Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Awst 2008 11:27 am

eusebio a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:
Ger27 a ddywedodd:Mae'n ymddangos bod gan URC gystadleuaeth gan Sale Sharks yn y Gogledd beth bynnag.
Wythnos diwethaf, roedd diwrnod agored gan y Sale Sharks yng Nghwb Rygbi Nant Conwy: Siarcod Nant Conwy

Mi wn hefyd am amryw o chwaraewyr ifanc o'r Gogledd sy'n chwarae i dimau ieuenctid y Siarcod.


wedi i Langefni cael eu gorfodi i ddisgyn yn ôl i Adran 4 fe adawodd nifer o'u chwaraewyr - mae sawl un, yn ôl pob sôn, wedi mynd dros y ffîn i chwarae.

Yn bersonol dio ddiawl o ots gen i sut hwyl mae timau rygbi'r gogledd yn ei gael ond mae gan URC ddiawl o cheek i alw rygbi'n gêm genedlaethol a "heartbeat of the nation" pan nad ydy nhw'n caniatau i glybiau pob rhan o Gymru fod yn rhan o'u cynghreiriau "cenedlaethol".

:lol: O'n i'n tybio faint o amser tan i'r outburst bach 'ma ddod! :winc:


Wel dyna yw gwir wraidd y ddadl a dyna pam mae'r sop pathetig 'ma o "dîm datblygol" wedi dod

Yn hynny o beth fi'n cytuno, sop pathetig yw'r syniad o dîm datblygol. Rhaid gweld os oes digon o alw am y peth cyn taflu arian ato fe. Dyw atal timoedd y Gogledd rhag esgyn ddim yn mynd i ganiatau hyn. Ddylai bod level playing field i weld os mae'n bosib i gynnal tim proffesiynol yna yn hytrach na son am greu un achos fod "digon" o boblogaeth yna i gynnal tim. Nonsens yw dweud fod galw achos bod ambell un yn galw amdano.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Lorn » Iau 28 Awst 2008 1:01 pm

Wrth gwrs bod galw am y peth. Big wigs y De sydd ddim isio rhoi unrhyw cyfle i fesur y galw yma gan ei fod yn mynd i effeithio ar eu bywydau cyfforddus yn teithio o gwmpas yr un hen feysydd dro ar ol thro ar ol thro yn atgyfnerthu'r Rhwydweithiau 'Old Friends' sy'n rheoli Undeb Rygbi Cymru hyd yn oed yn yr oes broffesiynol honedig.

Licio fo neu beidio mae yno adnodd ariannol a dynolp eang yn y Gogledd sydd heb ei 'tapio' yn ddigonol gan y gem Rygbi. Efallai bod y Gogledd yn llai poblog na'r De yn ei chyfanrwydd ond o be welai hefo Rygbi yn y De does neb yn edrych ar y gamp ar draws y De yn ei chyfanrwydd - mae o i gyd wedi ei dori i fewn i ranbarthau, gan olygu bod poblogaeth y Gogledd yn cymharu'n ffafriol a'r rhain.

Yr unig ateb yw i URC (nid yr RUC Mr Gasyth :D ) dyfu celliau a anwybyddu'r rhywdweithiau hen ddynion sy'n ymddwyn fel nhw a neb arall sydd bia'r gem.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Awst 2008 1:33 pm

Lorn a ddywedodd:Wrth gwrs bod galw am y peth.

Maint y galw sy'n bwysig. Oes yna digon o alw i fedru greu tim gwerth miliynau o bunnoedd y flwyddyn? Mae'n risg ariannol anferth i URC, sydd mewn dyled anferth o hyd ers adeiladu stadiwm y mileniwm, i greu tim newydd sbon gyda'r holl gyfleusterau sydd eu hangen i gynnal tim.

