Hedd Gwynfor a ddywedodd:Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Yyyymmmm, Hedd, beth yn union yw arwynebedd yr ardal 'ma?
Dywedodd CapS fod y gogledd yn ardal 'cymarol ddi-boblog'. Mae'r ffigyrau yn dangos fod 1/4 poblogaeth Cymru yn byw yn y gogledd. O ran arwynebedd, dwi ddim yn gwybod, ond mae modd cyrraedd y cae ras o fewn ychydig dros awr o'r mwyafrif o ardaloedd yn y Gogledd (tua awr a hanner o Bangor a Chaernarfon) ac mae dros 60,000 yn byw yn Wrecsam, a bron 300,000 yn ardal Wrecsam yn unig!
Ti'n chwarae mewn i ddwylo CapS fan hyn Hedd. 1/4 y boblogaeth yn myw yn 1/2 y wlad. Fymharol ddi-boblog felly. Achos yr unig gymharb yng Nghymru yw De Cymru, sef 3/4 yn boblogaeth o fewn hanner y wlad.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Yn union! Fi'n gweld ymateb rhai o fy nghyd Hwntws yn uffernol o hunanol. Un cenedl i ni wedi'r cwbwl ffor ff** secs!
Rhwng 'chwaraewyr sgwad' y 4 rhanbarth sydd ddim yn cael bron dim gemau + hufen yr Uwch-Gynghrair + hyd at 6 chwaraewr tramor, byddai digon o chwaraewyr o safon ar gael i greu 5ed tîm yn y gogledd, a ni fyddai hyn yn effeithio ar safon timoedd y de. Yn ogystal, gellid danfon y chwaraewyr ifanc sydd gyda mwyaf o botensial ar fenthyg i rhanbarth y Gogledd am dymor i'w datblygu, a rhoi cyfle iddynt chwarae ar y safon uchaf. Ni fyddai'r tîm yma yn cystadlu ym mhrif gystadleuaeth Ewrop mwy na thebyg, ond bydde gyda Chymru dîm yn chwarae'n gyson yn yr ail-gystadleuaeth, yn erbyn timoedd gwych o Loegr a Ffrainc!
Fi'n gobeithio nad wyt ti'n cymryd ein bod ni'n wrth rygbi yn y Gogledd. Fi'n deall yr hyn ti'n ddweud am y chwareuwyr yn y pedwar rhanbarth sy'n bodoli nawr, ond bydde cymryd rhain mas o'r rhanbarthau yn gwanhau'r rhanbaethau. Bydde hwn ddim yn llesol i ddatblygiad y chwareuwyr, ar hyn o bryd, mae Martyn Williams (blaenasgellwr gorau Cymru erioed o bosib - pais a chnoi docito
) yn chwarae gyda Gleision Caerdydd, yn ail iddo mae potensial mawr yn Robin Sowden-Taylor. Mae yntau'n dysgu cymaint wrth hyfforddi a chystadlu gyda Martyn, mae'n datblygu, ac yna mae'n dod bant o'r fainc a dechrau ambell i gem. Fel hyn mae'r dealltwriaeth o'r gem yn gwella mas draw. Yn yr un ffordd mae Ben Lewis yn datblygu lot gyda'r Gweilch achos Marty Holah. Fe alle'r ddau yma chwarae i'r Sgarlets a'r Dreigiau o bosib, ond yn dysgu llai wrth wneud hynny (achos eu bod mewn timoedd gwannach). Pe bai rhain yn chware i tim gwan (e.e. rhanbarth yn y Gogledd) bydde'r datblygiad yn arafach o lawer gan y byddent yn chwarae mewn tim sy'n wannach o lawer.
Mae angen i'r rhanbarthau sy'n bodoli cael carfanau cyn gryfed a phosib er mwyn gallu cystadlu mewn tri cystadleuaeth (cynghrair Celtaidd, cwpan Ewrop a'r EDF (er fod hwnnw'n dod i ben ac fydd cwpan play off y cynghrair Celtaidd yn dod yn ei le)) ar hyn o bryd does dim y chwareuwyr i gael pumed tim (boed hwnnw yn y Gogloedd neu'r cymoedd). Ynglyn a dy bwynt di am chwareuwyr gorau'r uwchgynghrair, does dim digon o chwareuwyr o safon ar gael. Bydde'r rhai o safon yn cael lle yn un o'r rhanbarthau sy'n bodoli yn barod. Does dim diben i ffurfio tim na fydd yn cyrraedd y safon angerheidiol yn y cystadleuathau sy'n bodoli.
Edrych ar yr Alban fel engrhaifft, bu rhaid iddyn nhw cae lawr y gororau (yn draddodiadol hotbed rygbi yn yr Alban) achos bos diffyg chwareuwyr o safon gyda nhw.
Pe bydd Cymru yn cyrraedd y pwynt lle mae digon o chwareuwyr o safon uchel i gynnal pedwar sgwad cryf i'r rhanbarthau sy'n bodoli, a bydd digon dros ben i rhoi galw am bymed tim yna byddaf yn cytuno'n llwyr fod lle i gael tim yn y Gogledd, ar hyn o bryd, dyw'r sefyllfa 'na ddim yn bodoli.