sa'r WRU eisiau datblygu'r gamp tu hwnt i stribyn tena o'r de.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 18 Ebr 2008 11:52 am

Macsen a ddywedodd:O feddwl pa mor fach yw Cymru yn y lle cynta sa ti'n meddwl sa'r WRU eisiau datblygu'r gamp tu hwnt i stribyn tena o'r de.


Lle mae traean o'r boblogaeth yn byw, a'r mwyafrif o'r rheini heb ddiddordeb mewn rygbi, a heb y drafnidiaeth etc i gefnogi chwaraeon proffesiynol...

helmed 'mlaen a mewn i'r byncer
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Ebr 2008 12:48 pm

Macsen a ddywedodd:Felly tra mae gweddill Prydain yn cael mynd i wylio ser rhyngwladol yn chwarae bob penwythnos dyle'r gogs fod yn fodlon i sefyll yn y mwd yn gwylio Caernarfon RFC v Llangefni RFC ar bnawn gwlyb? :rolio:.
'Na beth sy'n digwydd yn yr Alban.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan Macsen » Gwe 18 Ebr 2008 12:53 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Lle mae traean o'r boblogaeth yn byw, a'r mwyafrif o'r rheini heb ddiddordeb mewn rygbi, a heb y drafnidiaeth etc i gefnogi chwaraeon proffesiynol...

Wela'i ddim rheswm pam na all Gogledd Cymru gynnal tim rygbi proffesiynol. Sa ti'n sticio stadiwm jesd off yr A55, yn Llandudno Junction (sydd eisoes yn delu miloedd i'w sinema 15 sgrin) fydde pawb yng Ngogledd Cymru yn medru cyraedd yno mewn llai nag awr mewn car neu ar y tren. Dyna 700,000 o bobol o fewn cyraedd hawdd.

Digon teg dweud nad oes gan y mwyafrif o bobol yno ddiddordeb mewn rygbi, ond sut mae disgwyl iddyn nhw fod a diddordeb os nad os rygbi yno i'w wylio? Y rheswm mae pel-droed mor boblogaidd yn y gogledd ydi bod clybiau mawr o fewn cwta awr. Ac mae diddordeb pobol y gogledd mewn rygbi yn llawer uwch nag y mae pobol yn dweud.

ceribethlem a ddywedodd:'Na beth sy'n digwydd yn yr Alban.

Lle mae rygbi wir yn ffynnu ar y funud. :rolio: Fel mae pethau heddiw dyw ryw gwt iar o stadiwm gyda chae mwdlyd ddim yn mynd i ddenu torfeydd, dyna pam bod clybiau'r de yn disgyn dros ei gilydd i adeiladu stadiwms newydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Peel bant at y Siarcod!

Postiogan CapS » Gwe 18 Ebr 2008 1:17 pm

Macsen a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Lle mae traean o'r boblogaeth yn byw, a'r mwyafrif o'r rheini heb ddiddordeb mewn rygbi, a heb y drafnidiaeth etc i gefnogi chwaraeon proffesiynol...

Wela'i ddim rheswm pam na all Gogledd Cymru gynnal tim rygbi proffesiynol. Sa ti'n sticio stadiwm jesd off yr A55, yn Llandudno Junction (sydd eisoes yn delu miloedd i'w sinema 15 sgrin) fydde pawb yng Ngogledd Cymru yn medru cyraedd yno mewn llai nag awr mewn car neu ar y tren. Dyna 700,000 o bobol o fewn cyraedd hawdd.

Digon teg dweud nad oes gan y mwyafrif o bobol yno ddiddordeb mewn rygbi, ond sut mae disgwyl iddyn nhw fod a diddordeb os nad os rygbi yno i'w wylio? Y rheswm mae pel-droed mor boblogaidd yn y gogledd ydi bod clybiau mawr o fewn cwta awr. Ac mae diddordeb pobol y gogledd mewn rygbi yn llawer uwch nag y mae pobol yn dweud.

ceribethlem a ddywedodd:'Na beth sy'n digwydd yn yr Alban.

Lle mae rygbi wir yn ffynnu ar y funud. :rolio: Fel mae pethau heddiw dyw ryw gwt iar o stadiwm gyda chae mwdlyd ddim yn mynd i ddenu torfeydd, dyna pam bod clybiau'r de yn disgyn dros ei gilydd i adeiladu stadiwms newydd.

Wel, mae gan nifer fawr o bobl yn y gogledd ddiddordeb mewn peldroed, ac eto mae'r rhan fwyaf yn anwybyddu'r tim "leol" ac yn cefnogi Lerpwl, ManU, Everton ayb. I'r fath raddau fel bo'r unig tim safonol yn yr holl ardal ar fin syrthio allan o'r gynghrair. Os na gall yr ardal gynnal tim proffesiynol mewn camp syddo ddiddordeb i'r mwyafrif, pa obaith mewn camp sydd o fawr o ddiddordebi neb.

Neu wyt ti'n awgrymu bod ardal sydd a diddordeb yn y gem yn gorfod rhoi lan eu tim nhw?
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 32 gwestai

cron