Ym mhle bydd cartre'r tim yma? Wrth edrych ar y pedwar tim proffesiynol, mae pob un ohonynt yng nghanol dwysedd poblogaeth uchel, Llanelli, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd. A fydd digon o bobl yn buddsoddi ariannol cyson i gynnal y tim yma. Mae'n hawdd i ddweud fod galw, ond doedd arbrawf Llanelli yn Wrecsam yn aflwyddianus tu hwnt (am wahanol resymau - does dim eisiau mynd yn ol dros yr holl bwyntio bys). Faint, mewn gwirionedd, byddai'n fodlon teithio (yn aml ar nosweithiau Gwener, Sadwrn, neu brynhawn Sul) gan dalu ugain punt y pen i weld rygbi rheolaidd? I feddwl fod y tim pel-droed mwyaf yn yr ardal (Wrecsam) wedi methu am fod cynifer yn eu hanwybyddu gan deithio i weld Manceinion/Lerpwl ayyb yn lle.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Awst 2008 1:40 pm

Lorn a ddywedodd:Licio fo neu beidio mae yno adnodd ariannol a dynolp eang yn y Gogledd sydd heb ei 'tapio' yn ddigonol gan y gem Rygbi. Efallai bod y Gogledd yn llai poblog na'r De yn ei chyfanrwydd ond o be welai hefo Rygbi yn y De does neb yn edrych ar y gamp ar draws y De yn ei chyfanrwydd - mae o i gyd wedi ei dori i fewn i ranbarthau, gan olygu bod poblogaeth y Gogledd yn cymharu'n ffafriol a'r rhain.

Fel dywedais i eisoes, mae canolfannau'r timau yma yn rhai poblog iawn, a dyma'r bobl sy'n gwylio'n rheolaidd. Nifer cymharol fach (rhai cannoedd efallai) bydd yn teithio ar draws y rhanbarth i wylio rygbi'n rheolaidd. Wrth gwrs bydd mwy yn mynd ar gyfer y gemau mawr, ond nid y nhw sy'n cynnal y rhanbarth.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Lorn » Iau 28 Awst 2008 2:18 pm

Wel y Cae Ras sy'n gwneud synnwyr o ran dwysedd poblogaeth ardal Wrecsam a Sir y Fflint ac o ran y cyfleusterau sydd ar gael.

Dim ond wrth edrych ar y wyneb gellir defnyddio tranc CPD Wrecsam fel rheswm pam gall fethu. Fel URC cafodd CPD Wrecsam ei redeg fatha Rhwydwaith o Hen Ffrindiau hefyd - h.y. yn hynod hynod amatur. Roedden nhw'n gweld y clwb fel rhwybeth ar gyfer tref Wrecsam yn unig a heb farchnata'r clwb digon fel clwb ar gyfer y Gogledd. Dydy him yn bosib cystadlu hefo Manchester Utd, Lerpwl ac Everton pan maent awr ar y mwyaf o'r dre.

Bellach mae pobl wedi sylweddoli bod angen ehangu apel y clwb ymhellach i'r Gorllewin a rhoi sylfaen mwy diogel i'r clwb. Byddai'r un yn wir am dim rhygbi rhanbarthol. Gall rannu cyfleustrau helpu'r ddau yn yr un modd a maen ymddangos bod y Gwelich a CPD Dinas Abertawe wedi eu helpu gyda'u cydweithio nhw.

O be dwi'n ei weld dydy pobl ddim isio i rygbi weithio yn y Gogledd, mae hyn mae'n debyg i lawr i gyfuniad rhyfedd o ragfarn (digwyl iddo beidio gweithio gan mae Hwntws sy'n neud rygbi) a diffyg ceilliau gan yr arweinwyr.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan huwwaters » Iau 28 Awst 2008 4:03 pm

Cofia Ceri, Clwb Rygbi Bangor oedd un o'r timau nath sefydlu URC, felly fedrith neb beidio gwadu nad oes diddordeb wedi bod mewn rygbi tan yn ddiweddar. I feddwl fod system rhanbarthol i fod mewn lle, dim ond y Gweilch sydd ryw fath yn ymddwyn felly. Prin iawn neith y Gleision gollwng Caerdydd ar y cychwyn a'r un fath gyda'r Sgarledau. Nawn nhw ddim setlo am dim ond Cardiff Blues a Llanelli Scarlets.

Rhaid i'r brenhinwyr sydd yn rhedeg URC sylweddoli fod Morgwn Sale yn araf meddiannu Gogledd Cymru o ran fod yn dîm rygbi rhanbarthol. Prin iawn byse nhw'n meiddio gwneud y fath beth os oedd golled i'w wneud. Yr haf ma, dwi di bod wrthi yn helpu cwmni Actif 24/7 yn hyfforddi rygbi i blant yng Nghorwen a'r Rhyl, gan gymyd nhw am un diwrnod i gyfarfod rhai chwaraewyr, ymarfer a'r dir Sale Sharks a dangos nhw o gwmpas yr Academi a ble maen't yn ymarfer etc. Mae'r plant hefyd yn cael crys-t yr un ac efo'r cyfle o'i gael wedi arwyddo. Big deal? Wel ydi o ystryried fod yn plant yn mynd ymlaen am y cyfle i weld pobol fel Dwayne Peel, Chabal a phwy bynnag a nhw gyd yn gwisgo crysau-t efo Sale Sharks.

Dyma ble mae Sale yn creu eu cefnogwyr; dyma ble fydd nhw'n curo URC. Cwmni preifat yw Actif 24/7 sydd wedi bod yn cydweithredu gyda Sale Sharks, tra fod Sale Sharks wedi trefnu gwersyll rygbi eu hunain. O be dwi'n dallt hefyd, mae Sale wedi cynnig ariannu creu llenyddiaeth y clwb yn Gymraeg hefyd. Dwi'n meddwl dyle clyche fod yn canu erbyn rwan.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Iau 28 Awst 2008 7:55 pm

huwwaters a ddywedodd:Cofia Ceri, Clwb Rygbi Bangor oedd un o'r timau nath sefydlu URC, felly fedrith neb beidio gwadu nad oes diddordeb wedi bod mewn rygbi tan yn ddiweddar. I feddwl fod system rhanbarthol i fod mewn lle, dim ond y Gweilch sydd ryw fath yn ymddwyn felly. Prin iawn neith y Gleision gollwng Caerdydd ar y cychwyn a'r un fath gyda'r Sgarledau. Nawn nhw ddim setlo am dim ond Cardiff Blues a Llanelli Scarlets.
Does dim system "rhanbarthol" yn bodoli mewn gwirionedd. Super clubs sydd yng Nghymru. Fi'n gwybod fod Bangor yn un o'r clybiau wnaeth ffurfio'r Undeb, ond dyw hynny ddim yn golygu fod rhaid iddynt gael "rhanbarth" nad yw. Dyma'r rhestr o'r clybiau a gychwynodd yr Undeb:
Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Llanelli, Aberhonddu, Bangor, Llambed, Llandeilo, Llanymddyfri, Merthyr a Phontypwl (ac yn fwy na thebyg Castell Nedd, er does dim cofnod o hynny). Dim y pedwar cyntaf sydd yn gartrefi i rygbi proffesiynol bellach. Does dim digon o ddwysedd poblogaeth (ac felly galw ac arian) i gynnal timau proffesiynol yn y gweddill. Bydden i'n hoffi gweld tim proffesiynol yn Llandeilo, pum milltir o adre, gret, ond bydd e' byth yn digwydd.

huwwaters a ddywedodd:Rhaid i'r brenhinwyr sydd yn rhedeg URC sylweddoli fod Morgwn Sale yn araf meddiannu Gogledd Cymru o ran fod yn dîm rygbi rhanbarthol. Prin iawn byse nhw'n meiddio gwneud y fath beth os oedd golled i'w wneud. Yr haf ma, dwi di bod wrthi yn helpu cwmni Actif 24/7 yn hyfforddi rygbi i blant yng Nghorwen a'r Rhyl, gan gymyd nhw am un diwrnod i gyfarfod rhai chwaraewyr, ymarfer a'r dir Sale Sharks a dangos nhw o gwmpas yr Academi a ble maen't yn ymarfer etc. Mae'r plant hefyd yn cael crys-t yr un ac efo'r cyfle o'i gael wedi arwyddo. Big deal? Wel ydi o ystryried fod yn plant yn mynd ymlaen am y cyfle i weld pobol fel Dwayne Peel, Chabal a phwy bynnag a nhw gyd yn gwisgo crysau-t efo Sale Sharks.

Dyma ble mae Sale yn creu eu cefnogwyr; dyma ble fydd nhw'n curo URC. Cwmni preifat yw Actif 24/7 sydd wedi bod yn cydweithredu gyda Sale Sharks, tra fod Sale Sharks wedi trefnu gwersyll rygbi eu hunain. O be dwi'n dallt hefyd, mae Sale wedi cynnig ariannu creu llenyddiaeth y clwb yn Gymraeg hefyd. Dwi'n meddwl dyle clyche fod yn canu erbyn rwan.

Ydy Sale yn bwriadu cynnal gemau yn y Gogledd felly? Nac ydyn. Mae'n nhw'n marchnata yn effeithiol, ond nid ydynt yn creu tim yno. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylir edrych ar ffyrdd gwell o farchnata timoedd (mae hynny'n wir yn gyffredinol, nid yn y Gogledd yn unig). Serch hynny dyw hynny ddim yn golygu fod angen gwario milynau ar greu tim newydd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 28 Awst 2008 9:25 pm

Fi'n credu dylid sefydlu Tîm 'Y Gogledd' (Gogs. yn fyr) yn yr Uwch Gynghrair o flwyddyn nesaf ymlaen, a wedyn o fewn tua 5 mlynedd dyrchafu'r tîm o'r Uwch-Gynghrair i fod yn Ranbarth.

Byddai cynllun fel hyn yn rhoi 5 mlynedd i'r tîm/rhanbarth i drefnu pob dim ar lefel lled-broffesiynol o ran adnoddau, staff, cyllid ayb. O ran lleoliad, Y Cae Ras yn Wrecsam yw'r unig leoliad addas ar gyfer tîm rhanbarthol yn y Gogledd, ond gyda tîm lled-broffesiynol yn chwarae yn yr uwch Gynghrair, byddai modd iddynt chwarae eu gemau cartref mewn 2 leoliad yn y blynyddoedd cyntaf, un yn y gorllewin ac un yn y Dwyrain, a chydweithio gyda holl dimoedd y Gogledd i ddatblygu chwaraewyr, er mwyn magu cefnogaeth y rhanbarth i gyd.

Rhwydd, Sorted! :winc:

A Ceribethlem, stopa sôn am 'y galw' o hyd. Does dim galw am lot o bethe, rhaid creu'r galw! Edrych ar Awstralia...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan ceribethlem » Gwe 29 Awst 2008 8:31 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:A Ceribethlem, stopa sôn am 'y galw' o hyd. Does dim galw am lot o bethe, rhaid creu'r galw!
Dere mlan nawr Hedd, ti ddim yn gwario miliynau yn creu tim elit heb fod galw am y peth. Serch hynny fi'n cytuno fod angen creu'r galw, yr hyn sydd angen nawr yw i ddangos i URC fod yna alw amdano fe, a dyw hwnna ddim yn cyfri dod ar faes-e a dweud "mae lot o bobl angen rygbi lefel uchel yma". Dyna sy'n digwydd ym Mhontypridd, pan oedd yna rygbi lefel uchel doedd braidd neb yn mynd! Y ffordd gorau i ddangos i URC fod diddordeb a galw yn yr ardal (pa bynnag ardal) yw i fynychu'r gemau sydd ar gael yn rheolaidd. Pe bai pob tim yn y Gogledd yn cael torf o dros fil am bob gem, bydde URC yn sylw yn gyflym iawn.

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Edrych ar Awstralia...

Pam?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm Rygbi Gogledd Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 09 Ebr 2009 8:25 am

Rhywun yn gwybod beth fyddai'n digwydd i'r tîm Gogledd arfaethedig os bydd y ddau dîm o'r Eidal yn ymuno â Chynghrair Magners - a fydd hynny'n lladd y syniad?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai

cron